BBC Yfory: Seminar Caerdydd
Cynhaliwyd y trydydd seminar ar Adolygu’r Siarter gan yr Ymddiriedolaeth yng Nghanolfan y Mileniwm ar 20 Hydref 2015. Cadeiriwyd y digwyddiad gan Bethan Rhys Roberts.
Cyflwynwyd y digwyddiad gan Rona Fairhead, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, ac Elan Closs Stephens, aelod Ymddiriedolaeth y BBC dros Gymru. Tynnodd Rona sylw at ychydig o’r gwaith yr oedd yr Ymddiriedolaeth wedi bod yn ei wneud gyda chynulleidfaoedd fel rhan o broses adolygu’r Siarter. Rhoddodd Elan drosolwg o’r swyddogaeth bwysig yr oedd y BBC wedi’i chwarae dros y blynyddoedd.
Fformat y digwyddiad oedd panel yn trafod rhai o’r materion a ofynnwyd gan Lywodraeth y DU ym Mhapur Gwyrdd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar y Siarter, ac yna gwahodd y rhai oedd yn bresennol i ymuno yn y drafodaeth.
Ar y panel gydag Elan oedd yr Athro Justin Lewis, Athro Cyfathrebu, Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd, Astudiaethau Cyfryngau a Diwylliannol; James Purnell, Cyfarwyddwr y BBC, Strategaeth a Digidol; Paul Islwyn Thomas, ymgynghorydd darlledu a Chynhyrchydd Gweithredol; a Jane Tranter, PSG Bad Wolf Productions.
Trafodwyd llawer o faterion gan y panel, yn cynnwys maint a chwmpas y BBC, darparu rhaglenni a gwasanaethau nodweddiadol o ansawdd uchel, a’r pwysigrwydd o sicrhau bod cynrychiolaeth gywir o’r cenhedloedd datganoledig ac atebolrwydd i Seneddau a chynulliadau datganoledig mewn unrhyw system lywodraethu newydd.
Gallwch wylio trafodaeth y panel yma:
Roedd llawer o’r drafodaeth o’r llawr yn canolbwyntio ar ddarlledu yng Nghymru a sut orau i wasanaethu cynulleidfaoedd yng Nghymru. Tynnwyd sylw at y ffaith fod y dirwedd ddarlledu yng Nghymru yn golygu bod gan y BBC swyddogaeth bwysig i’w chwarae fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mewn cenedl ddatganoledig.
Cydnabuwyd fod llwyddiant rhaglenni fel Dr Who a Torchwood wedi creu canolfan ardderchowgrwydd ar gyfer drama yng Nghymru. Fodd bynnag, y cam nesaf oedd sicrhau bod hyn yn cael ei ddefnyddio i greu gwir bortread o fywyd yn y Gymru fodern. Nododd y mynychwyr er gwaethaf bod llawer o raglenni ffeithiol o ansawdd uchel wedi cael eu gwneud gan wneuthurwyr rhaglenni yng Nghymru, roedd y strwythur comisiynu presennol yn golygu, y tu allan i fyd y ddrama, ei bod yn anodd cael comisiynau o Gymru ar deledu rhwydwaith. Roedd angen ailfeddwl yn sylfaenol ynglŷn â sut yr oedd comisiynu yn gweithredu drwy’r BBC, gyda rhywfaint o ddatganoli yn y broses. Mae’n rhaid i’r BBC ddarganfod ffyrdd o ddefnyddio talent bresennol a thalent newydd yng Nghymru i ddweud straeon sy’n atseinio yng Nghymru yn ogystal â gweddill y DU.
Un o’r trafodaethau allweddol oedd ynglŷn â’r ddarpariaeth o raglenni yn yr iaith Saesneg a oedd wedi cael eu gwneud yng Nghymru ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru. Dywedodd y mynychwyr y bu lleihad sylweddol mewn cyllid rhaglenni a gynhyrchwyd yn lleol ar gyfer cynulleidfaoedd lleol dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, a oedd wedi arwain at ddiffyg portreadu’r genedl iddi’i hun. Cydnabuwyd gan y BBC fod hyn yn broblem, ond nid oedd wedi dod o hyd i ateb – ac roedd y rhaglenni hyn yn bwysig i gynulleidfaoedd yng Nghymru, ac roedden nhw’n ffordd allweddol o gynnal a datblygu talent oddi ar yr awyr ac ar yr awyr.
Gallwch wylio’r drafodaeth lawn yma: