Main content

Arolygu BBC Radio 4 a BBC Radio 5 live

Elan Closs Stephens

Ymddiriedolwr i Gymru

Yn yr un modd â miliynau o bobl eraill, rydw i'n cyfaddef yn agored fy mod i'n gaeth i radio. Rydw i'n deffro i glywed newyddion a materion cyfoes; rydw i'n gyrru'r car i gyfeiliant rhaglenni cylchgrawn, drama a cherddoriaeth; Rydw i'n coginio (un o'm hoff ddiddordebau) wrth wrando ar drafodaethau, ac rydw i'n gwrando ar bodlediadau wrth fynd â'r ci am dro. Mae gen i ddiddordeb brwd yn Rygbi'r Chwe Gwlad, Pêl-droed Menywod a Wimbledon. Pa orchwyl sy'n well fel un o Ymddiriedolwyr y BBC nag arwain cipolwg yr Ymddiriedolaeth ar sefyllfa Radio 4, Radio 4 Extra, BBC Radio 5 live a 5 live sports extra?

Cafodd yr ymgynghoriad 5,200 o ymatebion gan dalwyr ffi'r drwydded, a buom yn craffu ar bob un ohonyn nhw. Fe wnaethon ni gomisiynu ymchwil cynulleidfa meintiol, cyfweld rhanddeiliaid ac edrych ar ddata ariannol a pherfformiad. A oedd y gwasanaethau radio gwerthfawr a phoblogaidd hyn yn cyflawni eu cylchoedd gwaith ac yn bodloni dyheadau gwrandawyr?

Ni fydd yn syndod i wrandawyr ffyddlon BBC Radio 4, BBC Radio 5 a'u chwaer orsafoedd ein bod ni wedi dod i'r casgliad bod y gwasanaethau mewn cyflwr da. (Nid yw hynny yr un fath â dod i'r casgliad nad oed angen cynnal archwiliad.) Roedd cynulleidfaoedd, rhanddeiliaid, a hyd yn oed gwasanaethau eu cystadleuwyr o'r farn bod y gorsafoedd o ansawdd uchel ac yn nodedig. Dywedodd un gwrandawraig: "Byddwn yn fodlon talu fy ffi drwydded yn llawn i gael R4 yn unig - mae'n orsaf sy'n cyfoethogi bywyd!"

Mae cyrhaeddiad wythnosol cyfartalog BBC Radio 4 dros 10.7 miliwn erbyn hyn, ac mae podlediadau'r orsaf yn cael eu llwytho i lawr dros 4 miliwn o weithiau'n wythnosol. Mae BBC Radio 4 Extra yn cyrraedd 1.8 miliwn o bobl yr wythnos erbyn hyn er gwaethaf toriadau yn y gyllideb ar gyfer rhaglenni gwreiddiol. Bu gostyngiad yn nifer gwrandawyr BBC 5 live, yn enwedig ymysg gwrandawyr iau, ond mae boddhad gwrandawyr yn dal yn uchel ar 82%. Dywedodd un gwrandäwr "Roedd y darllediadau o'r digwyddiadau yn Ffrainc ynghylch […] Charlie Hebdo […] yn EITHRIADOL.”

Felly, a oes materion sy'n peri pryder? Mae'r Ymddiriedolaeth yn disgwyl i BBC Radio 4 ddiogelu ansawdd ac amrywiaeth y genres hynny nad ydyn nhw'n cael eu cynnig yn gyffredinol gan orsafoedd radio eraill y Deyrnas Unedig - comedi a drama, er enghraifft. Wedi'r cyfan, fel y clywson ni mewn trafodaeth o amgylch y bwrdd gyda dramodwyr, cynhyrchwyr a Chymdeithas yr Awduron, nid oes llwyfan arall yn y Deyrnas Unedig sydd â'r un faint o amrywiaeth ag allbwn dyddiol BBC Radio 4.

Rydyn ni hefyd yn ymwybodol bod y Deyrnas Unedig yn wladwriaeth amrywiol. Mae datganoli gwleidyddol yn arwain at bolisïau gwahanol yn y gwledydd. Mae cynnydd mewn amrywiaeth ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, ac mae angen clywed lleisiau a diddordebau merched yn fwy amlwg hefyd. Mae Radio 4 a 5 live angen adlewyrchu cyfoeth y gymysgedd sydd yn y Deyrnas Unedig o fewn cyfanwaith cydlynol. Maen nhw'n ymwybodol o'r angen hwn, wrth gwrs, gan eu bod nhw'n ddarlledwyr cenedlaethol uchel eu parch. Ond mae hwn yn darged sy'n symud mewn tirwedd newidiol.

