PerswâdLlythyr

Yn y canllaw hwn mae enghreifftiau o ffurfiau sydd yn perswadio. Mae’r canllaw yn nodi beth yw pwrpas y mathau yma o destunau ac yn nodi beth sydd yn angenrheidiol o ran iaith ac arddull.

Part ofCymraegYsgrifennu

Llythyr

Pwrpas llythyr yw rhannu gwybodaeth gyda rhywun arall. Galli di gael llythyrau ffurfiol ac anffurfiol. Wrth fynegi barn gan amlaf mae angen llythyr ffurfiol.

Iaith ac arddull

  • Rhaid gosod cyfeiriad personol a chyfeiriad y person sydd yn derbyn y llythyr.
  • Rhaid dechrau’r llythyr gyda chyfarchiad.
  • Rhaid nodi pam rwyt ti’n ysgrifennu ar ddechrau’r llythyr.
  • Rhaid cynnwys paragraffau i roi trefn ar y gwaith.
  • Rhaid defnyddio iaith ffurfiol.
  • Rhaid defnyddio’r ail berson lluosog – chi/eich.
  • Rhaid ysgrifennu yn yr amser gorffennol i nodi beth sydd wedi digwydd ac yn y dyfodol i nodi beth hoffet ti ei weld yn digwydd.
  • Rhaid defnyddio arddull mynegi barn, ee berfau gorchmynnol, cwestiynau rhethregol, ailadrodd a rhestru os oes angen.

Enghraifft o ran o lythyr yn mynegi barn

Ysgrifennaf atoch i gyhoeddi fy nicter tuag at gynlluniau i foddi Cwm Celyn. Ar ôl cysylltu gydag aelodau o gymuned Capel Celyn, mae’n amlwg fod y rhan helaeth yn cytuno bod hyn yn warthus. Hoffwn gynrychioli barn pobl y cwm a barn eraill ledled Cymru yn y llythyr hwn.

Yn gyntaf, hoffwn sôn am y cenedlaethau a’r teuluoedd sydd wedi adeiladu pentref, neu’n hytrach, cymuned ers canrifoedd. Heb Cwm Celyn, does dim cartrefi, dim bywoliaeth a dim swyddi gan gymdogion y cwm. Petaech chi’n boddi’r cwm, byddech chi hefyd yn boddi cenedlaethau o fywydau. Dychmygwch eich teulu chi yn gorfod gadael eu pentref a’u holl atgofion! Fyddech chi’n eistodd nôl a gadael i’r fath beth ddigwydd?

Question

Noda ble mae enghreifftiau o’r nodweddion arddull canlynol:

  • berfau gorchmynnol
  • cyfarch y darllenydd
  • cwestiynau rhethregol
  • ailadrodd/rhestru