Newidiadau egni mewn adweithiau cemegol Newidiadau egni

Gallwn ni weld y newidiadau egni sy'n digwydd yn ystod adwaith cemegol drwy archwilio'r newidiadau i'r bondio cemegol. Gallwn ni ddefnyddio hyn i ddosbarthu adweithiau fel rhai ecsothermig neu endothermig.

Part ofCemegAdweithiau cemegol ac egni

Newidiadau egni

Torri a ffurfio bondiau

Yn ystod adwaith cemegol:

  • mae bondiau yn yr yn cael eu torri
  • mae bondiau newydd yn cael eu ffurfio yn y

Mae egni’n cael ei amsugno i dorri bondiau. Mae torri bondiau yn broses endothermig.

Mae egni’n cael ei ryddhau wrth i fondiau newydd ffurfio. Mae gwneud bondiau yn broses ecsothermig.

Mae a yw adwaith yn endothermig neu’n ecsothermig yn dibynnu ar y gwahaniaeth rhwng yr egni sydd ei angen i dorri bondiau a’r egni sy’n cael ei ryddhau wrth ffurfio bondiau newydd.

Diagramau egni

Mae diagramau egni’n dangos lefel egni’r adweithyddion a’r cynhyrchion. Y mwyaf yw’r gwahaniaeth rhwng egni’r adweithyddion ac egni’r cynhyrchion, y mwyaf o egni sy’n cael ei ryddhau neu ei dderbyn. Mae’n hawdd gweld o ddiagram lefel egni ydy’r adwaith yn ecsothermig neu’n endothermig:

  • mewn adweithiau ecsothermig, mae’r adweithyddion yn uwch na’r cynhyrchion
  • mewn adweithiau endothermig, mae’r adweithyddion yn is na’r cynhyrchion

Mewn adwaith ecsothermig, mae egni’r cynhyrchion yn is na’r adweithyddion. Y gwahaniaeth rhwng egni’r adweithyddion ac egni’r cynhyrchion yw newid enthalpi (∆H) yr adwaith. Mewn unrhyw adwaith ecsothermig, mae’r newid enthalpi’n negatif.

Graff egni yn erbyn llwybr yr adwaith. Y llinell lorweddol yw egni'r adweithyddion. Mae'n mynd i lawr yn fertigol wrth i egni gael ei ryddhau. Mae'r llinell is yn cynrychioli egni'r cynhyrchion.
Figure caption,
Diagram lefelau egni ar gyfer adwaith ecsothermig

Mewn adwaith endothermig, mae egni’r cynhyrchion yn uwch na’r adweithyddion. Mae hyn yn golygu bod newid enthalpi (∆H) yr adwaith yn bositif.

Graff egni yn erbyn llwybr yr adwaith. Y llinell lorweddol yw egni'r adweithyddion. Mae'n mynd i fyny'n fertigol wrth i egni gael ei amsugno. Mae'r llinell uwch yn cynrychioli egni'r cynhyrchion.
Figure caption,
Diagram lefelau egni ar gyfer adwaith endothermig

Egni actifadu

Yr egni actifadu yw isafswm yr egni sydd ei angen er mwyn i adwaith ddigwydd.

Gallwn ni gynrychioli hyn ar y proffil egni fel ‘crib’. Mae hwn yn dangos faint o egni sydd ei angen er mwyn i’r adweithyddion adweithio a throi’n gynhyrchion.

Mae egni actifadu adwaith ecsothermig ac adwaith endothermig wedi’i ddangos isod:

Graff adwaith ecsothermig, yn dangos egni yn erbyn llwybr yr adwaith.
Figure caption,
Adwaith ecsothermig
Graff adwaith endothermig, yn dangos egni yn erbyn llwybr yr adwaith.
Figure caption,
Adwaith endothermig