Gwleidyddiaeth go iawn: Democratiaeth

Part ofDinasyddiaeth (Cymru)Gwleidyddiaeth a democratiaeth

Cyflwyniad

Democratiaeth yw un o brif egwyddorion cyfansoddiad y DU. Mae’n sicrhau bod llais pawb yn cyfri wrth i’r llywodraeth wneud penderfyniad.

Democratiaeth uniongyrchol

Mae'r gair Saesneg am ddemocratiaeth, democracy, yn dod o'r gair Groegaidd, demos (pobl) a kratos (pŵer/rheoli) sy’n golygu bod pŵer yn nwylo’r bobl. Erbyn tua'r bumed ganrif cyn Crist, sefydlodd dinas Athen (Groeg) system lywodraethol arbennig newydd.

O leiaf unwaith y mis, byddai holl ddinasyddion Athen yn cael cwrdd mewn cynulliad i drafod sut dylai’r ddinas ymateb i broblemau’r dydd. Roedd hawl gan unrhyw ddinesydd a oedd yn gymwys i bleidleisio i fynegi ei farn ar faterion pwysig cyn bod pleidlais yn cael ei chynnal i benderfynu beth ddylid ei wneud.

Dyma oedd y tro cyntaf i ddinasyddion cyffredin gael y cyfle i fod yn rhan o’r broses o benderfynu sut dylai’r wlad gael ei rhedeg. Roedd yr holl ddinasyddion yn cyfrannu at ddemocratiaeth Athen yn uniongyrchol.

Democratiaeth gynrychiadol

Heddiw, mae tua 67 miliwn o bobl yn byw yn y Deyrnas Unedig (DU). Byddai’n amhosib cynnal fforwm fel oedd gan Athen i 67 miliwn o bobl i drafod bob mis, felly democratiaeth gynrychioladol sydd yn y DU. Ystyr hyn yw bod dinasyddion yn dewis person i siarad ar eu rhan mewn fforwm.

Mae dinasyddion yn dewis cynrychiolydd mewn etholiad ac yna mae’r cynrychiolydd etholedig yn trafod ac yn pleidleisio ar faterion ar ran y dinasyddion. Mae’n bwysig felly bod y cynrychiolwyr yma’n gwrando ar deimladau eu hetholwyr – y bobl sydd wedi pleidleisio drostyn nhw.

I’r rhan fwyaf o ddinasyddion, pleidleisio mewn etholiad yw eu prif weithred wleidyddol, os nad yr unig weithred wleidyddol. Hynny yw, yr unig ffordd maen nhw’n cyfranogi i wleidyddiaeth.

Mae nifer o gyfleoedd gan bobl Cymru i bleidleisio:

  • yn etholiadau Senedd Cymru
  • yn etholiadau Senedd y DU
  • yn etholiadau lleol (ar gyfer dy Gyngor Sir)
  • yn etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throsedd
Llinell / Line
Image caption,
Enw'r adeilad yn San Steffan ble mae Aelodau Seneddol yn cwrdd yw Tŷ'r Cyffredin.

Senedd y Deyrnas Unedig

Mae dinasyddion y DU yn ethol cynrychiolwyr i siarad drostyn nhw yn Senedd y DU yn San Steffan, Llundain mewn etholiad cyffredinol. Mae’n rhaid i hyn ddigwydd o leiaf unwaith pob pum mlynedd.

Y Senedd yn San Steffan yw canolbwynt pŵer yn y DU, ac Aelodau Seneddol yn hytrach na'r llywodraeth sydd gan y gair olaf ym mhob penderfyniad. Mae 650 o Aelodau Seneddol yn cael eu hethol i gynrychioli eu hetholaethau.

Mae 32 o etholaethau yng Nghymru ar gyfer etholiadau San Steffan.

