Mae pleidleisio yn un ffordd i grŵp o bobl wneud penderfyniad gyda’i gilydd. Mae’n gwneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle i chwarae rhan yn y broses o wneud penderfyniadau mewn ffordd deg.
Efallai dy fod ti wedi pleidleisio i ddewis gweithgaredd neu bwnc yn yr ysgol. Neu efallai dy fod ti wedi pleidleisio i ddewis rhywun i ymuno â chyngor yr ysgol neu’r grŵp arweinyddiaeth. Mae cymryd rhan yn y pleidleisiau hyn yn gyfle i ti ddweud dy farn am bethau sy’n effeithio arnat ti.
Gwylio: Sut a pham rydyn ni'n pleidleisio?
Mae Efa, Rhys a Lina yn trafod pam ei bod yn bwysig eu bod nhw’n pleidleisio yn yr etholiad i ddewis aelodau cyngor yr ysgol. Maen nhw’n darganfod beth yw syniadau’r ymgeiswyr cyn pleidleisio mewn pleidlais gudd.
EFA: Chi wedi ennill?
RHYS: Byrstiodd y bêl cyn cwpla. A ro’n ni bron â sgorio!
EFA: Cyngor yr ysgol. Etholiad heddiw!
RHYS: A?
LINA: Mae e jest yn grac achos y bêl.
EFA: Mae cyngor yr ysgol yn bwysig. Mae’n cynnig syniadau - am bethau i newid, neu wneud yn wahanol yn yr ysgol.
RHYS: Fel beth?
LINA: Fel, pa ffrwythau mae siop yr ysgol yn gwerthu, neu cael diwrnodau ‘dim gwisg ysgol’ fel heddiw. Dwi’n mynd i fôto.
EFA: A fi!
LINA: Fel pan r‘yn ni’n tyfu lan, ac yn cael dewis pwy ry’n ni eisiau i redeg y wlad.
RHYS: Oce. Ond beth am drwsio’r bêl?
LINA: Rhys, mae cynghorau yn llawn o bobl sy’n siarad droston ni. Cyngor ysgol, cynghorau cymuned, cyngor tre…
EFA: A ni’n lwcus. Mewn rhai gwledydd, dyw pobol ddim yn cael pleidleisio. Mae arweinydd yn cymryd drosodd, ac yn dweud beth mae pawb yn cael gwneud. Does dim ots beth mae’r bobl eisiau gwneud!
LINA: Ond ry’n ni yn ddemocratiaeth!
RHYS: Beth yw hwnna?
EFA: Democratiaeth yw pobl yn cael dweud eu barn, a chael fôto mewn etholiad. Dere. Ti’n gwybod, doedd merched ddim yn cael fôto, ddim tan tua cant o flynyddoedd yn ôl. Roedd rhaid i ni ymladd er mwyn cael yr hawl i bleidleisio!
LINA: Dere Rhys, wnawn ni drwsio’r bêl wedyn!
EFA: Edrych, Rhys, dyma’r ymgeiswyr. Kyle?
RHYS: O. Mae Kyle yn cŵl. Oce. Fe wna i ddewis Kyle te.
EFA: Paid dewis rhywun jest am dy fod yn meddwl bod nhw’n cŵl!
LINA: Ac mae rhai o’i syniadau fe’n eitha sili! Peintio’r neuadd yn biws?
EFA: Jemma? Mae hi eisiau amser cinio hirach, a dechrau ysgol yn hwyrach!
LINA: Wnaiff hynny ddim digwydd.
EFA: Beth am Ali? Mae e’n gwneud lot o sens. Mae e eisiau mwy o offer chwaraeon, ar gyfer amser cino.
RHYS: O! Peli troed newydd?
LINA: Rho dy groes yn y blwch, nesa at yr enw ti wedi dewis.
RHYS: Dwi’n credu bo fi’n mynd i ddewis…
LINA: Shh! Mae e fod yn gyfrinach. Tybed os yw Rhys wedi mynd am neuadd biws!
EFA: Neu mwy o beli troed?
RHYS: Hei! Mae’n gyfrinach!
LINA: Wel, bydd pwy bynnag sydd wedi cael ei ddewis yn mynd ar gyngor yr ysgol a gallan nhw drio cael eu syniadau wedi eu derbyn.
EFA: Da iawn bois!
Beth yw democratiaeth?
Ystyr democratiaeth yw ‘rheolaeth gan y bobl’ sy’n golygu bod y bobl yn penderfynu pwy sy’n rhedeg y wlad. Mewn democratiaeth, mae gan bobl lais mawr yn y ffordd mae’r wlad yn cael ei rhedeg, a’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud.
Mae gan y bobl lais drwy bleidleisio mewn etholiadau. Mae pobl yn pleidleisio dros y bobl maen nhw eisiau eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau am sut mae’r wlad yn cael ei rhedeg.
Mae’r bobl yma’n cael eu galw’n gynrychiolwyr gan eu bod nhw’n siarad neu’n gweithredu ar ran pobl eraill. Mae’r cynrychiolwyr yma’n gweithio gyda’i gilydd i wneud penderfyniadau a chytuno ar y cyfraithRheol sy'n effeithio ar y wlad i gyd ac y dylai pawb gadw ati. Rwyt ti'n gallu cael dy gosbi am dorri'r gyfraith.sy’n effeithio ar bob un ohonon ni.
Mae pobl fel arfer yn pleidleisio dros y person y maen nhw’n teimlo fydd yn gwneud y penderfyniadau gorau.
Sut ydyn ni’n pleidleisio?
Yn y Deyrnas Unedig, mae pleidleisiau’n cael eu marcio ar ddarn o bapur. Ar y papur, mae rhestr o enwau’r holl bobl sydd eisiau cynrychioli’r ardal honno. Mae’r pleidleisiwr yn rhoi X yn y bocs wrth ymyl enw’r person maen nhw eisiau iddyn nhw ennill. Mae pobl yn gallu pleidleisio drwy’r post, neu drwy fynd i gorsaf bleidleisioRhywle lle rwyt ti'n gallu pleidleisio yn gyfrinachol yn ystod etholiad..

