Bob dydd, rydyn ni’n wynebu dewisiadau ac yn gwneud penderfyniadau. Pethau fel pa fwyd i’w fwyta, beth i’w wisgo, beth i’w wneud, ble i fynd a gyda phwy i dreulio amser. Mae ein penderfyniadau yn effeithio ar ein bywydau ni. Maen nhw hefyd yn gallu effeithio ar bobl rydyn ni’n eu hadnabod a hyd yn oed pobl ar draws y byd.
Gwylio: Sut mae ein penderfyniadau yn effeithio arnon ni ac eraill?
Mae Lina, Rhys ac Efa yn ymweld â’r Eisteddfod. Maen nhw’n dysgu bod eu penderfyniadau am sut i deithio yno a beth maen nhw’n ei wneud pan fyddan nhw yno yn effeithio arnyn nhw a phobl eraill.
RHYS: Hei! Ro’n i’n meddwl bod ti’n mynd i’r Eisteddfod heddiw?
EFA: Dwi yn. Dwi’n mynd gyda Lina a’i rhieni hi. Ar y trên.
RHYS: Y trên?
EFA: Bydd e’n hwyl. A llawer gwell i’r blaned. Defnyddio llai o olew i gludo mwy o bobl. Llai o lygredd! Wow! Mae cymaint o bethau yma!
LINA: Ond dwi’n teimlo mor sychedig.
EFA: Fe awn ni i nôl rhywbeth. Tybed ble mae Rhys?
LINA: Dim syniad! Mae llwyth o stondinau diod yma. Dere! O. Ciws hir ym mhob man.
EFA: Co, mae yna boteli dŵr am ddim yn fanna. Gallwn ni lenwi nhw yn y safleoedd dŵr.
LINA: Diolch!
EFA: Hei, edrycha! Mae yna gêm ailgylchu yn fan yna. Dere i weld! Mae’r bin ailgylchu’n gwrthod y bagiau plastig.
LINA: Ond ti yn gallu ailgylchu bagiau plastig.
EFA: Yn yr archfarchnadoedd. Mae Mam yn mynd â nhw i fin arbennig yna. Dyna pam mae’n well cael bagiau ti’n gallu defnyddio eto.
LINA: Doedd gen i ddim syniad bod angen gymaint o olew i neud un botel blastig.
EFA: A ry'n ni’n dwy wedi arbed olew gyda’r rhain! Llai o olew, llai o lygredd! Dere i chwilio am Rhys! Wow! Mae hwn yn llawn dop!
LINA: Ond gân nhw eu hailgylchu.
EFA: Ond mae’r poteli yma gymaint yn well, gallwn ni ddefnyddio nhw eto ac eto. Roedd hwnna’n benderfyniad da! Mae ail-ddefnyddio’n well nag ailgylchu.
LINA: A daethon ni yma ar y trên.
EFA: Lle mae Rhys? Ydy e ar goll?
LINA: Na dyw e ddim. Co!
RHYS: Ry'n ni wedi bod yn styc mewn traffig am oriau. Roedd hi’n dwym ofnadwy. Chi wedi bod yma’n hir?
EFA: Ddim felly!
RHYS: Oce. Beth ydych chi wedi bod yn gwneud?
LINA: Helpu yr amgylchedd!
RHYS: Mewn gŵyl ganu a dawnsio a phethau?
LINA: Rhys, mae mwy na hynny yma… celf, llenyddiaeth, cyngherddau a…
EFA: Wyt ti eisiau diod? Gallwn ni ddangos i ti sut ti’n gallu bod yn eco-gyfeillgar hefyd.
RHYS: Ond mae’r diodydd ffordd yna!
EFA: Ond mae gyda ni syniad llawer gwell. Dere!
Penderfyniadau sy’n effeithio ar bobl a chymdeithas
Mae dinesyddPerson sy'n byw mewn lle ac yn cymryd rhan fel aelod o'r gymuned. da yn rhywun sy’n meddwl yn ofalus ac sy’n ceisio gwneud y penderfyniadau iawn. Maen nhw’n meddwl am effaith eu penderfyniadau a’u gweithredoedd, cyn eu gwneud.
Mae ein penderfyniadau yn gallu gwella bywydau pobl eraill.
Cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol
Drwy helpu i wneud i bethau da ddigwydd yn y gymuned, gallwn ni wella bywydau pobl. Gallai hyn fod drwy wirfoddoli neu helpu pobl yn yr ardal leol.
Un enghraifft yw helpu i greu gardd gymunedol drwy blannu coed, blodau a llysiau mewn ardaloedd sy’n cael eu rhannu fel bod pawb yn gallu eu mwynhau.
Cefnogi elusennau
Mae dewis codi arian, rhoi eitemau neu wirfoddoli gydag elusenSefydliad sy'n helpu pobl eraill ac sy'n codi arian ar gyfer y rhai sydd mewn angen.yn gallu gwneud pethau'n well i bobl eraill.
Mae rhai elusennau’n helpu pobl yng Nghymru neu’r Deyrnas Unedig gyfan.
Mae codi arian at elusen fyd-eang, fel Oxfam, yn fath o weithredu cymdeithasol sy’n helpu pobl ar draws y byd.

