
Cyflwyniad
Mae Cymru wedi ein hamgylchynu ar dair ochr gan y môr. I’r gogledd a’r gorllewin mae Môr Iwerddon ac i’r de mae Môr Hafren.
Oddi ar arfordir Cymru, mae dŵr cynnes o’r Caribî yn gwrthdaro gyda dŵr oerach o’r gogledd. Mae’r dŵr cynnes yma hefyd yn cario maetholionMae maetholion mewn bwyd yn helpu pobl ac anifeiliaid i fyw a thyfu. Gall diffyg maetholion eich gwneud yn sâl. sydd yn ffynhonnell fwyd arbennig. Yn ystod misoedd yr haf mae llawer o greaduriaid y môr yn dod i’n glannau er mwyn gwledda yn y dyfroedd llawn maeth yma. Mae hyn yn denu llawer o ysglyfaethwyrAnifeiliaid sydd yn hela anifeiliaid eraill i’w bwyta., neu helwyr.
O dan yr wyneb
Yn ystod misoedd yr haf mae’r moroedd dwfn o amgylch Cymru yn gartref i lawer o ymwelwyr fel yr heulforgi (basking shark), y morfil asgellog ac amryw o wahanol fathau o bysgod. Maen nhw’n dod i chwilio am planctonPlanhigion ac anifeiliaid bach iawn sydd yn arnofio mewn dŵr., pysgod bach ac ystifflogod.
Fideo: Helwyr mawr y Môr Celtaidd
O forgwn glas i ddolffiniaid, mae digonedd o fwyd i ysglyfaethwyr mawr yn y Môr Celtaidd.
Bywyd môr
Morfilod asgellog

Maint
Y morfil asgellog (fin whale) yw’r ail famal mwyaf yn y byd ar ôl y morfil glas. Mae'n gallu tyfu i hyd at 26 medr o hyd.Deiet
Mae morfilod asgellog yn bwyta cramennogAnifail sydd â chragen galed, gymalog. Mae llawer math o gramenogion, gan gynnwys crancod, cimwch yr afon, cimychiaid a berdys.(crustaceans), ystifflogod (squid) a physgod.A wyddost ti?
Mae morfilod asgellog yn gallu byw am hyd at 90 mlynedd.
Heulforgi

Maint
Hwn ydy’r pysgodyn mwyaf sydd yn ymweld â’n glannau. Mae'n gallu tyfu i dros 10 medr o hyd, yr un maint â bws deulawr!Deiet
Mae heulforgwn (basking shark) yn bwyta rhai o’r creaduriaid lleiaf yn y môr. Maen nhw’n byw ar ddeiet o blancton a phlanhigion ac anifeiliaid microsgopig. Maen nhw’n nofio i mewn i’r cerrynt gyda’u cegau anferthol yn agored yn barod i fwyta.A wyddost ti?
Er gwaethaf eu maint a’u hedrychiad, nid yw heulforgwn yn beryglus i bobl. Ond ni ddylem fynd yn rhy agos atyn nhw.
Pysgodyn haul

Maint
Mae’r pysgodyn haul yn fawr ac yn grwn, ac yn edrych fel pen anferth neu blât. Mae'n gallu bod dros 3 medr o hyd ac mae ganddo esgyll anferth uwch ben ac o dan ei gorff.Deiet
Mae pysgod haul yn gwledda ar ddeiet o sglefrod môr.A wyddost ti?
Mae pysgod haul yn aml i’w gweld yn gorffwys ar eu hochr ar wyneb y môr yn mwynhau’r heulwen - a dyna o ble y daeth yr enw pysgodyn haul.
Ysglyfaethwyr
Mae’r cyfoeth yma o fywyd môr yn denu llawer o ysglyfaethwyr i’n glannau hefyd. Mae ysglyfaethwyr yn byw drwy hela, lladd a bwyta anifeiliaid eraill. Mae’r ysglyfaethwyr dychrynllyd yma i’w gweld oddi ar arfordir Cymru gydol misoedd yr haf.
Morgi (siarc) glas

Sut i ddod o hyd iddyn nhw
Mae gan y morgwn (siarcod) yma, sydd yr un siâp â thorpido, esgyll blaen hir iawn. Rydym yn eu gweld fel arfer tua 10 milltir o’r lan.Ysglyfaeth
Yn ogystal â hela pysgod a sglefrod môr (squid), mae morgwn glas yn anifeiliaid carthysol (scavengers). Mae hyn yn golygu eu bod yn dod o hyd i anifeiliaid sydd wedi marw’n barod a’u bwyta…Maint
Maen nhw'n tyfu i fod dros 3 medr o hyd.A wyddost ti?
Mae gan morgwn glas synnwyr arogli penigamp. Maen nhw'n gallu arogli gwaed sydd filltiroedd ar filltiroedd i ffwrdd.
Tiwna asgell-las

Sut i ddod o hyd iddyn nhw
Mae tiwna asgell-las, sydd yr un siâp â thorpido, yn sydyn ofnadwy. Mae'n gallu teithio ar gyflymder o 40 milltir yr awr, yr un cyflymder a char.Ysglyfaeth
Maen nhw’n ysglyfaethwyr penigamp. Maen nhw’n hela pysgod fel penwaig (herring), mecryll (mackerel) a hyd yn oed lyswennod (eel). Mae eu golwg yn anhygoel ac maen nhw'n gallu llyncu eu hysglyfaeth mewn un darn.Maint
Mae rhai tiwna yn gallu tyfu i fod yr un maint ag arth wen.A wyddost ti?
Mae angen i tiwna asgell-las symud trwy'r amser. Yn union fel morgwn, maen nhw'n yn dibynnu ar lif cyson o ddŵr dros eu tagellau i gael ocsigen.
Dolffiniaid cyffredin

Sut i ddod o hyd iddyn nhw
Maen nhw’n gymdeithasol iawn ac yn cael eu gweld fel arfer mewn grwpiau o gannoedd neu filoedd yn teithio, chwarae a bwyta gyda’i gilydd. Rydyn ni'n galw’r grwpiau yma yn bodiau.Ysglyfaeth
Maen nhw’n bwyta pysgod bach fel mecryll (mackerel), môr-frwyniaid (anchovies), llusernau môr (lantern fish), gorbenwaig (sprats), ystifflogod (squid) ac octopysau.Maint
Maen nhw'n gallu tyfu hyd at 2.5 medr o hyd.A wyddost ti?
Mae dolffiniaid yn defnyddio ecoleoliad. Mae hyn yn golygu eu bod yn gwneud sŵn er mwyn gwneud llun o’r hyn sydd o’u cwmpas.
Newyddion da
Mae gweld ysglyfaethwyr fel y morgi glas, y tiwna a’r dolffin yn y cefnforoedd dwfn o amgylch Cymru yn arwydd cadarnhaol iawn. Mae hyn yn dweud wrthyn ni fod ein moroedd yn iach a bod digonedd o fwyd iddyn nhw gael gwledda arno.
Cwis: Pwy yw ysglyfaethwyr y Môr Celtaidd?

Ble nesaf?
Beth yw plancton a pham mae e mor bwysig?
Oeddet ti'n gwybod bod plancton sy'n ymglymu gyda'i gilydd mewn grwpiau mawr yn cael eu galw'n or-dyfiant plancton?

Pa anifeiliaid sy’n byw mewn pyllau glan môr?
Oeddet ti'n gwybod bod pyllau creigiau'n llawn bywyd ac yn gartref i lawer o wahanol anifeiliaid?

Cynaliadwyedd 8-11 oed
Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed

More on Bywyd gwyllt
Find out more by working through a topic