Mae'r papurau pleidleisio yn cael eu rhoi mewn blwch. Ni fydd y blwch yn cael ei agor nes bydd y pleidleisio wedi dod i ben a bod y pleidleisiau’n barod i gael eu cyfrif.
Mae hyn i gyd yn cael ei wneud yn breifat ac mae’n cael ei alw’n pleidlais guddFfordd o bleidleisio heb i unrhyw un wybod dros bwy wyt ti'n pleidleisio. Fel arfer, mae'n cael ei gwneud yn ysgrifenedig ar bapur.. Mae pleidleisio’n cael ei wneud yn gyfrinachol er mwyn sicrhau:
- nad oes neb arall yn gwybod dros bwy wnest ti bleidleisio
- bod pobl yn teimlo'n gyfforddus a rhydd i wneud eu dewis eu hunain

Y person sy’n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau mewn ardal benodol sy'n ennill.
Mae’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n ceisio ennill yr etholiad yn rhan o plaid wleidyddolGrŵp o bobl sydd wedi cytuno ar set o syniadau am sut i redeg y wlad. Maen nhw'n cynnig pobl i gael eu hethol yn Aelodau Seneddol yn San Steffan, yn Aelodau o Senedd Cymru neu'n gynghorwyr lleol.. Mae pobl yn aml yn pleidleisio dros y person sy’n rhan o’r blaid wleidyddol y maen nhw’n cytuno fwyaf â hi.
Pam dylen ni bleidleisio?
Yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, galli di ddewis peidio â phleidleisio mewn etholiadau. Ond mae llawer o bobl yn teimlo bod pleidleisio yn beth pwysig y dylai dinesyddPerson sy'n byw mewn lle ac yn cymryd rhan fel aelod o'r gymuned. ei wneud. Os yw grwpiau o bobl yn dewis peidio pleidleisio, efallai na fydd y cynrychiolwyr etholedig yn ystyried eu barn gymaint pan maen nhw'n gwneud penderfyniadau.
Yr hawl i bleidleisio
Mae’r hawl i bleidleisio yn un o’n hawliau dynol.
Mae hawliau dynol wedi’u rhestru yn Natganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. Dyma restr o 30 o hawliau a rhyddid y dylai pob un ohonon ni eu cael, ar draws y byd. Cafodd ei ysgrifennu yn 1948. Mae cyfreithiau rhyngwladol am hawliau yn dal i fod yn seiliedig ar y rhestr hon gan y Cenhedloedd Unedig.
Hanes pleidleisio
Nid yw pobl yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig bob amser wedi bod â’r hawl i bleidleisio. Ymhell yn ôl, roedd brenhinoedd, breninesau a thywysogion yn rheoli fel oedden nhw eisiau, ac nid oedd gan bobl hawl i bleidleisio o gwbl.
Ar y dechrau, pan oedd gan y DU senedd, dim ond dynion cyfoethog oedd yn cael pleidleisio dros aelodau seneddol, ac nid oedd y fath beth â phleidlais gudd.
Bu'n rhaid i bobl gyffredin brotestio cyn i bawb gael yr hawl i bleidleisio.
