Mae histogramau’n ffordd o gynrychioli data. Maen nhw’n debyg i siartiau bar, ond yn dangos y dwysedd amlder yn hytrach na’r amlder. Gallwn eu defnyddio i ganfod gwybodaeth am ddosraniad y data.
Weithiau bydd histogram wedi cael ei lunio’n barod i ni. Yna gallwn ddefnyddio hwn i ganfod yr amlder ar gyfer pob grŵp ac, o hynny, cyfanswm yr amlder ar gyfer y dosraniad.
Mae’r histogram hwn yn dangos nifer y llyfrau a werthwyd mewn siop lyfrau un dydd Sadwrn:
I ganfod amlder pob grŵp, rhaid i ni luosi uchder y bar â’i led, gan fod arwynebedd pob bar yn cynrychioli’r amlder.
Ar gyfer y bar cyntaf, mae’r uchder yn 8 a’r lled yn 5 felly:
Amlder = 8 × 5 = 40
Os wnawn ni’r un peth ar gyfer pob bar, cawn:
Question
Mae’r histogram hwn yn dangos gwybodaeth am y pellter mae nifer o bobl yn taflu pêl, mewn metrau.
Canfydda amlder pob grŵp gan ddefnyddio’r histogram.