Mae ffiniau etholaethau yn cael eu pennu gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru. Cafodd ffiniau eu newid yn 2023 gyda’r nod o greu etholaethau gyda nifer tebyg o etholwyr. Heblaw am Ynys Môn, pan gafodd y newidiadau eu gwneud roedd gan bob etholaeth etholiad cyffredinol yng Nghymru rhwng 69,724 a 77,062 o etholwyr yr un.

Image caption,
Enw'r adeilad yn San Steffan ble mae Aelodau Seneddol yn cwrdd yw Tŷ'r Cyffredin.

Fel corff, mae Senedd y DU yn gyfrifol am:

  • faterion tramor
  • y lluoedd arfog
  • yr heddlu a chyfiawnder
  • y rhan fwyaf o drethi
  • y rhan fwyaf o fudd-daliadau
Llinell / Line
Image caption,
Prif adeilad cyhoeddus Senedd Cymru, wedi ei leoli yng nghanol Bae Caerdydd.

Senedd Cymru

Mae pobl Cymru yn ethol cynrychiolwyr i siarad drostyn nhw yn Senedd Cymru ym Mae Caerdydd.

Y system bleidleisio ar hyn o bryd

Cynhelir Etholiadau Senedd Cymru bob pum mlynedd. Ar hyn o bryd mae 60 Aelod o'r Senedd i gyd. Mae 40 ohonyn nhw'n cael eu hethol i gynrychioli etholaethau, hynny yw ardaloedd gyda tua 56,000 o etholwyr. Mae'r 20 arall yn cael eu hethol i gynrychioli rhanbarthau mwy o faint. Mae pum rhanbarth yng Nghymru felly mae gan bob rhanbarth bedwar Aelod o'r Senedd.

Newidiadau i’r system bleidleisio

Ym mis Mai 2024 pleidleisiodd Aelodau o’r Senedd o blaid cynyddu nifer yr aelodau a chyflwyno system bleidleisio newydd ar gyfer yr etholiad nesaf yn 2026.

O dan y system newydd bydd:

  • etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal pob pedair blynedd, yn hytrach na bob pum mlynedd
  • 96 o Aelodau o’r Senedd, cynnydd o 36
  • 16 o etholaethau mwy yn lle’r 40 sydd ar hyn o bryd
  • pob etholaeth yn cael ei chynrychioli gan chwech o aelodau
  • ymgeiswyr yn cael eu hethol ar sail cyfran y pleidleisiau mae pob plaid yn ei derbyn yn yr etholaeth, yn hytrach na’r system ‘cyntaf i’r felin’ bresennol
Image caption,
Prif adeilad cyhoeddus Senedd Cymru, wedi ei leoli yng nghanol Bae Caerdydd.

Cyfrifoldeb yr Aelodau o’r Senedd fydd i drafod ac i bleidleisio dros faterion sy’n cael eu rheoli gan Senedd Cymru, megis:

  • addysg
  • iechyd
  • yr amgylchedd
  • trafnidiaeth
  • y Gymraeg
Llinell / Line

Democratiaeth y Deyrnas Unedig

Mae system y DU yn ddemocrataidd gan fod ein cynrychiolwyr yn atebol i ni fel dinasyddion. Os nad ydyn ni’n cytuno gyda’r deddfau sy’n cael eu pasio, mae’r pŵer gennym i ethol cynrychiolwyr gwahanol pan ddaw’r etholiadau nesaf.

Dyletswydd pob Aelod o’r Senedd neu Aelod Seneddol felly yw gwasanaethu ac i gynrychioli eu hetholaeth, nid i bleidleisio yn ôl eu barn bersonol yn unig.

Llinell / Line

Gwleidyddiaeth go iawn

Cynnwys Dinasyddiaeth ar gyfer 11-14 oed yng Nghymru

Gwleidyddiaeth go iawn

Gohebydd Ifanc y BBC

Cyfle i bobl ifanc 11-18 oed i rannu eu straeon a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.

Gohebydd Ifanc y BBC

Easy peasy politics

Citizenship content for 11-14 year olds in Wales

Easy peasy politics

More on Gwleidyddiaeth a democratiaeth

Find out more by working through a topic