Theorem PythagorasTrionglau ongl sgwâr

Fformiwla ydy Theorem Pythagoras y gelli di ei defnyddio i ganfod hyd unrhyw un o ochrau triongl neu’r pellter rhwng dau bwynt.

Part ofMathemategPythagoras

Trionglau ongl sgwâr

Mae Theorem Pythagoras yn berthnasol i bob triongl ongl sgwâr. Mae’r sgwâr ar yr hypotenws yn hafal i swm y sgwariau ar y ddwy ochr arall. (Yr hypotenws ydy’r ochr hiraf ac mae bob amser gyferbyn â’r ongl sgwâr).

Ar gyfer unrhyw driongl ongl sgwâr mae’r sgwâr ar yr hypotenws yn hafal i swm y sgwariau ar y ddwy ochr arall.

Diagram triongl ongl sgwâr

Yn y triongl hwn mae \({a}^{2} = {b}^{2} + {c}^{2}\) ac mae ongl A yn ongl sgwâr.

Dim ond ar gyfer trionglau ongl sgwâr mae Theorem Pythagoras yn gweithio, felly gelli di ei defnyddio i brofi a oes gan driongl ongl sgwâr.

Question

Pa un o’r trionglau hyn sydd ag ongl sgwâr?

a)

Triongl a

b)

Triongl b

c)

Triongl c