Rhifau positif a negatifBeth ydy rhifau positif a negatif?

Gelwir rhifau o dan sero yn rhifau negatif. Gelwir rhifau uwchben sero’n rhifau cyfan. Mae rheolau y gelli di eu defnyddio wrth adio, tynnu, lluosi neu rannu rhifau positif a negatif.

Part ofMathemategRhifau positif a negatif

Beth ydy rhifau positif a negatif?

Llinell rif yn dangos rhifau negatif a phositif

Mae unrhyw rif uwchben sero yn rhif positif. Mae rhifau positif yn cael eu hysgrifennu heb arwydd neu ag arwydd \(+\) o’u blaen ac maen nhw'n cael eu cyfrif o sero i’r dde.

Mae unrhyw rif o dan sero yn rhif negatif. Mae rhifau negatif yn cael eu hysgrifennu bob amser ag arwydd \(-\) o’u blaen ac maen nhw'n cael eu cyfrif o sero i’r chwith.

Cofia edrych ar yr arwydd o flaen rhif i weld a ydy e'n bositif neu'n negatif.

Question

Pa air, ‘mwy’ ynteu ‘llai’, fyddai’n gywir yn y bylchau hyn?

a) Mae \({-7}\) yn ............... na \({-1}\).

b) Mae \({+62}\) yn ............... na \({-71}\).

c) Mae \({-136}\) yn ............... na \({-36}\).