Mae Cymru’n adnabyddus ledled y byd am ei chestyll. Oeddet ti’n gwybod bod dros 600 o gestyll yn Nghymru, sy’n fwy fesul milltir sgwâr nag unrhyw le arall yn y byd?
Mae rhai cestyll yn dal i sefyll ar ôl mil o flynyddoedd, tra bod eraill yn adfeilion erbyn hyn. Mae llawer ohonyn nhw’n gestyll brodorol Cymreig a gafodd eu hadeiladu gan aelodau o’r llinach frenhinolAelodau o’r teulu brenhinol yn nhrefn eu teyrnasiad. Gymreig mewn ardaloedd pwysig.
Fodd bynnag, cafodd y cestyll mwyaf eu hadeiladu gan y Normaniaid yn dilyn eu concwest yn 1066.
Fideo - Cestyll
Croeso i Gymru y 13eg ganrif, lle y ffordd i ennill tir a phŵer oedd ymladd brwydrau gwaedlyd. Felly, os oeddet ti’n frenin o Loegr neu yn dywysog o Gymru roedd angen castell arnat ti.
Yng nghanol Eryri mae castell Dolwyddelan, enghraifft berffaith o gaer Gymreig a fyddai’n sicr wedi bod yn dyst i lawer o frwydro. Dw i'n gwybod nad ydy o’n edrych fel llawer heddiw, ond cafodd y castell gwych yma ei adeiladu ar ddechrau'r 13eg ganrif - tua'r flwyddyn 1210, dros 800 mlynedd yn ôl.
Cafodd ei adeiladu gan Llywelyn Fawr er mwyn rheoli pwy oedd yn teithio trwy ei deyrnas fynyddig. Dim ond un enghraifft o’i gestyll yw hwn - fe adeiladodd gestyll Dolbadarn a Cricieth, Castell y Bere a sawl un arall hefyd.
Roedd Llywelyn Fawr yn feistr ar adeiladu cestyll. Roedd y tyrau crwn a'r gorthwyr siâp D yn dangos ei ddyfeisgarwch ac yn gwneud ei gestyll yn wahanol iawn i rai Edward I. Pe bai’r waliau ma’n gallu siarad, bydden nhw’n llawn straeon.
Newidiodd cestyll dros y canrifoedd, ond arhosodd eu pwrpas yr un peth. I gadw'r bobl dda yn ddiogel a chyfforddus ar y tu mewn - ar wahân i'r rhai yn y dwnsiwn wrth gwrs - ac i gadw'r gelyn draw. Roedd gan gestyll fwy nag un swyddogaeth, ro'n nhw'n llawer mwy na chaer. Roedden nhw’n gartref, yn farchnad ac yn symbol o bŵer. Roedd pobl yn gallu addoli ynddyn nhw a hyd yn oed priodi am fod capeli wedi’u hadeiladu o fewn y waliau.
Oeddet ti'n gwybod bod gan Gymru fwy o gestyll i bob milltir sgwâr nag unrhyw wlad arall yn y byd? Ond nid y tywysogion Cymreig adeiladodd bob un, cafodd rhai eu hadeiladu gan Edward I, er mwyn cadw trefn ar bobl Cymru. Wrth gwrs achosodd hyn llawer iawn o drafferth. Doedd dim croeso i bobl Cymru tu mewn i waliau cestyll Edward. Byddai Llywelyn Fawr yn troi yn ei fedd.
Cestyll cynnar Cymru
Cafodd nifer o safleoedd caerog, fel bryngaerSafle ar ben bryn sy’n cael ei amddiffyn gan fanciau a llethrau., eu hadeiladu yng Nghymru yn ystod yr Oes Haearn rhwng 800 CC a 74 AC. Cafodd rhain eu hadeiladu fel safleoedd amddiffynnol yn erbyn llwythau o goresgynwyrPobl sy’n cipio gwlad a chymryd rheolaeth ohono. rhyfelgar. Yn aml, roedden nhw’n sefyll ar dir uchel gyda golygfeydd clir dros y wlad o’u hamgylch i gadw llygad allan am oresgynwyr, ac yn cynnwys rhagfuriauWaliau uchel sy’n amddiffyn ac yn amgylchynu castell. a ffosydd.
Yn dilyn goresgyniad y Rhufeiniaid dros Brydain, cafodd rhai bryngaerau eu meddiannu tra bod eraill wedi cael eu dinistrio.
Yn dilyn hyn, arweiniodd goresgyniad y Normaniaid yn 1066 at oes newydd o adeiladu cestyll. I ddechrau, roedden nhw’n adeiladu cestyll newydd mewn trefi i fod yng nghanol y boblogaeth. Ond roedd eu cestyll diweddarach yn aml yn ailddefnyddio safleoedd y bryngaerau hynafol o’r Oes Haearn.
Roedd y Normaniaid yn awyddus i reoli rhwydwaith y ffyrdd Rhufeining a oedd yn dal i fod yn brif lwybrau drwy gefn gwlad. Felly, cafodd rhai cestyll eu hadeiladu ar bwyntiau strategol fel croesfannau afonydd a chroesffyrdd.
Cestyll mwnt a beili oedd y cestyll Normanaidd cyntaf. Roedden nhw’n cynnwys gorthwrCanolbwynt y castell - tŵr fel arfer. pren neu garreg wedi’i osod ar dwmpath artiffisial o’r enw mwnt oedd y math hwn o gastell, wedi’i amgylchynu gan ardal gaeedig fawr, sef beili. Daeth ffos a palisâdFfens bren ar gyfer amddiffyn. amddiffynnol yn rhan o adeiladwaith y castell mewn blynyddoedd diweddarach.

