Bïomau

Part ofDyniaethau - DaearyddiaethHunaniaeth

Beth yw bïom?

Ecosytemau mawr iawn ydy bïomau. Maen nhw’n cael eu diffinio gan ffactorau fel hinsawdd, pridd a llystyfiant. Mae prif fïomau’r byd yn cynnwys coedwig law, diffeithdir, tir glas y safana, a’r twndra.

Mae ecosystemau yn gymunedau o blanhigion ac anifeiliad sy’n byw mewn amgylchedd penodol. Maen nhw’n amrywio o ecosystemau bach fel pwll dŵr croyw i ecosystemau byd-eang fel diffeithdiroedd. Maen nhw’n cynnwys elfennau biotig ac anfiotig.

Ystyr biotig yw pethau byw fel pryfed, planhigion, coed a mamaliaid.

Ystyr anfiotig yw pethau anfyw fel pridd, creigiau a hinsawdd.

Gwylio: Fideo Bïomau

Gwylia’r clip byr hwn i ddysgu am brif fiomau’r byd.

Rhai o brif fïomau’r byd

  • Coedwigoedd trofannol - mae’r rhain i’w gweld gerllaw’r cyhydedd yng Nghanolbarth a De America, rhannau o Affrica ac Asia. Maen nhw’n boeth ac yn llaith ac yn cynnwys amrywiaeth enfawr o blanhigion ac anifeiliaid - tua hanner holl rywogaethau'r byd. Pren caled yw'r coed ar y cyfan. Gelwir yr hinsawdd yn gyhydeddol.
  • Tir glas y safana - poeth a sych ac wedi’i ddominyddu gan laswellt, prysg ac ambell goeden. Mae dau dymor penodol – tymor sych pan fydd llawer o'r llystyfiant yn marw, a thymor glawog pan fydd yn tyfu'n gyflym. Mae i’w weld yng nghanolbarth Affrica (Kenya, Zambia, Tanzania), gogledd Awstralia a chanol De America (Venezuela a Brasil).
  • Diffeithdir - yr ardaloedd sychaf a phoethaf. Y Sahara yng Ngogledd Affrica yw diffeithdir mwyaf y byd. Mae’r ardaloedd o dir prysgwydd sy'n ffinio â'r diffeithdir yn cael eu galw’n brysgwydd y diffeithdir.
  • Coedwigoedd collddail tymherus - yn cynnwys coed sy'n colli eu dail a gellir eu gweld ar draws Ewrop ac UDA. Mae'r tywydd yn fwyn ac yn wlyb. Gelwir yr hinsawdd yn forwrol dymherus.
  • Coedwigoedd conifferaidd - yn cynnwys coed bythwyrdd, ac sydd i’w gweld yn Sgandinafia, Rwsia a Chanada. Mae ganddyn nhw hinsawdd oer gyda glawiad cymedrol o'r enw tymherus claear.
  • Twndra/Polar - yn amgylchynu pegwn y gogledd a phegwn y de. Mae ganddyn nhw hinsawdd hynod o oer, a dim ond nifer cyfyngedig o blanhigion ac anifeiliaid sy’n gallu goroesi yno.
Prif fiomau: twndra, taiga (coedwig gonwydd), coedwig gollddail dymherus, glaswelltir tymherus, mangoed neu bren caled bythwyrdd (Mediteranaidd), diffeithdir, coedwig law drofannol, tir glas y safana.

Hinsawdd bïomau

Hinsawdd yw amodau tywydd cyfartalog dros gyfnod hir a dros ardaloedd eang.

Mae tymheredd a faint o law mae ardal yn ei derbyn yn dibynnu ar:

  • ei lleoliad i’w cymharu â’r pegynnau a’r cyhydedd
  • effaith unrhyw ardaloedd mawr o ddŵr cyfagos fel moroedd a chefnforoedd
  • sut mae uchder y tir yn newid, sef y tirwedd

Mae graffiau hinsawdd yn dangos glawiad a thymheredd cyfartalog ardal benodol yn ystod blwyddyn. Maen nhw’n gallu rhoi gwell dealltwriaeth i ni o'r math o hinsawdd sy’n cael ei brofi mewn bïom.

Graff i ddangos tymheredd a glawiad misol ardal fforest law Manaus, Brasil.

Mae'r graff hinsawdd hwn yn dangos y glawiad a'r tymheredd sy’n nodweddiadol o goedwig law drofannol. Mae yna dymor glawog amlwg rhwng Rhagfyr a Mai. Mae faint o law sy’n disgyn yn amrywio dros y flwyddyn - y glawiad misol uchaf ym mis Mawrth gyda dros 300mm, a’r isaf ym mis Awst gyda llai na 50mm. Yn ystod y flwyddyn, dim ond o 2°C y mae'r tymheredd yn amrywio.

