Sut i gyfrifo arwynebedd
Wyt ti'n iawn? Ti'n edrych ar goll.
Dwi'n trio cyfrifo faint o deils sydd eu hangen ar gyfer y wal 'ma, mêt.
Dwi'n siwr allwn ni wneud hynna.
Gall defnyddio sgwariau helpu.
Os yw hwn yn mesur un uned a hwn yn mesur un uned yna un lluosi un yw un sgwâr.
Beth am un arall?
Os yw hwn yn bum uned a hwn yn ddwy…
…yna pump lluosi dau yw deg, felly mae deg sgwâr gyda ni.
Gallwn ni wneud hyn ar gyfer unrhyw siâp ry ni am fesur lle mae'r onglau i gyd yn onglau sgwâr.
Mae dy wal yn chwe uned ar draws a phedair i fyny.
Felly os y'n ni'n lluosi chwech â phedwar cawn ni wybod sawl sgwâr sy' angen.
Chwech pedwar yw 24. 24 o deils.
Waw. O'dd hynna'n glou!
Cyfrifo arwynebedd
I weithio allan beth yw arwynebedd sgwâr neu betryal, lluosa’i uchder gyda’i led.
Os yw’r uchder a’r lled mewn cm, bydd yr arwynebedd mewn cm². Os yw’r uchder a’r lled mewn m, bydd yr arwynebedd mewn m².
Mae gan sgwâr sydd ag ochrau 5 m arwynebedd o 25 m², achos mae 5 × 5 = 25.
More on Mesurau ac arian
Find out more by working through a topic
- count4 of 6

- count5 of 6

- count6 of 6

- count1 of 6