Y Siartwyr
Yn y 1830au, roedd y Siartwyr yn grŵp oedd eisiau i fwy o bobl gael yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau.
Ar y pryd, dim ond un o bob pum dyn oedd yn gallu pleidleisio. Roedd y Siartwyr yn teimlo fod hyn yn annheg. Fe wnaethon nhw ysgrifennu rhestr o chwech o ofynion, yn eu ‘Siarter y Bobl’ yn 1838. Roedd eu gofynion yn cynnwys:
- pob dyn dros 21 oed i gael yr hawl i bleidleisio
- etholiadau i’w cynnal bob blwyddyn
- pleidleisio yn gyfrinachol
Anfonodd y Siartwyr deisebDogfen sydd wedi cael ei llofnodi gan lawer o bobl sydd yn gofyn i'r llywodraeth neu grŵp swyddogol arall i wneud rhywbeth penodol. i’r senedd, ond wnaeth y llywodraeth ddim gwrando arnyn nhw. Arweiniodd hyn at rai Siartwyr yn defnyddio dulliau treisgar. Cafodd eu harweinwyr eu harestio ac fe wnaeth y mudiad ddirywio.

Methodd y Siartwyr ar y pryd ond erbyn heddiw mae pob un ond un o’u gofynion wedi’u bodloni.
Y Swffragetiaid
Cyn 1918, nid oedd menywod yn cael pleidleisio o gwbl. Roedd llawer o grwpiau o fenywod yn protestio i geisio cael yr hawl i bleidleisio. Enw’r grŵp enwocaf o brotestwyr oedd y Swffragetiaid. Emmeline Pankhurst wnaeth ddechrau'r grŵp yma.
Fe wnaethon nhw gynnal ymgyrchoedd enwog, gan hyd yn oed ddefnyddio tactegau treisgar i geisio dangos y dylen nhw gael yr hawl i bleidleisio.
Y Swffragét enwocaf o Gymru yw Margaret Haig Thomas, a ddaeth yn Arglwyddes Rhondda yn ddiweddarach. Roedd hi’n dod o Lan-wern, Casnewydd. Fe aeth hi ar orymdeithiau a chymerodd ran mewn mathau eraill o brotestiadau hefyd. Cafodd ei hanfon i’r carchar am roi blwch post ar dân.
Yn 1918, cafodd menywod dros 30 oed, a oedd yn berchen ar rywfaint o eiddo, yr hawl i bleidleisio. Cafodd pob dyn dros 21 oed yr hawl i bleidleisio hefyd.
Yn 1928, rhoddodd deddfRheol sy'n effeithio'r wlad i gyd ac y dylai pawb ei chadw. Rwyt ti'n gallu cael dy gosbi am dorri'r gyfraith.arall yr un hawliau pleidleisio i fenywod â dynion.

Pleidleisio o amgylch y byd
Hyd yn oed heddiw, mae rhai rhannau o’r byd lle nad oes gan bobl yr hawl i bleidleisio, neu lle mae’r hawl wedi’i gyfyngu.
Mae hyn achos bod rhai arweinwyr yn peidio â rhoi'r hawl i bobl bleidleisio’n rhydd, neu'n atal rhai pobl rhag pleidleisio. Mae rhai gwledydd hefyd yn atal pobl rhag ceisio cael eu hethol i’r senedd.
More on Ein hawliau
Find out more by working through a topic
- count2 of 3

- count3 of 3