Byddai gan fïomau eraill graffiau hinsawdd penodol hefyd. Ychydig iawn o law y byddai bïom y diffeithdir yn ei gael yn ystod y flwyddyn gyda'r tymereddau cyfartalog yn uchel drwyddi draw. Byddai coedwig gollddail yn profi tymheredd mwynach a swm cyson o law drwy gydol y flwyddyn.

Addasu i wahanol gynefinoedd

Er mwyn goroesi ym mhob bïom, mae planhigion ac anifeiliaid wedi gorfod addasu i ymdopi â’r amgylchedd maen nhw’n byw ynddo a’r heriau sy’n eu hwynebu.

Dyma ddwy enghraifft o sut mae anifeiliaid wedi addasu i'w cynefin.

Addasu i hinsawdd poeth

Diagram i ddangos pam fod camelod yn ymdopi'n dda mewn hinsawdd boeth.

Addasu i hinsawdd oer

Diagram i ddangos pam fod eirth gwyn yn ymdopi'n dda mewn hinsawdd oer.

Effaith ddynol ar fïomau

Datgoedwigo

Ystyr datgoedwigo yw clirio ardaloedd eang o goed. Mae’n fygythiad i goedwigoedd glaw trofannol, yn arbennig mewn lleoedd fel Basn Amazonas.

Mae mwy o weithgaredd dynol wedi arwain at golli rhannau mawr o goedwigoedd ar draws y byd. Mae hynny’n bennaf oherwydd:

  • torri a thrin coed – pan fydd coed fel mahogani yn cael eu torri a’u gwerthu fel pren i wneud celfi. Mae mathau eraill o goed yn cael eu torri i gynhyrchu nwyddau papur.
  • ffermio – mae rhannau mawr o’r goedwig law yn cael eu colli wrth i ofodau gael eu clirio ar gyfer ranshis bridio gwartheg i werthu cig.
  • mwyngloddio – mae gan Basn Amazonas gyfoeth o adnoddau naturiol fel mwyn haearn, copr, tin, alwminiwm, manganîs ac aur. Mae’r goedwig law drofannol yn cael ei chlirio er mwyn gallu cael gafael ar yr adnoddau hyn.

O ganlyniad i’r gweithgareddau hyn, mae anifeiliaid yn cael eu gwthio o’r coedwigoedd neu’n diflannu’n llwyr hyd yn oed.

Mae’r orangutan yn enghraifft dda o rywogaeth sydd dan fygythiad. Ganrif yn ôl roedden nhw’n byw mewn coedwigoedd ar draws de-ddwyrain Asia ond heddiw dim ond ar ynysoedd Sumatra a Borneo maen nhw i’w gweld.

Mae’r coedwigoedd glaw lle maen nhw’n byw yn cael eu torri i wneud lle i amaethyddiaeth a thyfu coed i gynhyrchu olew palmwydd.

Newid hinsawdd

Mae newid hinsawdd sydd wedi’i achosi gan fodau dynol wedi cael effaith fawr iawn ar fïomau’r byd.

Mewn bïomau cras a lled-gras, mae diffeithdiro yn dod hyd yn oed yn fwy cyffredin. Mae hyn yn golygu bod tir yn llai cynhyrchiol naill ai dros dro neu’n barhaol. Dydy e ddim yn gallu cynnal cymaint o lystyfiant ac yn y gorffennol.

Mae sawl peth yn gallu achosi diffeithdiro, fel:

  • sychder
  • datgoedwigo
  • gorbori
  • tanau
  • gorffermio

Pan mae’r tir yn llai cynhyrchiol mae’n anoddach ffermio a gall hyn arwain at heriau economaidd.

Mwd sych wedi cracio i'w weld yn y Valdeinfierno yn Zarcilla de Ramos, Sbaen.
Image caption,
Mwd sych wedi cracio i'w weld yn y Valdeinfierno yn Zarcilla de Ramos, Sbaen
Coed wedi'u torri mewn coedwig law.
Image caption,
Coed wedi'u torri mewn coedwig law
Mae newid hinsawdd yn cael effaith ddwys yn yr Ynys Las gyda rhewlifoedd a chap iâ'r Ynys Las yn cilio.
Image caption,
Mae newid hinsawdd yn cael effaith ddwys yn yr Ynys Las gyda rhewlifoedd a chap iâ'r Ynys Las yn cilio

Mae bïomau polar yn cael eu heffeithio gan y codiad mewn tymhereddau byd-eang. Mae’r capiau iâ yn y pegynau yn ymdoddi ar gyfradd sy’n cyflymu.

Mae'n dod yn fwyfwy anodd i anifeiliaid, fel eirth gwyn a walrysod, oherwydd maen nhw’n colli eu cynefinoedd brodorol. Mae’r anifeiliaid hyn yn cael eu gorfodi i fudo ymhellach i’r de i chwilio am dir ac am fwyd i’w cynnal eu hunain.

Yn yr Antarctig, mae’r iâ môr yn diflannu ac mae’n bygwth bodolaeth y rhywogaethau o bengwiniaid sy’n byw yno.

More on Hunaniaeth

Find out more by working through a topic