Canolbwynt segment llinell
Ymarfera’r lluniad hwn nes gelli di ei wneud heb edrych ar y cyfarwyddiadau.
Image caption, Lluniadu canolbwynt segment llinell
Image caption, Lluniadu canolbwynt segment llinell
Gan osod dy gwmpas ar un pen i’r llinell, tynna arc gan wneud yn siŵr ei bod dros hanner ffordd ar draws y llinell.
Image caption, Lluniadu canolbwynt segment llinell
Yn ofalus, heb newid y pellter rhwng y bensil a’r cwmpas, gosoda dy gwmpas ar ben arall y llinell a thynnu arc arall, gan groesi’r arc gyntaf mewn dau le.
Image caption, Lluniadu canolbwynt segment llinell
Mae’r pwyntiau lle mae’r ddwy arc yn croesi (A a B) yn union yr un pellter oddi wrth X ac Y.
Image caption, Lluniadu canolbwynt segment llinell
Defnyddia dy bren mesur i dynnu llinell i gysylltu’r ddau bwynt hyn.
Image caption, Lluniadu canolbwynt segment llinell
Pan wneir hyn yn gywir, bydd y llinellau XY ac AB bob amser ar ongl sgwâr i'w gilydd.
1 of 6