Cyflwyniad
Mae angen i rywun neu ryw rhai wneud dewisiadau a phenderfyniadau er mwyn arwain a rheoli ein gwlad. Mae’n hollbwysig fod dinasyddion yn gwybod sut gallan nhw ddylanwadu ar y dewisiadau a’r penderfyniadau hyn.
CYFLWYNYDD 1: Fel person ifanc yng Nghymru, weithiau mae'n teimlo bod gwleidyddiaeth yn rhywbeth estron sydd a dim i wneud â ni, felly beth yw’r ots?
Ond dim ond i ni edrych o'n cwmpas a ni'n gweld sut mae gwleidyddiaeth yn effeithio ar bopeth.
Ein addysg, ein gofal iechyd, ein cyfryngau, ein strydoedd, ein parciau chwaraeon, canolfanau hamdden, theatrau amgueddfeydd, llyfrgelloedd.
Mae gwleidyddiaeth a democratiaeth yn effeithio ar bopeth yn dy fywyd.
Dy ardal leol, yng Nghymru, ac yn y byd.
CYFLWYNYDD 2: Cymru a'r byd?
CYFLWYNYDD 1: Ie.
Mae newid hinsawdd yn enghraifft o sut mae newidiadau mawr yn digwydd i'r byd o'n hachos ni.
Gallai arwain at gynfyngiadau bwyd.
Pobl yn colli eu cartrefi. Anifeiliad yn marw allan am byth.
A phobl yn colli eu bywydau hefyd.
CYFLWYNYDD 2: OK, a dyna pam bod pobl a phlant ar draws y byd wedi bod yn ymgyrchu a rhoi pwysau ar lywodraethau er mwyn ceisio datrys y broblem yma.
CYFLWYNYDD 1: Mae hiliaeth yn un arall yn anffodus.
Mae hiliaeth yn dal i fodoli o'n cwmpas ni.
Mae nifer o bobl yn cael eu effeithio ganddo.
Efallai dy fod ti, neu rhywun ti'n adnabod, yn cael eu effeithio.
CYFLWYNYDD 2: Yma yng Nghymru, dywedodd rhai wrth Betty Campbell ifanc na fyddai hi byth yn llwyddo oherwydd ei bod hi'n ferch ddu ddosbarth gweithiol.
Ond wnaeth Betty eu profi nhw'n anghywir mewn ffordd ysbrydoledig iawn.
Hi oedd pennaeth ysgol du cyntaf Cymru.
Does dim syndod bod arweinydd enwog De Affrica, Nelson Mandela mor awyddus i gwrdd a hi yn ystod ei unig ymweliad a Chymru.
CYFLWYNYDD 1: Mae ymgyrchu gan bobl fel Betty wedi arwain at ddeddfau gwrth-hiliaeth.
Mae'r cyfreithiau yma wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl yma yn y DU ac mewn rhai llefydd yn y byd,wedi arbed bywydau hefyd.
CYFLWYNYDD 2: Mae democratiaeth yn ymwneud â phawb yn cael dweud eu dweud a chreu cymdeithas well i bawb
Mae gan bawb y pŵer i ymgyrchu a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a gwneud newid.
CYFLWYNYDD 1: Yn 2014, fe wnaeth y Llywodraeth yn San Steffan hi'n gyfreithlon i ddau berson o'r un rhyw briodi.
Fe gymerodd hi nifer iawn o flynyddoedd a phwysau ar y llywodraeth i hynny ddigwydd.
CYFLWYNYDD 2: Yn union, roedd ymgyrchoedd a rhoi pwysau ar y senedd Brydeinig yn hanfodol.
Dyma ydi democratiaeth.
I ddemocratiaeth weithio mae angen i bawb gymryd rhan a chael llais.
Ond beth os ti ddim digon hen i bleidleisio?
Sut allet ti neud i bobl wrando arnat ti wedyn?
CYFLWYNYDD 1: Fe allet ti ymuno ag ymgyrch neu brotest os oes rhywbeth ti'n teimlo'n gryf amdano.
Hyd yn oed rhywbeth fel cyflwr y parc lleol.
CYFLWYNYDD 2: Ond mae 'na un peth sy'n dal i boeni fi.
CYFLWYNYDD 1: Beth?
CYFLWYNYDD 2: Fyddai unrhywun yn gwrando ar bobl ifanc?
CYFLWYNYDD 1: Mae'n amlwg nad wyt wedi clywed am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Mae o'n sicrhau bod rhaid ystyried plant wrth wneud penderfyniadau
Atgoffa pobl o hynny pan fyddi di'n cysylltu ac eisiau sicrhau eu bod nhw'n gwrando.
CYFLWYNYDD 2: A phan ti'n 16 oed galli di bleidleisio am dy Aelodau o'r Senedd a dy gynghorwyr yng Nghymru.
CYFLWYNYDD 1: Ie, a phan ti'n 18 galli di bleidleisio dros dy Aelod Seneddol.
CYFLWYNYDD 2: Ac os ydyn nhw dal ddim yn gwrando gallet ti ddechrau neu lofnodi deiseb i Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU.
Os ti'n cael digon o lofnodion, mae'n rhaid iddyn nhw ei drafod yn y Senedd.
CYFLWYNYDD 1: Cysyllta â dy gynghorydd lleol am bethau sy'n lleol i ti; dy Aelod o'r Senedd am bethau sy'n digwydd yng Nghymru; a dy Aelod Seneddol ynghylch pethau yn y DU neu bethau sy'n digwydd mewn gwledydd eraill.
Cofia eu bod yn gweithio i ni a'u gwaith nhw yw gwrando.

