Girls World a'r Carnival Queen!
Mae angen i fi brynu Girls World yn fuan!! Y rheswm? Wel oherwydd fy mod wedi cael fy newis i fod yn rhan o dim y Briodas Fawr ar S4C. Dydd Sadwrn diwethaf yn y Tafwyl mi wnaeth Heledd Cynwal roi sioc anferth i fi, dyna lle oeddwn i'n meindio fy musnes pan nath na rywun roi eu dwylo dros fy llygaid a fy nychryn. Nid just Heledd Cynwal oedd yno, ond criw camera a Huw Chiswell! Mi oeddwn nhw wedi dod i'r Mochyn Du yng Nghaerdydd i roi sypreis i fi, ac i ddweud wrthai fy mod i yn mynd i helpu drefnu'r 'Briodas Fawr' ddiweddara'. Mi oedd Heledd a'r criw yn gwrthod dweud wrthai be yn union fasa fy 'job' i, ac roedd yn rhaid i fi aros tan oedd criw y 'Briodas Fawr' i gyd yn dod at ei gilydd yn y gogledd.
Ges i hedfan o Gaerdydd i Fali am y tro cyntaf dydd Mawrth oedd yn brofiad! Ges i hefyd gyfarfod y pâr sy'n priodi mewn gwesty moethus yn Neganwy. Mae'n rhaid i fi ymddiheuro o flaenllaw i Anna a Lee y ddau sy'n priodi, gan mai fy nhasg i ydi gwneud y colur, wacsio a massage! Dwi ddim yn siwr iawn lle i ddechrau a dweud y gwir - ond mae'n debyg fod gen i ddau fis i ymarfer a pharatoi!
Rhwng yr holl 'chwarae' efo fy 'Girls World' dwi'n trio gwylio gymaint o Big Brother ag y gallai. Mae'r rhaglen wedi gwella dipyn ers i Liam, Brian a Johnathan ddod fewn i'r ty! Hefyd wythnos yma, dwi di bod yn ffilmio ar gyfer 'The B Team' ar BBLB. Un peth dwi ddim yn ei ddeall ydi pam fod Nicky yn cael mynd i gyfweld pobl mewn premiers yn Llundain, a ma nhw'n gyrru fi i farchand bysgod yn Abertawe?!
Dydd Sadwrn mi oedd Magi a fi'n darlledu o garnifal Trimsaran. Doeddwn ni erioed di bod yn Nhrimsaran o'r blaen, a ddim cweit yn siwr lle oedd o! Ond dwi'n gwybod rwan - mae o rhwng Llanelli a Chydweli. A hefyd dwi 'di dysgu fod brics o Drimsaran wedi cael eu defnyddio i adeiladu'r 'Sydney Harbour Bridge' yn Awstralia!
Mi oedd pobl Trimsaran yn glen iawn, mi oedden nhw wedi paratoi buffet ar ein cyfer - oedd yn neis iawn. Mi wnaeth pwyllgor y carnifal ofyn i Magi a fi goroni'r brenhines y carnifal hefyd - oedd yn mega cool!
Er fy mod i wedi mwynhau fy hun yn Nhrimsaran, o ni'n falch iawn o gael mynd adre, gan fy mod i dal yn annwydog ac yn dioddef o donsilitis ers bron i bythefnos bellach. Gobeithio fyddai'n well erbyn wythnos nesaf!
Tan tro nesaf!
Hwyl
Glyn
x

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.