Manteision ac anfanteision cestyll mwnt a beili
Manteision:
- Roedd y mwnt yn uchel i allu gweld ymosodwyr cyfagos
- Roedd y ffos yn arafu ymosodwyr
- Roedd digon o bren ar gael i’w hadeiladu’n rhad ac yn gyflym
Anfanteision:
- Roedd y pren yn pydru ar ôl amser
- Roedd perygl y gallai tân losgi’r castell
- Nid oedd y waliau yn gryf iawn
Erbyn y 12fed ganrif, cafodd rhai cestyll pridd a phren eu hailadeiladu gyda gorthwr carreg yn lle tŵr pren ar y mwnt, muriau cerrig yn lle’r palisâd pren, a thŵr carreg yn lle porth y beili.
Enghraifft dda o’r math hwn o gastell sy’n dal i fodoli heddiw yw Castell Ogwr.
Cestyll Tywysogion Cymru
Adeiladodd dywysogion Cymru gestyll eu hunain er mwyn gwarchod eu tir rhag cael eu goresgynY broses o gymryd rheolaeth dros wlad. ac i amddiffyn llwybrau pwysig.
Dechreuodd dywysogion Cymru adeiladu eu cestyll gyda charreg yn ystod y 13eg ganrif. Roeddwn nhw’n cael eu hadeiladu ar safleoedd a oedd yn eu hamddiffyn yn gryf, ee ar ben bryn neu wrth ymyl afon. Byddai siâp y cestyll yn amrywio er mwyn manteisio ar eu safleoedd. Y tyrau, a oedd yn aml mewn siâp D, oedd prif nodwedd y mathau hyn o gestyll, gyda muriau yn eu cysylltu.
Adeiladodd Llywelyn Fawr ddau gastell adnabyddus o’r math hwn - castell Dolwyddelan a chastell Dolbadarn.

Concwest Cymru a 1282
Ymgyrch oedd hon gan Edward I i oresgyn y tywysogaethauGwlad sy’n cael ei reoli gan dywysog. Cymreig ac uno Cymru gyda choron Lloegr. Roedd Llywelyn ap Gruffydd, sef Llywelyn ein Llyw Olaf, yn rheoli llawer o’r tir yng Nghymru a chafodd ei lofruddio gan fyddin Edward I yn Cilmeri, Llanfair-ym-muallt, yn 1282. Dechreuodd Edward droi Cymru’n fwy Seisnig, gan greu trefi newydd fel y Fflint, Aberystwyth a Rhuddlan a sicrhau mai dim ond pobl Seisnig oedd yn cael byw mewn bwrdeistrefi.
Yn dilyn ei goncwest o Gymru rhwng 1277 a 1283, adeiladodd Edward I gestyll ledled y wlad fel ffordd o reoli’r Cymry. Enghraifft o hyn yw castell Cydweli yn Sir Gaerfyrddin.
Fel rhan o’i nod i greu gestyll amddiffynnol a oedd hefyd yn balasau brenhinol, defnyddiodd Edward ddyluniad newydd sef y castell consentrig, sef castell gydag un wal allanol a oedd yn is na’r wal fewnol. Mae cestyll Biwmares, Caernarfon, Conwy a Harlech yn enghreifftiau o’r mathau hyn o gestyll, sy’n enwog ledled y byd erbyn heddiw ac sydd wedi’u dynodi’n Safleoedd Treftadaeth y Byd.
Ymgais oedd hyn i ddangos pŵer Edward dros Gymru a symbol o’r drefn newydd, ac roedd yn dangos ei fod yn awyddus i reoli Cymru’n barhaol.
Cestyll consentrig
Mae gan gastell consentrig o leiaf ddau fur, un o fewn y llall, i’w gwneud hi’n anoddach i’r gelyn ymosod arno – mae’r term ‘castell o fewn castell’ yn cael ei ddefnyddio’n aml i’w ddisgrifio.

