Graffiau llinell sythPlotio y = ax + b gan ddefnyddio tablau

Edrychwn ar graffiau llinell syth a sut i’w plotio neu eu dehongli fel hafaliadau’n defnyddio x ac y. Gallai darllen y canllawiau ar hafaliadau a chyfesurynnau yn gyntaf fod yn fuddiol.

Part ofMathemategGraffiau

Plotio y = ax + b gan ddefnyddio tablau

I blotio graff, mae angen i ti ganfod cyfesurynnau sy’n bodloni hafaliad y graff.

Enghraifft

Plotia graff \({y} = {2x} + {1}\).

Mae angen dewis gwerthoedd ar gyfer \({x}\) a gweld pa werthoedd y maen nhw’n eu rhoi.

Pan mae \({x} = -{2}\)

\({y} = ({2}\times{-2}) + {1} = -{3}\)

Pan mae \({x} = {0}\)

\({y} = ({2}\times{0}) + {1} = {1}\)

Pan mae \({x} = {2}\)

\({y} = ({2}\times{2}) + {1} = {5}\)

Gelli di ddangos hyn mewn tabl:

Tabl yn dangos gwerthoedd ar gyfer x, a pa werthoedd y maen nhw’n eu rhoi

Nawr gelli di blotio’r pwyntiau hyn a’u cysylltu i roi graff \({y} = {2x} + {1}\).

More guides on this topic