Gwneud dewisiadau da am y pethau rydyn ni’n eu prynu neu’n eu defnyddio
Mae pobl yn gallu gwneud pethau'n well pan maen nhw’n gwneud penderfyniad am beth i’w brynu. Un enghraifft yw prynu cynnyrch masnach degCynlluniau sy’n gwneud yn siŵr bod y cynhyrchwyr yn cael eu talu’n deg am y nwyddau maen nhw yn eu cynhyrchu..
Mae’r bobl sy’n tyfu cynnyrch masnach deg fel coffi, ffa coco neu fananas yn cael pris teg am eu gwaith. Mae masnach deg hefyd yn helpu i wneud yn siŵr nad yw’r bobl sy’n cynhyrchu’r pethau rydyn ni’n eu prynu yn cael eu gorweithio nac yn byw mewn amodau gwael.
Mae llawer o’r bobl sy’n cynhyrchu eitemau masnach deg yn byw mewn gwledydd yn Affrica, Asia neu Dde America. Felly mae dewis defnyddio cynnyrch masnach deg yn helpu pobl ar draws y byd.

Weithiau mae ein penderfyniadau ni yn gallu gwneud niwed i bobl neu wneud eu bywydau’n waeth.
Sut rydyn ni’n ymddwyn
Mae’r ffordd rydyn ni’n dewis siarad â phobl a thrin pobl yn gallu achosi llawer o boen. Mae galw enwau, peidio â chynnwys pobl mewn pethau, neu fwlio yn gallu brifo teimladau a gwneud pobl yn drist.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Mae hyn yn cynnwys gwneud gormod o sŵn, rhegi, gweiddi, ymddygiad bygythiol, neu ymladd.
Dyma un enghraifft o sut mae penderfyniadau a gweithredoedd pobl yn gallu achosi pryder neu niwed i bobl eraill. Mae rhai mathau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu hystyried yn troseddRhywbeth sydd yn erbyn y gyfraith, er enghraifft dwyn rhywbeth. , a galli di gael dy gosbi am wneud y pethau hyn.
Torri'r gyfraith
Mae troseddau fel fandaliaeth Difrodi neu niweidio rhywbeth yn fwriadol. neu ddwyn hefyd yn cael effaith negyddol ar y dioddefwr a’r gymuned ehangach. Maen nhw’n gallu gwneud i bobl deimlo’n anniogel, neu’n ofnus.
Penderfyniadau sy'n effeithio ar yr amgylchedd
Mae llawer o’r penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud yn cael effaith ar y byd naturiol. Gallai hyn fod yn yr ardal leol, neu yn rhywle arall yn y byd.
Mae rhai penderfyniadau sy’n cael effaith negyddol ar yr amgylchedd.
Gollwng sbwriel
Mae gollwng sbwriel, fel caniau diod, pecynnau bwyd, poteli a phapur melysion yn gallu achosi niwed i anifeiliaid. Mae hefyd yn gallu llygru’r tir, afonydd a llynnoedd.
Mae sbwriel yn gwneud i’r ardal leol edrych yn anniben. Mae hefyd yn berygl tân, ac mae pethau fel bagiau siopa yn gallu mynd yn sownd mewn draeniau ac achosi llifogydd.
Prynu eitemau untro
Pethau sy’n cael eu defnyddio unwaith ac yna’n cael eu taflu yw eitemau untro. Mae llawer o’r eitemau hyn fel pecynnau creision, poteli, cwpanau, gwellt yfed a chynwysyddion bwyd wedi’u gwneud o blastig.
Maen nhw’n broblem fawr, oherwydd mae eitemau untro yn troi’n llawer o sbwriel yn gyflym iawn. Yn 2023, pasiodd Senedd Cymru ddeddf sy’n gwahardd gwerthu rhai eitemau plastig untro.

Mae llawer iawn o blastig untro yn cyrraedd y moroedd a’r cefnforoedd.Oherwydd y llanw a’r gwynt, mae llawer o'r sbwriel plastig hwn yn cyrraedd llefydd sydd yn bell o ble y dechreuodd. Mae rhan o’r Cefnfor Tawel wedi cael ei enwi’n “Llecyn Sbwriel Mawr y Cefnfor Tawel” oherwydd bod cymaint o lygredd plastig yno.
Gwastraffu bwyd
Mae tua thraean o’r holl fwyd yn cael ei wastraffu. Mae gwastraffu bwyd yn golygu bod yr holl ynni a dŵr sydd wedi mynd i mewn i baratoi neu dyfu’r bwyd yn cael ei wastraffu hefyd.
Os yw gwastraff bwyd yn cyrraedd safleoedd tirlenwi, mae’n pydru ac yn cynhyrchu nwy o’r enw methan. Methan yw un o’r nwyon sy’n achosi newid hinsawddY newid tymor hir yn nhymheredd y byd ac yn yr atmosffer sy'n gwneud i'r blaned gynhesu.. Mae newid hinsawdd yn effeithio ar Gymru a’r byd i gyd.
Un man lle mae newid hinsawdd yn cael effaith yw’r Maldives yng Nghefnfor India. Mae’r rhan fwyaf o’r tir yn yr ynysoedd hyn lai na metr uwchlaw lefel y môr. Mae hyn yn golygu y bydd y stormydd ffyrnig a’r cynnydd yn lefelau’r môr sy’n cael eu hachosi gan newid hinsawdd yn effeithio arnyn nhw.

Sut i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd
More on Cymuned a chymdeithas
Find out more by working through a topic