Ymatebion Iddewig i’r Holocost
Mae’r rhan fwyaf o Iddewon yn credu fod popeth y mae Duw’n ei wneud er daioni. O safbwynt dynol, gall rhai gweithredoedd ymddangos yn ddrwg, ond maen nhw’n ymddiried bod beth bynnag sy’n digwydd ar y Ddaear yn cyd-fynd â chynllun Duw, sy’n dda yn y pen draw.
Mae sawl ymateb Iddewig i broblem drygioni a dioddefaint.
- Mae’r TenakhY casgliad o 24 llyfr y Beibl Iddewig. Ceir tair adran: Torah, Nevi'im a Ketuvim (TeNaKh). yn dysgu y gall dioddefaint fod yn gosb am bechodau.
- Mae’r Tenakh yn dysgu y gall dioddefaint fod yn rhan o brawf gan Dduw ar ffydd rhywun er mwyn gweld a wnaiff ddilyn gorchymynCyfraith neu gyfarwyddyd gan Dduw. Duw o’i wirfodd. O basio’r prawf caiff ei wobrwyo yn y bywyd hwn neu wedi marwolaeth.
- Mae Iddewon yn credu y gall dioddefaint ddod â phobl yn agosach at Dduw. Mewn adegau trallodus bydd llawer o bobl yn troi at grefydd am gysur a chefnogaeth.
- Mae rhai Iddewon yn credu bod dioddefaint yn helpu pobl i deimlo empathiYmwybyddiaeth a dealltwriaeth o deimladau, sefyllfa neu gymhellion person arall. ag eraill a’u helpu pan fo angen.
- All bodau dynol ddim deall dioddefaint; mae hyn yn arbennig o berthnasol i’r dioddefaint yr aeth yr Iddewon drwyddo yn ystod yr HolocostLlofruddiaeth 6 miliwn o Iddewon a miliynau o leiafrifoedd eraill gan y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. neu ShoahY gair Hebraeg am yr Holocost.. Ond mae Iddewon yn credu bod rhaid iddyn nhw wneud popeth a allant i oresgyn a lliniaru dioddefaint.