Esboniad o fesuriadau imperialaidd.
Beth yw mesuriadau imperialaidd?
Ry ni i gyd yn dysgu sut i ddefnyddio mesuriadau metrig.
Ond cyn bod mesuriadau metrig wedi cael eu dyfeisio ro ni'n defnyddio'r system imperialaidd.
Ac ry'n ni'n dal i ddefnyddio rhai o'r mesuriadau hynny.
Er enghraifft, pa mor dal yw'r adeiladwr? Chwe troedfedd?
Chwe troedfedd wedes i, dim chwe troed!
Mae'n chwe troedfedd o uchder sy'n hen ffordd o fesur hyd - troedfeddi a modfeddi.
Gallwn ei fesur, hefyd, gan ddefnyddio centimetrau.
Mae chwe troedfedd yr un peth â 183 centimetr.
Dewch i weld faint mae'n ei bwyso mewn pwysi, mesur imperial ar gyfer pwysau.
Mae pwys ychydig yn llai na hanner cilo, felly mae e'n pwyso 185 pwys.
Gawn ni ddefnyddio'r system fetrig plis?
O'r gorau… 84 cilo.
Ffîw!
Hen unedau mesur hyd yw milltiroedd, troedfeddi a modfeddi. Mae rhain yn cael eu galw'n unedau hyd imperial ond dydyn nhw ddim fel arfer yn cael eu defnyddio mewn mathemateg erbyn hyn.
- Mae 12 modfedd mewn troedfedd.
- Mae modfedd yn hafal i tua 2.5 centimetr.
- Mae troedfedd yn hafal i tua 30 centimetr.
- Mae milltir yn hafal i tua 1.6 cilometr.
More on Mesurau ac arian
Find out more by working through a topic
- count3 of 6

- count4 of 6

- count5 of 6

- count6 of 6
