Arddodiaid sy'n achosi treigladau meddal
Cofia fod treiglad meddal yn dilyn yr arddodiaid hyn:
- am, ar, at, gan, dros, drwy, wrth, dan, heb, hyd, i, o
Dyma enghreifftiau o frawddegau sydd â mwy nag un treiglad meddal ynddynt:
- Es i i'r gwely am ddeg o'r gloch neithiwr gan obeithio cael noson o gwsg.
- Dw i ar bigau'r drain i wybod canlyniad yr arholiad.
- Danfonais i ebost at gyfaill yn sôn am lyfr gwych.
Mae treiglad meddal hefyd yn dilyn 'ei' gwrywaidd. Er enghraifft: Cafodd y dyn ei gyhuddo ar gam.
Ond treiglad llaes sy'n dilyn 'ei' benywaidd: Cafodd y wraig ei chyhuddo ar gam.
Cofia hefyd fod gair benywaidd, ee 'cath' yn treiglo'n feddal ar ôl y fannod 'y':
- y gath
- yr ardd
- y faneg
- y fenyw
- y ddafad
Ond nid yw ll a rh yn treiglo'n feddal ar ôl y fannod mewn enw benywaidd unigol, ee 'y llyfrgell', 'y rhaw'.
Ac nid yw gair gwrywaidd, ee 'ci' yn treiglo'n feddal ar ôl y fannod 'y': y ci, y dyn, y mwnci, y bwrdd.
Cofia nad yw geiriau lluosog yn treiglo ar ôl y fannod 'y' chwaith: y cariadon, y papurau, y gwragedd.
Question
Cywira'r gwallau yn y rhestr isod.
| Anghywir | Cywir |
| Y gardd | |
| Y menyw | |
| Y ddyn | |
| Y lyfr | |
| Y gi | |
| Y draenen | |
| Y fwrdd | |
| Y gwraig | |
| Y goed | |
| Y gadeiriau |
| Anghywir | Y gardd |
|---|---|
| Cywir |
| Anghywir | Y menyw |
|---|---|
| Cywir |
| Anghywir | Y ddyn |
|---|---|
| Cywir |
| Anghywir | Y lyfr |
|---|---|
| Cywir |
| Anghywir | Y gi |
|---|---|
| Cywir |
| Anghywir | Y draenen |
|---|---|
| Cywir |
| Anghywir | Y fwrdd |
|---|---|
| Cywir |
| Anghywir | Y gwraig |
|---|---|
| Cywir |
| Anghywir | Y goed |
|---|---|
| Cywir |
| Anghywir | Y gadeiriau |
|---|---|
| Cywir |
| Anghywir | Cywir |
| Y gardd | Yr ardd |
| Y menyw | Y fenyw |
| Y ddyn | Y dyn |
| Y lyfr | Y llyfr |
| Y gi | Y ci |
| Y draenen | Y ddraenen |
| Y fwrdd | Y bwrdd |
| Y gwraig | Y wraig |
| Y goed | Y coed |
| Y gadeiriau | Y cadeiriau |
| Anghywir | Y gardd |
|---|---|
| Cywir | Yr ardd |
| Anghywir | Y menyw |
|---|---|
| Cywir | Y fenyw |
| Anghywir | Y ddyn |
|---|---|
| Cywir | Y dyn |
| Anghywir | Y lyfr |
|---|---|
| Cywir | Y llyfr |
| Anghywir | Y gi |
|---|---|
| Cywir | Y ci |
| Anghywir | Y draenen |
|---|---|
| Cywir | Y ddraenen |
| Anghywir | Y fwrdd |
|---|---|
| Cywir | Y bwrdd |
| Anghywir | Y gwraig |
|---|---|
| Cywir | Y wraig |
| Anghywir | Y goed |
|---|---|
| Cywir | Y coed |
| Anghywir | Y gadeiriau |
|---|---|
| Cywir | Y cadeiriau |