« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Let's Go Crazy!

Categorïau:

Glyn WiseGlyn Wise|12:00, Dydd Llun, 18 Mehefin 2007

Dwi bach yn annwydog wythnos yma - di gor wneud hi braidd! Ar ôl i fi orffen fy PA yng Nghasnewydd, mi oedd hi'n tynnu am 5 o'r gloch y bore arnai'n cyrraedd yn ôl i fy fflat yn Nghaerdydd. Ges i amser ffantastic yn y Clwb, a doeddwn i ddim eisiau i'r noson ddod i ben!

Nes i benderfynu ffonio Lisa (oedd yn BB hefo fi) achos o ni'n gwbod y basa hi dal i fyny, nath i suggestio be am i fi ddal y tren i fyny i Manceinion ati hi! A dyna wnes i , nes i ddal y tren cyntaf tua 8 y bore o Gaerdydd i Fanceinion a mi oeddwn i yna erbyn amser cinio!

Gafon ni amser gret! Yr unig beth, gan bo fi'n edrych ymlaen gymaint i fynd, nes i anghofio mynd a dillad glan efo fi i newid iddyn nhw!

Bore dydd Llun ges i alwad ffon gan fy asiant yn dweud fod angen i fi fynd i Dregaron dydd Mawrth ar gyfer recordio hysbyseb teledu ar gyfer Radio Cymru. Nôl felly ar y tren i Gaerdydd, mi o ni wedi blino ac oedd y syniad o deithio o Gaerdydd draw i Orllewin Cymru yn gwneud i fi deimlo fel crio!!

Ar ôl cyrraedd Tregaron mi oedd popeth yn iawn - diolch byth! Yr unig beth oedd rhaid i fi wneud oedd eistedd tu allan i'r dafarn leol a darllen papur newydd! Doeddwn i ddim yna mwy na awr, methu aros i weld yr hysbys ar y teledu rwan!

Erbyn dydd Iau, mi oedd y tonsilitis yn ôl, a mi oeddwn i'n teimlo'n miserable iawn. Mi oeddwn i'n ffilmio yn sioe gychod Abertawe dydd Iau ar gyfer BBLB, ath hi'n iawn dwi'n meddwl - edrych ymlaen i'w weld ar y teledu, neu ar youtube gan bo fi fel arfer yn colli'r rhaglen ar S4C!

Mi oeddwn i wedi anghofio'r cwbwl bo fy chwaer yn dod draw i fy ngweld dydd Gwener ar ôl iddi orffen gwaith! A'thon ni allan am fwyd a wedyn mynd i nofio, cyn i Annette a'i chariad fynd nôl fyny i'r canolbarth!

Tafwyl drwy'r dydd dydd Sadwrn, a erbyn hyn oedd y tonsilitis yn waeth! Ar ôl i fi gael bwyd a yfed digon o ddwr, o ni'n teimlo'n eitha ar gyfer y rhaglen. Adre wedyn ganol p'nawn a noson o flaen y teledu, er mwyn cael gwaraed o'r annwyd! Gobeithio fyddai'n well wythnos nesaf!

Tan tro nesaf

Glyn

xx