Y Cenhedloedd Unedig

Part ofDyniaethau - DaearyddiaethGwrthdaro a heddwch

Beth yw’r Cenhedloedd Unedig?

Mudiad rhyngwladol yw’r Cenhedloedd Unedig a sefydlwyd yn 1945. Mae’r gwledydd sy’n aelodau wedi gweithio gyda’i gilydd i sicrhau heddwch a diogelwch byd-eang ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae pencadlys y Cenhedloedd Unedig yn ninas Efrog Newydd.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn gyfrifol am gydweithio rhyngwladol ac, ers ei sefydlu, mae wedi gosod nifer o nodau i sicrhau cydraddoldeb ar draws y byd.

Gwylio: Fideo’r Cenhedloedd Unedig

Gwylia’r clip byr hwn i ddysgu mwy am waith a nodau'r Cenhedloedd Unedig.

Cynhadledd San Francisco a Siarter y Cenhedloedd Unedig

Rhwng Ebrill a Mehefin 1945, wrth i’r Ail Ryfel Byd ddirwyn i ben, daeth cynrychiolwyr o 50 o wledydd at ei gilydd yn Nhŷ Opera San Francisco i lunio y Cenhedloedd Unedig.

Fe sefydlodd y siarter brif bwrpas, strwythur llywodraethu a fframwaith cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

Ar 26 Mehefin 1945, cafodd y siarter ei harwyddo gan gynrychiolwyr y 50 o wledydd. Ddaeth hi ddim i rym tan 24 Hydref 1945 pan gadarnhawyd telerau'r siarter. Dyma’r dyddiad pan fyddwn yn dathlu Diwrnod y Cenhedloedd Unedig.

Aelodau’r Cenhedloedd Unedig

Roedd yna 51 o aelodau pan gafodd y Cenhedloedd Unedig ei sefydlu, ar ôl i Wlad Pwyl gael caniatâd i ymuno ym mis Hydref 1945. Ers hynny mae wedi tyfu'n sylweddol, ac erbyn 2021 roedd 193 o aelod-wladwriaethau.

Mae gan gyfrifoldeb am heddwch a diogelwch rhyngwladol. Mae 15 o aelodau ac mae gan bump o’r rhain seddi parhaol:

  • Y Deyrnas Unedig
  • Unol Daleithiau America
  • China
  • Ffrainc
  • Rwsia (a gymerodd sedd yr Undeb Sofietaidd yn 1991)
Amrywiaeth o faneri rhyngwladol.

Nodau’r Cenhedloedd Unedig

Ers ei sefydlu, mae’r Cenhedloedd Unedig wastad wedi gosod targedau a nodau i’w aelodau eu bodloni a’u cynnal.

Ymhlith y nodau mwyaf diweddar a gafodd eu gosod gan y Cenhedloedd Unedig yw’r Cyrchnodau Datblygu Cynaliadwy. Cyflwynwyd y rhain yn 2015 gyda’r bwriad o ddiogelu nodau hirdymor y Cenhedloedd Unedig o heddwch a diogelwch, ond gyda phwyslais ychwanegol ar fod yn fwy cynaliadwy a sicrhau bod gwledydd yn meddwl o ddifrif am fynd i'r afael â materion fel newid hinsawdd.

Dyma’r 17 o Gyrchnodau Datblygu Cynaliadwy:

  1. Dim tlodi
  2. Dim newyn
  3. Iechyd a llesiant da
  4. Addysg o ansawdd
  5. Cydraddoldeb rhywiol
  6. Dŵr glân a glanweithdra
  7. Ynni fforddiadwy a glân
  8. Gwaith teilwng a thwf economaidd
  9. Diwydiant, arloesi a seilwaith
  10. Llai o anghydraddoldeb
  11. Dinasoedd a chymunedau cynaliadwy
  12. Defnyddio a chynhyrchu’n gyfrifol
  13. Gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd
  14. Bywyd o dan y dŵr
  15. Bywyd ar y tir
  16. Heddwch, cyfiawnder a sefydliadau cadarn
  17. Partneriaethau

Ffynhonnell: Cyrchnodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig (gwefan Saesneg)

Projectau Cadw Heddwch y Cenhedloedd Unedig - De Sudan

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi cynnal dros 70 o ymgyrchoedd cadw heddwch ers 1948.

Cafodd De Sudan annibyniaeth oddi wrth Weriniaeth Sudan yn 2011. Dyma’r wlad fwyaf newydd yn y Cenhedloedd Unedig (yn 2021) a hi yw aelod rhif 193. Ers ei sefydlu, mae'r wlad wedi dioddef rhyfeloedd cartref a gwrthdaro diddiwedd.

Ar 8 Gorffennaf 2011, penderfynodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig fod y sefyllfa yn Ne Sudan yn fygythiad i heddwch rhyngwladol ac i ddiogelwch yn y rhanbarth. Sefydlwyd Cenhadaeth y Cenhedloedd Unedig yn Ne Sudan (UNMISS) fel ymgyrch i gynnal heddwch ac i liniaru’r gwrthdaro o fewn y wlad.

Fe wnaeth UNMISS bennu meysydd allweddol i fynd i'r afael â nhw wrth gynorthwyo De Sudan, yn cynnwys:

  • sicrhau bod gan y wlad y gefnogaeth sydd angen arni ar gyfer heddwch a'i bod yn gallu gweithio ar adeiladu gwladwriaeth a datblygu economaidd yn y tymor hwy
  • cefnogi’r llywodraeth gyda'i chyfrifoldebau dros fynd i'r afael â gwrthdaro ac amddiffyn ei phobl
  • cefnogi’r llywodraeth wrth iddi ddatblygu ei gallu i ddarparu diogelwch, sefydlu rheolaeth y gyfraith; a chryfhau diogelwch a chyfiawnder o fewn y wlad

Ni fyddai’r Cenhedloedd Unedig yn gallu cynnal yr ymgyrchoedd hyn heb help ei haelodau. Mae nifer o wledydd ledled y byd wedi cyfrannu milwyr ac aelodau o’r heddlu i helpu i gynnal heddwch yn Ne Sudan. Mae’r rhan fwyaf o'r rhain yn dod o wledydd fel Rwanda, Nepal, Ethiopia ac India.

Byddinoedd cadw heddwch o China a ddefnyddir gan Genhadaeth y Cenhedloedd Unedig yn Ne Sudan (UNMISS), yn patrolio ar droed y tu allan i adeilad safle Amddiffyn Sifil y Cenhedloedd Unedig (PoC) yn Juba, De Sudan.

Fe wnaeth llofnodi cytundeb heddwch newydd yn 2018, a sefydlu llywodraeth o undod cenedlaethol ostwng lefel y trais gwleidyddol yn y wlad. Yn raddol cafodd Safleoedd Amddiffyn y Cenhedloedd Unedig, a adeiladwyd i amddiffyn y rheini oedd mewn perygl yn ystod y gwrthdaro mwyaf dwys, eu troi’n wersylloedd mwy confensiynol i bobl oedd wedi'u dadleoli.

More on Gwrthdaro a heddwch

Find out more by working through a topic