« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Llosgi'r gannwyll....

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|12:00, Dydd Sadwrn, 20 Ionawr 2007

Ar ôl cwyno fy ffordd drwy f'egofnod dwetha - fyddwch chi'n falch o glywed bo fi'n teimlo lots gwell yr wythnos ma.

I ddatlhu'r ffaith bo fi'n teimlo'n well nes i a fy nghariad, Alun, fynd i weld White Noise 2- The Light. Ma fe'n eitha spooky achos ma'n ffilm am

bobol sy bron a marw ond wedyn yn dod nol i fywyd - ac ma nhw'n dod ag ysbrydion nol gyda nhw. Ma Alun ofn ffilmiau arwsyd felly odd rhaid i fi ddal ei law drwy'r holl ffilm. Nes i a Alun fynd i weld Snakes on a Plane yn y sinema ychydig fisoedd yn ôl, a wir i Dduw, nath y dyn o'n blaenau ni fynd i'r ty bach yn ei drowsus. A nid number one chwaith. Number two. Plops. Yn ei drowsus. A ma hynny'n stori hollol wir.

Nos Fercher - Glyn oedd yr hostess with the mostess. Ethon ni draw i'w fflat i gael soiree anffurfiol. Ma'r fflat yn lyfli a nath Glyn neud bwffe blasus i ni gyd. Daeth Joy, cymdoges Americanaidd Glyn, lan i ymuno yn y parti. Roedd Glyn a Robin C2 yn hapus iawn i'w gweld achos roedd hi'n edrych fel Pamela Anderson gyda ffrog ddu dynn arno. O fi'n teimlo fel fat-bap wrth ei hymyl. Roedd hi moooor gorgeous. Falle dyna nath beri i fi golli bob gêm o bobbit.

Nos Iau - es i a fy ffrindiau Emma a Lydia mas i gael swper. Sdim byd gwell na chael noson 'da'r merched. Gossip a gwin oedd canolbwynt y noson felly erbyn bore dydd Gwener, o fi'n teimlo chydig bach yn dodjy. Doedd hynny ddim yn beth da - na chwaith yn beth proffesiynol - achos roeddwn ni'n westai ar Wedi 3 y pnawn hwnnw!

Ar ôl newid 64 o weithiau, penderfynais wisgo ffrog goch i fynd ar y teli-bocs. Dwi erioed di bod ar y teledu felly o fi'n nerfys iawn, ond roedd John Hardy ac Elinor Jones yn lyfli ac aeth pethe'n ok. Allai hefyd ddiolch i'r ddynes golur. Roedd ganddi job a hanner cuddio olion y noson flaenorol - ond ar ôl tunnell o poly-filler roeddwn i'n barod i wynebu'r genedl...

Yn syth ar ôl rhaglen C2 ddydd Sadwrn gyda Glyn, nes i nedio ar y tren i Lundain i ddathlu pen-blwydd un o fy ffridnie gore Sara. Nethon ni fynd i Cafe de Paris i gael swper a wedyn ymlwybro draw ir clwb nos i gael dawns. Nath fy ffrindiau Louise ac Alex fynd i'r bar a gofyn am 5 G'n'T. Daeth y ddwy nol yn wyn fel y galchen. Gostiodd y diodydd £50 iddyn nhw. Am 5 diod! Ellwch chi brynu diod i bawb yn y dafarn am y pris yna yn Angharads yn Ponty! Ond roedd hi'n noson a hanner a phawb 'di mwynhau. Pen-blwydd Hapus iawn i ti Sar! Ymlaen at y dathliad nesa - fy mhenblwydd i ym mis Mawrth.... 25 o'r diwedd!.....

Magi

xxx