CaledweddDyfeisiau mewnbynnu ac allbynnu

Mae dyfais fewnbynnu yn anfon gwybodaeth i gyfrifiadur i gael ei phrosesu. Mae dyfais allbynnu yn derbyn gwybodaeth o gyfrifiadur er mwyn ei chyflwyno.

Part ofTGChAmlgyfrwng

Dyfeisiau mewnbynnu ac allbynnu

Mae dyfeisiau mewnbynnu, er enghraifft bysellfwrdd, yn caniatáu i ni roi data crai mewn cyfrifiadur. Mae’r cyfrifiadur yn prosesu’r data ac yn cynhyrchu allbynnau. Gall dyfeisiau mewnbynnu fod yn ddyfeisiau llaw neu’n ddyfeisiau awtomatig.

Dyfeisiau mewnbynnu â llaw

Y dyfeisiau mwyaf cyffredin ar gyfer mewnbynnu â llaw yw’r bysellfwrdd a’r llygoden. Mae dyfeisiau mewnbynnu â llaw eraill yn cynnwys:

Pelen lwybro

Mae pelen lwybro’n cael ei defnyddio fel dewis arall yn lle llygoden. Mae’r defnyddiwr yn cylchdroi’r belen ac mae hynny’n symud y pwyntydd ar sgrin. Mae’n hawdd iawn i’w defnyddio, hyd yn oed gan rywun sydd ddim yn gallu symud ei ddwylo’n dda. Yn aml iawn mae’n cael ei defnyddio ar gyfer Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) oherwydd ei bod yn fwy manwl gywir na llygoden.

Microffon

Mae microffonau’n cael eu defnyddio i fewnbynnu sain. Ym maes cyfrifiadureg mae’n bosibl eu defnyddio gyda adnabod llais a brosesu geiriau er mwyn mewnbynnu testun. Fel arfer mae gwe-gamerâu yn cynnwys microffonau hefyd.

Sgrin gyffwrdd

Mewn uned arddangos weledol (VDU), neu sgrin sensitif i gyffyrddiad, mae grid o baladrau golau neu wifrau main yn croesi’r sgrin. Mae’r rhain yn cael eu defnyddio i synhwyro cyffyrddiad. Mae llawer o ffonau symudol yn defnyddio sgriniau cyffwrdd ac yn cael gwared ar y bysellbad yn gyfan gwbl. Maen nhw’n cael eu defnyddio’n aml ar beiriannau arian parod a hefyd mewn canolfannau siopa. Mae sgriniau cyffwrdd yn gryf, yn hawdd i’w defnyddio ac yn hawdd i’w hailraglennu. Mae sgrin gyffwrdd yn ddyfais allbynnu hefyd.

Digidydd fideo

Mae digidydd fideo yn cymryd delwedd o gamera fideo neu set deledu ac yn ei digido fel bod modd iddi gael ei darllen gan gyfrifiadur a’i storio ar gyfrifiadur. Mae dilyniannau fideo sy’n cael eu dal gan ddefnyddio digidydd fideo yn cael eu defnyddio’n aml mewn .

Tabled graffeg

Mae tabled graffeg yn cynnwys pad fflat (y tabled). Mae’r defnyddiwr yn tynnu llun ar y pad gan ddefnyddio pen arbennig. Wrth i’r defnyddiwr dynnu llun ar y pad mae’r ddelwedd yn cael ei chreu ar y sgrin. Drwy ddefnyddio tabled graffeg gall dylunydd gynhyrchu lluniadau trachywir ar sgrin fel pe baen nhw’n cael eu lluniadu ar bapur.