FformiwlâuYsgrifennu fformiwlâu mewn geiriau

Mewn algebra, gelli di ddefnyddio llythyren i gynrychioli rhif nad wyt ti’n ei wybod.Gallwn ni greu termau algebraidd, ee 2x a 5y a'u rhoi at ei gilydd i greu mynegiad algebraidd, ee 2x + 5y + 3z.

Part ofMathemategMynegiadau a Fformiwlâu

Ysgrifennu fformiwlâu mewn geiriau

Dyddiau’r wythnos

Petai rhywun yn gofyn i ti sawl diwrnod sydd mewn wythnos, byddet yn cael yr ateb yn rhwydd. Mae \({7}\) diwrnod mewn wythnos. Beth am nifer y diwrnodau mewn pythefnos? Eto, mae’r ateb yn eitha syml: \({14}\).

Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn gofyn sawl diwrnod sydd mewn tair wythnos, neu bedair, neu bump? Os wyt ti’n gwybod y fformiwla gallet ti weithio hyn allan.

\({1}\) wythnos ydy \({1}\times{7}~diwrnod={7}\)

\({2}\) wythnos ydy \({2}\times{7}~diwrnod={14}\)

\({3}\) wythnos ydy \({3}\times{7}~diwrnod={21}\)

\({4}\) wythnos ydy \({4}\times{7}~diwrnod={28}\)

Felly, y fformiwla ar gyfer canfod nifer y diwrnodau ydy:

\(nifer~y~diwrnodau=nifer~yr~wythnosau\times{7}\)

Question

a) Sawl ceiniog sydd mewn \(\pounds{1}\)?

b) Sawl ceiniog sydd mewn \(\pounds{2}\)?

c) Sawl ceiniog sydd mewn \(\pounds{7}\)?

ch) Beth ydy’r fformiwla sy’n cysylltu nifer y ceiniogau â nifer y punnoedd?

More guides on this topic