Idiomau Cymraeg ochr yn ochr ag idiomau Saesneg
| Cymraeg | Saesneg |
| Ail-law | Second hand |
| Ar ei ben ei hun | On his own |
| Arllwys y glaw | Pouring down |
| Ar ei golled | Losing out |
| Crynu yn ei esgidiau | Shaking in his boots |
| Dim hanner call | Not all there |
| Cymraeg | Ail-law |
|---|---|
| Saesneg | Second hand |
| Cymraeg | Ar ei ben ei hun |
|---|---|
| Saesneg | On his own |
| Cymraeg | Arllwys y glaw |
|---|---|
| Saesneg | Pouring down |
| Cymraeg | Ar ei golled |
|---|---|
| Saesneg | Losing out |
| Cymraeg | Crynu yn ei esgidiau |
|---|---|
| Saesneg | Shaking in his boots |
| Cymraeg | Dim hanner call |
|---|---|
| Saesneg | Not all there |
Ymarfer
Question
Sut gellir gwella'r brawddegau canlynol? Noda'r defnydd anghywir o idiomau neu gystrawennau Saesneg.
- Mae chwaer Ffion yn llawer mwy da na hi am nofio.
- Bwytaodd Elliw mor gymaint o fwyd nes ei bod hi'n teimlo'n sâl.
- Roedd Huw yn llawn nerfau wrth aros am ganlyniad y prawf gyrru.
- Mae'r Wyddfa yn fwy uchel na mynydd uchaf Lloegr.
- Mae gan Twm gar mwy mawr na char Jac.
- Roedd Llio wedi llwyddo i blygu'r papur yn lleiach ac yn lleiach.
- Mae Pobol y Cwm yn mwy gwell nag EastEnders.
- Mae Angharad wedi sortio allan y broblem.
- Mae chwaer Ffion yn llawer gwell na hi am nofio.
- Bwytaodd Elliw gymaint o fwyd nes ei bod hi'n teimlo'n sâl.
- Roedd Huw ar bigau'r drain wrth aros am ganlyniad y prawf gyrru.
- Mae'r Wyddfa yn uwch na mynydd uchaf Lloegr.
- Mae gan Twm gar mwy na char Jac.
- Roedd Llio wedi llwyddo i blygu'r papur yn llai ac yn llai.
- Mae Pobol y Cwm yn well nag EastEnders.
- Mae Angharad wedi datrys y broblem.