Mesurau data
Mae gallu defnyddio a deall data rhifol yn hanfodol ar gyfer gwaith maes ac er mwyn ffurfio casgliad. Gall trin data’n briodol ddangos tueddiadau a phatrymau. Gall hefyd ein galluogi i ragfynegi tueddiadau yn y dyfodol.
Archwilio’r defnydd o dechnegau ystadegol sy’n helpu daearyddwyr i ddadansoddi’r data maen nhw’n ymdrin â nhw bob dydd. (Cynnwys Saesneg)
Gallwn fesur data yn y ffyrdd a ganlyn:
Image caption, Canolrif
Dyma’r gwerth canol mewn rhestr o rifau. Gallwn ddod o hyd i’r canolrif drwy osod y rhifau mewn trefn rifol ac edrych am y rhif yn y canol
Image caption, Cymedr
Dyma’r ‘cyfartaledd’. Mae’r cymedr yn cael ei gyfrifo drwy adio’r rhifau i gyd a rhannu â chyfanswm nifer y rhifau
Image caption, Amrediad
Y gwahaniaeth rhwng y rhif mwyaf a’r rhif lleiaf mewn set o ddata
Image caption, Chwartelau
Y gwerthoedd sy’n rhannu’r rhestr o rifau yn chwarteri hafal
Image caption, Amrediad rhyngchwartel
Dyma’r gwahaniaeth rhwng y chwartel uchaf a’r chwartel isaf
Image caption, Modd
Dyma’r rhif sy’n digwydd amlaf mewn set o ddata
Image caption, Dosbarth modd
Y grŵp â’r amlder mwyaf
1 of 7