EsbonioFfeithlun

Yn y canllaw hwn mae enghreifftiau o ffurfiau sydd yn esbonio. Mae’r canllaw yn nodi beth yw pwrpas y mathau yma o destunau ac yn nodi beth sydd yn angenrheidiol o ran iaith ac arddull.

Part ofCymraegYsgrifennu

Ffeithlun

Beth yw ffeithlun?

Yn syml, poster sy’n cyflwyno gwybodaeth yw ffeithlun, ond mae’r defnydd o luniau yn bwysig tu hwnt. Mae’n cyflwyno gwybodaeth mewn modd lle nad oes eisiau darllen llawer o wybodaeth.Y nod yw bod cyfuniad o luniau a gwybodaeth yn dy addysgu am bwnc yn gyflym.

Enghraifft o ffeithlun

Delwedd o glawr bocs pizza, gydag inffograffeg yn cyflwyno gwybodaeth bytiog am gynnwys y bocs.

Iaith ac arddull

  • Sicrha dy fod yn gryno.
  • Defnyddia luniau.
  • Llunia graffiau.
  • Defnyddia liwiau addas.
  • Cofia strwythuro’r daflen yn ofalus.
  • Defnyddia deitl bachog.
  • Bydd angen is-deitl.
  • Bydd angen i ti ddefnyddio berfau byrlymus ac addas.
  • Defnyddia iaith ffeithiol.
  • Defnyddia ystadegau/ffeithiau/canrannau.