Dilysu a gwireddu dataGwireddu

Mae dilysu a gwireddu yn ddwy ffordd o wneud yn siŵr bod y data sy’n cael eu mewnbynnu i gyfrifiadur yn gywir. Nid oes llawer o werth i ddata sy’n cael eu mewnbynnu’n anghywir.

Part ofTGChData ac ansawdd data

Gwireddu

Mae dau brif ddull o wireddu:

  1. Mewnbynnu ddwywaith - mewnbynnu’r data ddwywaith a chymharu’r ddau gopi. Mae hyn mewn gwirionedd yn dyblu’r llwyth gwaith, a gan fod y rhan fwyaf o bobl yn cael eu talu fesul awr, mae’n costio mwy hefyd.
  2. Prawfddarllen data - mae’r dull hwn yn golygu bod rhywun yn gwirio’r data sydd wedi cael eu mewnbynnu drwy eu cymharu â’r ddogfen wreiddiol. Mae hyn hefyd yn cymryd amser ac mae’n gostus.

More guides on this topic