Roedd gennym ni rai pryderon ynghylch canfyddiadau gwrandawyr o 5 Live a sut mae hyn yn cyfateb i realiti rhaglennu. Mae llawer o bobl yn credu mai gorsaf chwaraeon yw 5 live. Mewn gwirionedd, mae tri chwarter o'i hallbwn yn newyddion a materion cyfoes - yn unol â'i thrwydded gwasanaeth. Gan hynny, rydyn ni wedi gofyn i 5 live edrych ar y ffordd y mae'n marchnata ac yn hyrwyddo ei hun.

Rydyn ni'n cytuno â rheolwyr y BBC bod y cysyniad o "newyddion sy'n torri" wedi dyddio braidd yn yr oes hon o newyddion symudol ac ar-lein. Ond rydyn ni hefyd yn gwybod bod gwrandawyr yn gwerthfawrogi'n fawr iawn dôn ysgafnach y drafodaeth wybodus am faterion cyfoes ar 5 live, ac agosatrwydd a natur gyfeillgar yr orsaf. Rydyn ni hefyd wedi symud cais y rheolwyr i ehangu 5 live sports extra i gam rheoleiddiol ffurfiol, gan ei fod yn un o ddyletswyddau Ymddiriedolaeth y BBC i ystyried pwy allai gael eu heffeithio wrth ehangu gwasanaethau'r BBC.

Rydyn ni hefyd yn gwybod bod cyllidebau'r BBC dan bwysau cynyddol, ac yn ddiweddar cyhoeddodd y Canghellor na fyddai'r Adran Gwaith a Phensiynau yn darparu cost trwyddedau teledu am ddim pobl dros 75 oed i'r BBC. Felly, mae'r Ymddiriedolaeth yn ymwybodol o'r angen i'r BBC gydbwyso gwasanaethu ei wrandawyr radio ffyddlon gystal ag y bo modd, gan gadw costau'n isel yr un pryd

Ar ddechrau'r blog hwn roeddwn i'n sôn am wrando ar bodlediadau wrth fynd â'r ci am dro. Un o'r pethau mae'r adolygiad hwn wedi ei amlygu o ddifrif yw sut mae ein harferion wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth mewn llai na degawd. Pwy sy'n meddwl am fyd heb ffôn clyfar neu iPad neu app erbyn hyn? Neu fyd heb YouTube, Spotify neu Netflix? Lai na mis yn ôl, ail-lansiwyd BBC iPlayer Radio, gan arwain at dros filiwn o raglenni'n cael eu llwytho i lawr yn ystod ei fis cyntaf! Y cynnwys mwyaf poblogaidd oedd drama ar Radio 4. Efallai nad yw'n syndod mai'r awr fwyaf poblogaidd ar gyfer llwytho i lawr oedd 10 o'r gloch nos Sul, wrth i bobl baratoi ar gyfer cymudo, gyrru neu hedfan ar ddechrau'r wythnos waith - neu yn fy achos i, pob un o'r rhain, yn ogystal â mynd â'r ci am dro!

O ganlyniad i'r newidiadau hyn mewn ymddygiad, cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth heddiw hefyd ei bod wedi caniatáu i raglenni llafar fod ar gael ar-lein hyd at saith diwrnod cyn y darllediad. Bydd llawer o'r rhain yn rhaglenni blasu, gan obeithio denu gwrandawyr at wasanaethau. Bydd eraill yn denu gwrandawyr at yr App Radio newydd ac at BBC Ar-lein.

Gan fod yr Ymddiriedolaeth yn cynrychioli buddiannau'r rhai sy'n talu'r drwydded yn yr Adolygiad o'r Siarter, mae'r cwestiwn ynghylch lle gall gwrandawyr ddod o hyd i wasanaethau yn dod yn bwysicach byth, ac yn ein harolwg rydyn ni eisiau gwybod sut rydych chi'n meddwl y dylai'r BBC ymateb i arferion sy'n newid ynghylch y cyfryngau.

Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol bod ffi'r drwydded hefyd yn talu am ddarpariaethau radio (ac ar-lein). Nawr yw'r amser i feddwl faint o bethau rydych chi'n eu cael am eich taliad o £145.50 y flwyddyn. Cofiwch ddweud eich dweud ar werth radio i chi ac ar ddatblygiadau newydd fel rhan o ymgynghoriad BBC y Dyfodol.

More Posts

Previous

Why we're consulting again on BBC Three

Next

Tomorrow's BBC – seminar series