Cosbau newydd eraill
Mae dulliau cosbi eraill wedi’u cyflwyno oherwydd y cynnydd enfawr ym mhoblogaeth carchardai, cyfraddau aildroseddu uchel a charcharorion sy’n cael eu dylanwadu gan gyswllt â throseddwyr eraill.
Profiannaeth
Sefydlwyd profiannaeth, neu'r gwasanaeth prawf, yn 1907 pan mae’n rhaid i’r unigolyn ddilyn set o reolau a osodir gan y llys. Mae’n rhaid iddyn nhw adrodd i’r heddlu unwaith yr wythnos a chyfarfod â swyddog prawf yn rheolaidd. Erbyn hyn mae pobl ar brawf hefyd yn mynychu canolfannau dydd ac yn cwblhau gweithgareddau tra eu bod ar brawf.
Parôl
Fe'i cyflwynwyd yn 1967. Mae carcharorion yn gymwys am barôl cyn diwedd eu dedfryd. Mae hynny’n golygu y gallant adael y carchar dros dro neu’n barhaol. Mae parôl yn helpu i gadw poblogaeth y carchardai i lawr.
Dedfrydau gohiriedig
Ers 1967 gall barnwr roi dedfryd ohiriedig. Nid yw’r troseddwr yn mynd i garchar oni bai ei fod yn cyflawni trosedd arall yn ystod cyfnod y ddedfryd ohiriedig.
Gwasanaeth cymunedol
Cyflwynwyd gorchmynion gwasanaeth cymunedol yn 1972 ac mae’n rhaid i droseddwyr gwblhau rhwng 40 a 300 awr o waith yn y gymuned. Yn aml mae’r gwaith cymunedol yn ymwneud â glanhau graffiti neu baentio mannau cyhoeddus. Mae gorchmynion gwasanaeth cymunedol fel arfer yn cael eu rhoi am droseddau megis difrodi eiddo neu dwyll budd-daliadau.
Tagio electronig
Dechreuwyd tagio troseddwyr yn y 1990au pan mae troseddwyr yn gwisgo tag ar eu fferau. Mae’r tag yn cael ei dracio â GPS felly mae hynny yn galluogi i’r heddlu wybod lleoliad y troseddwr. Mae pobl sydd wedi eu tagio yn cael cyrffyw sy'n golygu bod rhaid iddyn nhw fod adref ar amserau penodol yn ystod y dydd a'r nos. Hefyd mae llawer o bobl sydd wedi eu tagio wedi derbyn gorchmynion llys sy'n eu gwahardd rhag mynd i fannau penodol.