CymesureddCymesuredd adlewyrchiad

Dysga sut i ddarganfod llinellau cymesuredd adlewyrchiad, a sut i adnabod cymesuredd cylchdro, mewn siapiau megis polygonau rheolaidd.

Part ofMathemategCymesuredd

Cymesuredd adlewyrchiad

Mae’r llinell fylchog drwy ganol y llythyren A yn cael ei galw’n llinell ddrych, achos os wyt ti’n gosod drych ar ei hyd, bydd y siâp yn edrych yn union yr un fath â’r gwreiddiol.

Diagram llinell cymesuredd

Enw arall ar linell ddrych ydy llinell cymesuredd. Mae’r math hwn o gymesuredd yn cael ei alw’n gymesuredd adlewyrchiad hefyd.

Nawr, edrycha ar beth sy’n digwydd pan wyt ti’n plygu’r llythyren ‘A’ ar hyd gwahanol linellau bylchog.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 2, Llunio triongl gan ddefnyddio cwmpas, Ceisio cael cymesuredd Mae’r llythyren A wedi ei marcio â llinellau plygu.

Dim ond yn y drydedd enghraifft y mae’r rhan o’r siâp sydd i’w phlygu’n ffitio’n berffaith dros y rhan wreiddiol. Y llinell fylchog yma ydy unig llinell cymesuredd y llythyren A.