Gwleidyddiaeth wladol
Mae’n bwysig i bleidleisio ac i gyfranogi mewn gwleidyddiaeth gan fod dy gynrychiolwyr yn gwneud dewisiadau a phenderfyniadau ar dy ran.
Rôl Aelodau Seneddol San Steffan, Aelodau o’r Senedd ym Mae Caerdydd a chynghorwyr mewn llywodraeth leol yw gwneud penderfyniadau am sut i ddosrannu adnoddau ac arian.

Trwy bleidleisio a chyfranogi, mae dinasyddion yn medru mynegi eu barn wrth y bobl sy’n gwneud penderfyniadau am faterion fel:
- pryd mae’r sbwriel yn cael ei gasglu
- sut mae trydan yn cael ei gynhyrchu
- beth ddylai gael ei addysgu mewn ysgolion

Gwleidyddiaeth ryngwladol
Trwy bleidleisio yn etholiadau Cymru ac etholiadau’r Deyrnas Unedig (DU), mae etholwyr yn dylanwadu ar faterion ar draws y byd am nad oes ffin gan nifer o faterion mwyaf dadleuol ein byd, ee newid hinsawdd, datblygiad economaidd a hiliaeth. Nid yw’r rhain yn broblemau i Gymru neu'r DU yn unig. Fe fydd ASau yn cwrdd â gwleidyddion o wledydd eraill i drafod y materion yma.

Pleidleisio mewn etholiadau
Gall pawb dros 16 oed yng Nghymru, sydd wedi cofrestru i bleidleisio, fwrw pleidlais yn etholiadau Cymru. Gall pawb dros 16 oed yng Nghymru hefyd bleidleisio i ddewis cynghorwyr.
Gall pawb dros 18 oed, sydd ar y gofrestr etholiadol, bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol sy’n ethol Aelodau Seneddol San Steffan.
Nid yw hi’n erbyn y gyfraith i beidio â phleidleisio, ond pam fod pleidleisio yn cael ei ystyried yn bwysig?
- Democratiaeth
Mae pleidleisio yn ffordd bwysig o gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Mae etholiadau yn sicrhau bod democratiaeth yn cael ei chynnal, gan mai’r etholwyr sy’n dewis pwy sy’n ennill pŵer. Gall etholwyr bleidleisio i ailethol yr un cynrychiolydd yn yr etholiad nesaf, neu bleidleisio dros ymgeisydd arall os nad ydyn nhw’n hapus.
- Creu cyswllt rhwng y bobl a’r llywodraeth
Gan mai democratiaeth gynrychioladol sydd gennym yn y DU, gwleidyddion, yn hytrach na dinasyddion, sy’n trafod, dadlau a gwneud penderfyniadau yn y Senedd. Mae pleidleisio yn bwysig felly fel ffordd o sicrhau bod dinasyddion yn rhan o’r broses o ddewis pwy sy’n eu cynrychioli.
- Dewis llywodraeth
Wrth bleidleisio dros gynrychiolydd i’r etholaeth, mae dinasyddion yn cyfrannu at y broses o ddewis y llywodraeth, gan mai’r blaid gyda’r nifer fwyaf o gynrychiolwyr sydd â’r hawl i ffurfio llywodraeth.

Ffyrdd eraill o gyfranogi mewn gwleidyddiaeth
Cyn dy fod di’n ddigon hen i bleidleisio, gelli di gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth mewn sawl ffordd arall.
Ymgyrchu
Gall dinasyddion sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed drwy lofnodi deiseb sy’n galw am newid. Gall pobl ifanc sy’n 13 mlwydd oed neu'n hŷn hefyd wneud defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol i ddilyn grwpiau sy’n sefyll dros faterion sy’n agos at eu calonnau.
Protestio
Gall dinasyddion gynnal protest er mwyn tynnu sylw at achosion sy’n bwysig iddyn nhw ac er mwyn annog newid. Yn aml, mae dinasyddion yn protestio trwy orymdeithio a dal posteri sy’n esbonio eu dadleuon.
Lobïo
Does dim angen aros am etholiad i gysylltu â chynrychiolydd. Gall dinasyddion e-bostio eu Haelod Seneddol neu Aelod o’r Senedd yn uniongyrchol ar unrhyw adeg. Yn ogystal, mae ASau ac Aelodau o’r Senedd yn cynnal sesiynau rheolaidd ble gall dinasyddion eu cwrdd i drafod materion.
Ymuno â charfan bwyso
Gall dinasyddion ymuno â charfan bwyso, sef grŵp o bobl sydd am ddylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth ar fater penodol. Mae gan nifer sylweddol o garfanau pwyso fwy o aelodau na phleidiau gwleidyddol.
Ymuno â phlaid wleidyddol
Gall dinesydd ymuno â phlaid wleidyddol. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle iddyn nhw helpu siapio polisïau’r blaid, dewis ymgeiswyr ar gyfer etholiadau a dewis arweinydd.


Gwleidyddiaeth go iawn
Cynnwys Dinasyddiaeth ar gyfer 11-14 oed yng Nghymru

Gohebydd Ifanc y BBC
Cyfle i bobl ifanc 11-18 oed i rannu eu straeon a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.

Easy peasy politics
Citizenship content for 11-14 year olds in Wales

More on Gwleidyddiaeth a democratiaeth
Find out more by working through a topic
- count5 of 6

- count6 of 6

- count1 of 6

- count2 of 6
