CyfesurynnauY pedwar cwadrant

Mae gan bob graff echelin x ac echelin y. Defnyddir cyfesurynnau, a ysgrifennir fel dau rif, i roi safleoedd ar graff. Mae’r echelin x yn llorweddol a’r echelin y yn fertigol.

Part ofMathemategGraffiau

Y pedwar cwadrant

Mae estyn echelinau \({x}\) ac \({y}\) y tu hwnt i’r tarddbwynt yn datgelu’r graddfeydd negyddol.

Mae'r echelinau yn rhannu'r graff mewn i bedwar cwadrant. Felly nawr mae gyda ni bedwar cwadrant i gyd.

Byddwn ni’n dal i ddisgrifio cyfesurynnau yn y cwadrantau hyn yn nhermau \({x}\) ac \({y}\). Ond nawr gallwn ni gael gwerthoedd negyddol i \({x}\), \({y}\) neu’r ddau.

Er enghraifft, yn y diagram isod:

Cyfesurynnau A ydy (\({-2},~{3}\)).

Cyfesurynnau B ydy (\({-3},~{-4}\)).

Graff gyda phwyntiau a chyfesurynnau

Beth ydy cyfesurynnau'r pwynt \({C}\) ym mhob un o'r enghreifftiau hyn?

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 10, Dull llinellau, Beth ydy cyfesuryn y pwynt hwn? Clicia nesaf i weld.

More guides on this topic