Una Paloma Blanca...
Gwyliau. Ma' nhw fel bysus. Ti'n aros ages am un i ddod a wedyn ma 5 yn dod rownd y gornel ar unwaith. Yr wythnos yma, rydw i wedi bod yn trefnu fy nghwylie haf. Ma' 3 'da fi ar y gweill hyd yma.
- Dathliad pên-blwydd fi, Alex a Marge yn 30. Meddwl mynd i Las Vegas
- Priodas fy chwaer, Beth. Mae'n priodi yng Nghyprus
- Priodas Bryn, ffrind Alun. Yn Verona. Lle r'odd Romeo a Juliette yn byw.
Canlyniad yr holl wylie yma wrth gwrs yw fy mod i yn brasic. Hollol sgint. Felly does dim lot o newyddion gen i achos does gen i ddim arian i neud unrhywbeth. Bum deal.
Nes i fynd i weld Dream Girls yn y sinema gyda Emma nos fercher. Fab iawn. Beyonce yn rili denau though. Mae'n debyg bo hi di byw ar bupur du a maple syryp am 6 mis er mwyn colli pwyse. Sy ddim yn fawr nac yn glyfar. Have a pie ife?
Ond uchafbwynt yr wythnos - heb os nag oni bai, oedd ymddangos yn y South Wales Echo. Roedd rhaid i fi ddweud be oedd yn fy ffrij (gwin a llysie wedi pydru...). Yr Echo yw fy hoff babur, ac yn fy marn i, os chi yn yr Echo - chi wedi cyrraedd. Ma mam yn mynd i fframio fe fi'n meddwl. Da iawn fi.
Traaaaaa...
M xxxx

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.