Diagramau brigyn a dail
Mae diagram brigyn a dail yn un ffordd o grwpio dy ddata’n ddosbarthiadau a dangos siâp y data.
Enghraifft o ymchwiliad
Mae prawf mathemateg wedi ei farcio allan o \({50}\). Mae marciau’r dosbarth yn cael eu dangos isod:
Dyma’r holl wybodaeth sydd ei hangen, ond mae’n anodd iawn ei dehongli. Er enghraifft, ydy hi’n hawdd dweud a gafodd mwy o blant farciau yn y \({20au}\) nag yn y \({30au}\)? Alli di ddweud yn syth beth oedd y marc uchaf, neu a gafodd mwy nag un person yr un canlyniad?
Un ffordd o gyfleu’r data er mwyn gallu ateb y cwestiynau hyn ydy mewn diagram brigyn a dail. Mae’r diagram hwn yn dangos yr un canlyniadau’n union â’r enghraifft uchod:
Mae’r rhifau fel arfer wedi eu trefnu:
Un rhes o ddiagram brigyn a dail: \({2}\) ydy’r brigyn, ac \({1},~{3},~{4},~{4},~{5}\) a \({7}\) ydy’r dail yn dangos y rhifau \({21},~{23},~{24},~{24},~{25},\) a \({27}\) yn eu trefn.
Gan ddefnyddio’r diagram brigyn a dail uchod, ateba’r cwestiynau canlynol.
Question
Sawl plentyn sgoriodd \({36}\)?
Gelli di ganfod hyn drwy edrych ar draws o’r \({3}\) yn y golofn degau:
Felly mae \({2}\) o blant wedi sgorio \({36}\).
Question
Beth oedd y sgôr mwyaf cyffredin?
Gelli di ganfod hyn o'r diagram brigyn a dail drwy edrych am y rhediad hiraf o rifau.
Felly \({17}\) oedd y sgôr mwyaf cyffredin.