Un rheswm yr amgylchynodd y Brenin Edward ardal Eryri â chylch o gestyll consentrig mewn ardaloedd arfordirol neu ar lannau afonydd, oedd er mwyn gallu cludo cyflenwadau’n hawdd iddyn nhw mewn llongau.
Manteision ac anfanteision cestyll consentrig
Manteision:
- Mwy o haenau i’w gwneud hi’n anoddach ymosod arnyn nhw
- Tyrau uwch fel y gallai gwylwyr weld gelynion yn haws
Anfanteision:
- Drud i’w hadeiladu
- Cymryd llawer o amser i’w hadeiladu

Castell Harlech
- Cafodd ei adeiladu rhwng 1282 a 1298
- Enillodd Owain Glyndŵr reolaeth dros y castell yn 1404 a chafodd ei ddefnyddio fel pencadlys iddo

Castell Biwmares
- Cafodd ei adeiladu rhwng 1295 a thua 1330
- Er i Edward I wario swm enfawr o arian ar ei adeiladu, ni lwyddodd i’w gwblhau

Castell Conwy
- Cafodd ei adeiladu rhwng 1283 a 1287
- Fe gymerodd y castell bedair mlynedd a hanner i’w gwblhau a chostiodd £15,000, sy’n werth dros £6 miliwn erbyn heddiw

Castell Caernarfon
- Dechreuodd gwaith adeiladu ar y castell i’w uwchraddio o gastell mwnt a beili yn 1283
- Roedd ganddo lety i lys y brenin a dyma oedd canolfan weinyddol yr ardal
Diwedd oes y cestyll
Yn dilyn concwest lwyddiannus Edward I dros Gymru, daeth cestyll yn llai pwysig o safbwynt milwrol yn raddol. Ar ôl i bowdr gwn a’r canon gael eu dyfeisio, roedd hi’n bosib dinistrio cestyll yn haws. Dechreuodd frwydrau gael eu hymladd ar dir agored yn hytrach na mewn cestyll.
Dechreuodd rai cestyll gael eu defnyddio fel canolfannau gweinyddol lle gallai rhent a trethi gael eu casglu. Byddai llysoedd barn yn cael eu cynnal mewn cestyll eraill, a chafodd daeargelloeddLle i gadw gelynion neu droseddwyr. rhai cestyll eu defnyddio fel carchardai.
Oes newydd i gestyll yn yr 19eg ganrif
Ar ddiwedd y 18fed ganrif, bu twf yn nifer y bobl a oedd yn ymddiddori mewn pensaernïaeth ganoloesol. Dechreuodd rai pobl gyfoethog ailfodelu eu tai i edrych fel cestyll neu hyd yn oed adeiladu rhai newydd!
Doedd gan y cestyll hyn ddim pwrpas milwrol a doedden nhw ddim yn amddiffyn tir - symbolau statws oedden nhw i ddangos fod y perchnogion yn gyfoethog. Y castell enwocaf o’r math hwn yng Nghymru yw Castell Coch ger Caerdydd. Cafodd ei adeiladu gan y pensaer, William Burges, ar ddiwedd y 19eg ganrif ar gyfer yr Arglwydd Bute a wnaeth ei ffortiwn o ddociau Caerdydd. Roedd e eisoes yn berchen ar adfeilion castell canoloesol a phenderfynodd ailadeiladu castell ar y safle.
Cwis - Cestyll
More on Gwrthdaro a heddwch
Find out more by working through a topic
- count4 of 4

- count1 of 4

- count2 of 4
