« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pam fi Duw?...

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|12:00, Dydd Sadwrn, 17 Mawrth 2007

Wythnos brysur arall i li'lle ol' me. Nos Wener nes i, Robin C2 a Huw M deithio i'r Ffatri Bop ar gyfer rownd ranbarthol y de ddwyrain, Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru a C2, Radio Cymru. Mae'r Ffatri Bop yn Porth - sef nec o ddy woods fi.

Ma Porth yn lle fab, ond mae'n dod ag atgofion eitha gwael nol atai. Ma'r dre ryw 5 munud o Bontypridd ac roedd arfer bod clwb nos yna o'r enw Charmonds. Dyna oedd y lle i fynd pan oeddwn ni yn y 6ed dosbarth. Nes i a fy ffrind gore yn yr ysgol, Merril, benderfynu cynnal ein parti pen-blwydd yn 18 oed yn Charmonds. Nethon ni wahodd y crem de la crem o fechgyn golygus ysgol Rhydfelen, ond gan ma dim ond like 5 oedd hwna, nethon ni hefyd wahodd disgyblion Coed y Lan a Cardinal Newman (oedd yn reit ryff i fod yn onest)...

Aaaanyway, nethon ni brintio gwahoddiadau a phopeth (odd e fel Super Sweet 16 - y rhaglen yna ar MTV) a dweud wrth bawb i fod tu fas i Charmonds erbyn 7. Nath ryw 500 o chavs Ponty droi lan yn y Porth (nifer fawr ohonynt wedi dod â'i trwyddedau gyrru amheus iawn.. "Be yw dyddiad geni ti?" "Uuuhh, Ionawr y 6ed 1983.. na.. uhh 1943... nooo - uuhh - ang on... 1973?...") ond yn anffodus doedd perchennog Charmonds ddim ymhlith y 500 o bobol oedd wedi troi lan y noson honno. Nath y perchennog "anghofio" bo ni di trefnu parti yn ei glwb nos.

Ond chware teg i'r heddlu - nethon nhw droi lan i "ymuno yn yr hwyl" ar ôl i'r bobol leol ddechre cwyno. Ymateb fi a Merril i'r crisis yma oedd rhedeg i'r dafarn agosa ac yfed cymaint o Diamond White a oedd yn bosib. Doedden ni ddim yn boblogaidd iawn y bore wedyn yn stafell y 6ed - ac i fod yn onest, dwi wastad wedi beio Porth am yr wythnos o fwlio nes i ddiodde yn sgil y non-parti yn Charmonds.

Ond ta waeth, roedd y noson yn y Ffatri Bop yn ace iawn. 8 band wedi cystadlu, bob un ohonyn nhw yn wych ond dim ond 3 oedd yn cael mynd ymlaen i'r rownd nesaf, a'r tri oedd Cymro-C, Random Elbow Pain a Stamina Straightjacket. Nes i gyfweld â'r bandiau i gyd. Roedd Cymro-C yn hilarious - criw ifanc o Aberdar - mor ddrygionus, mor cheeky, mor annwyl ac yn atgoffa fi gymaint o fy ffrindiau ddoth draw i ddathlu fy non-pen-blwydd yn Charmonds.

Dydd Sadwrn, roedd rhaglen Dodd a Wise yn dod yn fyw o'r Mochyn Du yng Nghaerdydd gan bo Cymru yn herio'r hen elyn yng nghêm ola' pencampwrtaeth y Chwe Gwlad. Roedd Steve yn y stwidio a Terwyn druan, mas yn oerfel Stryd Westagte. Ges i a Glyn lot o hwyl yn y Mochyn Du, yn enwedig pan nes i ei herio i dynnu peint perffaith o Guinness gan ei fod yn ddiwrnod Padrig Saint.

Erbyn i ni orffen yn y Mochyn Du am 2y pnawn - roedd y lle yn orlawn. Doeddech chi ddim yn gallu symud yna. Pawb di clywed ein bod ni yna mae'n rhaid! Gan ei fod yn amhosib mynd i'r ty bach hyd yn oed, gan ei fod mor llawn, nes i benderfynu mynd adre a chael parti bach fy hun yn Strangetown. Falle dyna ddyle fi a Merril wedi neud i ddathlu ein pen-blwydd yn 18!

Magi xxxx