« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Wythnos o baratoi yn sedd Daf Du!

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|12:00, Dydd Sadwrn, 6 Ionawr 2007

Dydd Mawrth, 2il o Ionawr. Nol yn y gwaith. Mingin'. Ar ôl Nadolig gwych yn neud dim ond bwyta, yfed, cysgu a gwylio hen ffilmiau ar y teledu (Superman a Chitty Chitty Bang Bang oedd y goreuon yn fy marn i.. Child Catcher? Moooor scary... ) - roedd meddwl am fynd nol i gwaith mor depressing. Odd e just fel o fi'n teimlo pan odd gwyliau ysgol yn dod i ben - grim. Roedd y ffaith bo fi'n cadw sedd Daf yn gynnes am wythnos yn neud pethe'n waeth fyth. Sioe Siartie gynta'r flwyddyn oedd yn disgwyl amdana fi - oh fabulous! Y Sioe Siartie yw'r rhaglen fwya cymleth ar C2 - a ma Daf yn wych ar y ddesg radio - tra bo fi, ar y llaw arall - ddim. Dechre postif iawn i 2007 felly!

Gyda'r sioe siartiau di mynd yn iawn nos Fawrth (Mim Twm yn rhif 1 - Llongyfarchiadau mawr Gai!) o fi'n teimlo lot gwell erbyn dydd Mercher ac yn edrych mlaen at gael croesawi Nia Medi ac Iwan England mewn i adolygu Cd's. Es i i'r un ysgol ag Iwan - odd e'n iau na fi - ond lot mwy brainy. Fi'n cofio athrawes Gymraeg yn dweud wrthai y dylswn i ddilyn esiampl Iwan a chanolbwyntio mewn gwersi achos gath e 100% mewn prawf Mabinogi - a ges i 15%. Ond serch hynny - ni'n dod mlaen yn dda ac odd cal Iwan a Nia mewn yn y stiwdio da fi yn ace.

Roedd yr hyfryd Ian Cotrell mewn 'da fi nos Iau yn datgleu'r newyddion diweddara am y sîn gerddorol yng Nghymru. Ma' Ian yn ace. A ma da fe ddillad rili neis hefyd. Yn anffodus doedd e ddim yn fodlon cadarnhau neu wadu'r sîon ei fod e wedi cael ei daflu mas o dafarn yng Nghaerdydd dros y flwyddyn newydd. Yn bersonol - sa i'n credu'r peth. Mae e lawer rhy barchus - ma daps Ian wastad yn lan iawn - arwydd da yn fy marn i.

Nos Wener nes i ddim cysgu winc. Am 2.30 y bore o fi'n gwylio siannel siopa Americanaidd. O ni mor agos â hyn at archebu The Magic Flab-Busting Water Bed. Peryglus. Dath 7.30 bore Sadwrn lot rhy sydyn ac erbyn i fi gael 85 paned o goffi, (allai ddim hyd agor fy llygaid yn y bore heb gael tunnell o gaffin yn fy ngwaed. Fi'n ystyried cael drip wrth fy ngwely, felly all y caffin fynd yn syth mewn i fy ngwythiennau bob bore,) roedd Sian Alaw a Glyn tu fas y ty yn aros amdanai.

Ar ôl cyrraedd y swyddfa nethon i gymryd hanner awr yn edmygu lluniau Glyn yn y Western Mail cyn dechrau ymbaratoi yn feddyliol ac yn gorfforol am y rhaglen - chydig bach o Yoga ac odd Glyn a fi'n barod i rocio'r genedl!

Odd y ddau ohonon ni yn nerfus ar ddechre'r rhaglen ond erbyn hanner ola'r rhaglen roedd Glyn a fi 'di dechre joio. Nath yr awr hedfan a chyn i ni droi rownd roedd y rhaglen gynta' ar ben. Odd Glyn yn fab - mor naturiol a llawn egni. Ma'r ddau ohono ni'n edrych mlaen at wythnos nesa a'r wythnosau i ddod - ma pethe'n mynd i wella a gwella.

Ath Siân, Mair, Robin a fi mas am ginio i ddathlu'r rhaglen gyntaf b'nawn Sadwrn. Yn anffodus roedd yn rhaid i Glyn fynd i'r dre i recordio vox-pops ar gyfer Celebrity Big Brother, ond nethon ni godi gwydr iddo fe yn ei absenoldeb. Nath Ian Cottrell ymuno yn y dathlu hefyd. Roedd e'n gwisgo daps gwyn glan. Lyfli.

Magi

xxx