Bwyd cynaliadwy

Part ofCynaliadwyeddBwyd

Pethau sy’n achosi ansefydlogrwydd bwyd

Amser maith yn ôl, dechreuodd pobl ffermio yn lle hela a chasglu bwyd. Roedd hyn yn golygu bod angen mwy o dir ar bobl i dyfu cnydau a magu anifeiliaid. I gael y tir hwn, roedd yn rhaid iddyn nhw glirio coedwigoedd, glaswelltiroedd, a lleoedd naturiol eraill. Roedden nhw'n torri coed i lawr ac yn gwneud caeau i blannu pethau fel gwenith, reis, ac ŷd.

Heddiw, mae bron i hanner y tir rhydd ar y Ddaear yn cael ei ddefnyddio i dyfu bwyd, sy’n gallu difrodi cartrefi anifeiliaid a chreu problemau i blanhigion lleol.

Mewn rhai mannau, mae’r planhigion sy’n tyfu yno’n naturiol yn cael eu disodli gan gnydau sy’n dod ag arian. Mae olew palmwydd yn enghraifft o hyn. Mae llawer iawn o olew palmwydd yn cael ei dyfu yng nghoedwig law yr Amazon er ei fod yn dod o orllewin Affrica yn wreiddiol, nid o Dde America. Mae’r goedwig law drofannol wedi cael ei i wneud lle i blanhigfeydd olew palmwydd, dim ond oherwydd bod y cnwd hwn yn fwy proffidiol na choed brodorol yr Amazon.

Golygfa o’r awyr o resi o goed palmwydd mewn planhigfa, sy’n darlunio amaethyddiaeth ar raddfa ddiwydiannol.

Mae’r ffordd rydyn ni’n ffermio nawr yn gallu llygru dŵr a niweidio ffrwythlondeb naturiol y pridd, sy’n ei gwneud hi’n anodd tyfu cnydau’n naturiol. Mae hyn yn golygu bod ffermwyr weithiau’n defnyddio gwrteithiau artiffisial a sy’n gallu achosi i rai anifeiliaid a rhai planhigion ddiflannu o’r dirwedd.

Fideo: Bwyd cynaliadwy

Gweithgaredd: Sut mae ffermio wedi newid drwy gydol hanes?

Pa broblemau y gellir eu creu drwy gynhyrchu bwyd anghynaliadwy?

Gall cynhyrchu bwyd anghynaliadwy achosi llawer o broblemau i’n planed. Mae’r problemau hyn nid yn unig yn effeithio ar yr amgylchedd, gan gynnwys y dirwedd ac anifeiliaid, ond maen nhw hefyd yn effeithio ar ein gallu i dyfu bwyd yn y dyfodol. Felly, mae’n bwysig, os yw’n bosibl, dod o hyd i ddulliau sy’n well i’r blaned ac i ni.

Effeithiau ar gymdeithasEffeithiau ar yr amgylchedd
Gall ansawdd pridd gael ei ddifrodi (os caiff ei orddefnyddio) gan arwain at lai o gnydau, gan effeithio ar argaeledd bwyd a mynediad ar gyfer gymunedau.Mae cludo bwyd dros bellteroedd hir yn gwaethygu’r newid yn yr hinsawdd, oherwydd bod cerbydau sy’n cael eu defnyddio i gludo bwyd yn allyrru CO₂.
Gall plaleiddiaid a gwrteithiau a ddefnyddir i dyfu cnydau beri peryglon iechyd i weithwyr fferm a chymunedau cyfagos.Mae clirio tir ar gyfer ffermio yn dinistrio cynefinoedd naturiol, gan arwain at golli bioamrywiaeth ac amharu ar ecosystemau.
Gall gwastraff bwyd gyfrannu at ansicrwydd bwyd, gan effeithio ar boblogaethau agored i niwed ac arwain at anghydraddoldebau mewn lefelau datblygu rhwng gwledydd.O bryd i’w gilydd, gall arferion ffermio dwys maetholion pridd, diraddio strwythur pridd, ac arwain at .
O bryd i’w gilydd, gall gweithrediadau ffermio anghynaliadwy ar raddfa fawr ecsbloetio llafur, gan arwain at amodau gwaith gwael a chyflogau annheg i weithwyr fferm.Gall dŵr sy’n rhedeg oddi ar gaeau amaethyddol sy’n cynnwys gwrteithiau a phlaladdwyr halogi ffynonellau dŵr, gan niweidio .
Mae methan o dda byw a charbon deuocsid o ddatgoedwigo yn cyfrannu at gynhesu byd-eang a newid yn yr hinsawdd.

Fideo: Bwyd cynaliadwy ar waith

Cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy

Mae angen cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy oherwydd gall helpu i warchod ein hamgylchedd, cadw bioamrywiaeth, cefnogi cymunedau lleol, a sicrhau bod gennym ddigon o fwyd iach i’w fwyta nawr ac yn y dyfodol.

  • Mae ffermio organig yn golygu bod ffermwyr yn cynhyrchu cnydau heb gemegion artiffisial.

  • Mae cylchdroi cnydau ac arallgyfeirio yn helpu i wella iechyd pridd, lleihau plâu a chlefydau, a gwella .

  • Amaeth-goedwigaeth yw integreiddio coed a llwyni i dir fferm, gan ddarparu manteision niferus fel cadwraeth pridd a gwella bioamrywiaeth bywyd anifeiliaid a phlanhigion yn yr ardal.

  • Ffermio trefol, rhandiroedd a gerddi cymunedol sy’n defnyddio gwag ar gyfer cynhyrchu bwyd, gan hyrwyddo bwyd lleol, ymgysylltu â'r gymuned, addysg a diogelwch bwyd.

  • Arferion ffermio moesegol a Masnach Deg sy’n sicrhau cyflogau teg, amodau gwaith diogel, a bywoliaeth gynaliadwy i ffermwyr a gweithwyr, gan hyrwyddo cymdeithasol.

Gweithgaredd: Sut allwn ni wneud bwyd yn fwy cynaliadwy?

Mae llawer yn cael ei wneud i hyrwyddo cynaliadwyedd yn y diwydiant bwyd, ond beth alli di ei wneud i helpu?