Llinellau croestoriadol a pharalel Llinellau paralel a hafal

Gelli di ddefnyddio llinellau croestoriadol a pharalel i ganfod yr onglau mewn triongl. Mae llinellau croestoriadol yn croesi ei gilydd. Dydy llinellau paralel byth yn croesi ei gilydd.

Part ofMathemategOnglau

Llinellau paralel a hafal

Mae llinellau paralel yn cael eu marcio â saethau.

Diagram llinellau paralel

Mae llinellau hafal o ran hyd yn cael eu marcio â llinellau cwta.

Diagram llinellau paralel

Question

Yn y diagram isod, mae \({DE}\) yn baralel i \({AC}\), ac mae \({AB} = {CB}\).

Diagram llinellau hafal

a) Canfydda faint ongl \({a}\). Rho reswm dros dy ateb.

b) Canfydda faint ongl \({c}\). Rho reswm dros dy ateb.

c) Canfydda faint ongl \({b}\). Rho reswm dros dy ateb.

ch) Canfydda faint ongl \({e}\). Rho reswm dros dy ateb.