Y mynegrif datblygiad dynol
Mae cynnydd a datblygiad economaidd yn aml iawn yn mynd law yn llaw â datblygiad cymdeithasol. Mae’r graff gwasgariad yn dangos bod pobl sy’n fwy cyfoethog hefyd yn fwy iach. Mae hyn yn golygu bod y cydberthyniadY berthynas/cysylltiad rhwng dau newidyn. Cadarnhaol = wrth i un newidyn gynyddu, bydd y llall hefyd. Negyddol = wrth i un newidyn gynyddu, bydd y llall yn gostwng. rhwng y ddau yn gadarnhaol. Po fwyaf o arian mae pobl yn ei ennill, po fwyaf maen nhw’n gallu ei wario ar ofal iechyd, er enghraifft trechu clefydau neu hyfforddi rhagor o feddygon. Wrth i iechyd wella, mae cyfraddau marwolaethau a chyfraddau marwolaethau babanod (CMB) yn gostwng. Mae dangosyddion cymdeithasol eraill hefyd yn newid wrth i boblogaeth fynd yn fwy cyfoethog. Mae rhagor o arian yn cael ei wario ar addysg, sy’n golygu bod plant yn treulio mwy o amser yn yr ysgol, ac o ganlyniad mae cyfraddau llythrennedd yn codi.
O ganlyniad, er mwyn mesur pa mor ddatblygedig yw gwlad, mae’n well defnyddio ystod o ddangosyddion datblygiad – cymdeithasol ac economaidd. Y dangosydd mwyaf dibynadwy yw Mynegrif Datblygiad Dynol (MDD) y Cenhedloedd Unedig (CU). Mae MDD yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio cyfartaledd pedwar dangosydd datblygiad:
- addysg – nifer y blynyddoedd mewn addysg ysgol ar gyfartaledd
- addysg – cyfradd llythrennedd (fel canran o’r boblogaeth sy’n oedolion sy’n gallu darllen)
- incwm gwladol crynswth (IGC) y pen paredd gallu prynu (PGP/PPP)Mae hon yn ffordd o gydbwyso’r cyfraddau cyfnewid fel ei bod yn haws cymharu’r ffigyrau o wlad i wlad. mewn doleri UDA
- disgwyliad oes mewn blynyddoedd
Mantais defnyddio MDD y CU, yn hytrach na dangosydd unigol, yw ei fod yn rhoi cyfle i weld pa mor ddatblygedig yw gwlad o safbwynt cymdeithasol, yn ogystal â pha mor gyfoethog yw hi.
Mae’r map coropleth o’r byd yn dangos gwledydd y byd wedi’u dosbarthu yn ôl eu sgorau MDD perthynol. Mae sgôr MDD bob amser rhwng sero ac un. Mae sgorau sy’n nes at un yn golygu bod y wlad yn fwy datblygedig. Mae sgorau sy’n nes at sero yn golygu bod y wlad yn llai datblygedig.