Trens, Plens a automobils!!
Dydd Llun es i draw i Lanberis i ffilmio ar gyfer rhaglen newydd i'r BBC sef 'National Treasures of Wales', fydd ar y teledu mis Awst dwi'n meddwl. O ni yna i sôn am bwysigrwydd y diwydiant llechi i Gymru. Ar ôl gorffen gweithio es i adre i Blaenau i gael dipyn bach o TLC gan Mam!
Off i 'Werddon dydd Mercher i weld Spiral. Ges i'r tren o Blaenau i Gaergybi yna'r ferry ar draws i Ddulyn. Ges i amser mega da. Ar ôl cyrraedd athon ni i siopa, nes i brynu par o sgidiau gwyn a crys newydd ar gyfer mynd allan i Temple Bar noson honno. Nes i 'really' mwynhau fy hun, yn yfed cider yn Temple Bar, a dawnsio drwy'r nos efo merch brydferth iawn efo gwallt hir melyn o'r enw Niamh. Ges i siom enfawr ar ddiwedd y nos, pan nes i ffeindio allan fod ganddi hi gariad! Am wastraff amser!
Gan bo fi'n aros yn ty Spiral, mi oedd rhaid i fi rannu stafell wely efo Spiral a'i gariad o Latfia, bach yn 'awkward'oedd hi ar adaegau!
Y bwriad oedd gadael Iwerddon ar y dydd Iau a cael diwrnod adre yn Blaeanu cyn teithio nôl ar y tren i Gaerdydd dydd bore Gwener.
Ond o na! Ar ôl cinio mi aeth tad Spiral a fi 'r porthladd i ddal y ferry adre. Ond a'th o a fi i'r porthladd anghywir. Mi aeth o a fi i Dun Laighaire yn hytrach na i Ddulyn, a felly nes i golli'r ferry a gorfod aros noson arall!
Syth allan i ganol Dulyn eto efo Spiral a dal y ferry yn ôl bore Gwener yn lle, ond y ferry anghywir, nid y super duper ferry sy'n cymeryd 2 awr i fynd drosodd, ond es i ar y ferry sy'n cymeryd 6 awr!!
Ar ôl teithio drwy'r dydd dydd Gwener, nes i gyrraedd nôl yng Nghaerdydd am 1 o'r gloch y bore, bore ma!!
Gwely i fi ar ôl y rhaglen p'nawn ma - ma gen i farathon i redeg mewn 3 wythnos!!!!!
Tan tro nesaf!
Hwyl
Glyn
x

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.