Cyfweliad gyda'r actor Mark Evans ar y rhaglen Mosgito
Description
Dangosir dilyniant teitlau y gyfres Mosgito gyda golygfeydd agoriadol yn y stiwdio gyda’r cyflwynydd Trystan Morris. Yna gwelir cyfweliad gan un o gyfranwyr Mosgito gyda’r actor Mark Evans. Mae’n trafod ei brofiad ar y rhaglen ‘Your Country Needs You’ gydag Andrew Lloyd Webber.
Classroom Ideas
Gellir cynnal trafodaeth ar bwysigrwydd disgwyliad y gynulleidfa o raglenni cylchgrawn a rhaglenni sy’n cael eu cynhyrchu i bobl ifanc yn gyffredinol. Gofynnwch i’r disgyblion ddatblygu holiadur er mwyn darganfod ymateb y gynulleidfa i’r genre cylchgrawn/ adloniant ysgafn. Gellir hefyd roi tasg iddyn nhw ymchwilio dechrau rhaglen Mosgito gan ofyn iddynt gyfeirio at natur gydgyfeiriol teledu, hunaniaeth sianeli a sut mae’r gynulleidfa yn gallu uniaethu gyda nhw. I ddatblygu’r gwaith ymhellach, gofynnwch i’r disgyblion ymchwilio pwysigrwydd teitlau rhaglenni ac yna, mewn grwpiau, datblygu teitlau newydd ffres gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau amlgyfryngol.
Now playing video 1 of 2