Pwerau ac israddauPwerau – defnyddio cyfrifiannell

Dangosir pwerau sgwario, ciwbio ac uwch gan ddigidau bach a elwir yn indecsau. Y gwrthwyneb i sgwario rhif ydy canfod yr ail isradd, a’r gwrthwyneb i giwbio ydy canfod y trydydd isradd.

Part ofMathemategPwerau ac israddau

Pwerau – defnyddio cyfrifiannell

Mae gan bob cyfrifiannell wyddonol fotwm ‘pŵer’. Mae hwn fel arfer wedi ei labelu \([{x}^{y}]\). Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol pan mae’r rhif indecs yn fawr.

Enghraifft

I ganfod beth ydy \({4}^{10}\):

Gwasga \({4}\)

Gwasga’r botwm \({x}^{y}\)

Gwasga \({10}\)

Gwasga \({=}\)

Dylet ti gael yr ateb \({1,048,576}\).

Question

Defnyddia dy gyfrifiannell i ganfod gwerth y canlynol:

a) \({2}^{11}\)

b) \({5}^{8}\)

c) \({2}^{6}\times{3}^{5}\)