
Cyflwyniad
Mae’n anodd dychmygu bod un o ysglyfaethwyr mwyaf y môr heb esgyll na dannedd miniog fel rasel. Prif ysglyfaethwr y moroedd yw ni, yr hil ddynol (human race).
Drwy’r byd i gyd, rydyn ni mor effeithiol wrth bysgota erbyn hyn fel ein bod wedi achosi dirywiad enfawr, neu ostyngiad, ym mhoblogaethau bywyd gwyllt y môr. Sut mae pysgota wedi newid a sut mae hyn yn effeithio ar y gadwyn fwyd?

Mae nifer y cimychiaid (lobsters) a physgod yn ein moroedd, yn ogystal â bywyd morol arall, yn gostwng. Sut mae hyn yn digwydd?
Beth yw gorbysgota
Mae’r lleihad yn nifer y bywyd morol yn cael ei achosi gan orbysgota. Mae hyn yn golygu ein bod yn cymryd gormod o bysgod, cimychiaid a bywyd morol o’r môr. Rydyn ni'n dal cymaint o un rhywogaeth (species) fel nad yw’r rhywogaeth honno yn gallu cael ei chefn ati a dod yn ôl i’r niferoedd arferol. Mae hyn wedi gostwng niferoedd rhai rhywogaethau nes eu bod yn isel iawn, a byddai hyn hyd yn oed yn gallu arwain at farwolaeth rhywogaethau eraill.
Mae pysgota wedi newid
Mae llawer o wyddonwyr yn dweud mai’r broblem yw ein bod ni'n rhy dda yn pysgota erbyn hyn. Mae’r diwydiant pysgota modern yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf fel radar, hofrenyddion chwilio (helicopter spotters), awyrennau a chychod pysgota enfawr i gynyddu eu dalfaMae’n cyfeirio at faint o bysgod sy’n cael eu dal., sef faint o bysgod maen nhw’n eu dal. Mae rhwydi anferth, sy’n aml mor fawr â chaeau pêl-droed, weithiau’n cael eu defnyddio i godi popeth ar eu llwybr.

Mae’r dechnoleg hon yn galluogi cwmnïau mawr i bysgota ar fwy o ddyfnder ac mewn ardaloedd sy’n cynefinRhywle lle mae anifeiliaid neu blanhigion yn byw. i amrywiaeth eang o bysgod a bywyd morol.
Pysgota cimychiaid

Mae llawer o bysgotwyr yn cymryd eu camau eu hunain i warchod yr amgylchedd morol sydd mor bwysig iddynt. Mae niferoedd y cimychiaid yn gostwng yng Nghymru ac felly mae grŵp o bysgotwyr cimychiaid wedi ffurfio Clwstwr Bwyd Môr Cymru. Maen nhw wedi cytuno i ddilyn rhai rheolau syml i amddiffyn y boblogaeth cimychiaid oddi ar arfordir Cymru.
- Maen nhw wedi cytuno mai dim ond cimychiaid hŷn, mwy o faint, nad ydynt yn cario wyau y byddan nhw'n eu dal.
- Bydd unrhyw gimychiaid llai, nad ydynt wedi tyfu’n llawn eto, neu unrhyw gimychiaid sy’n cario wyau yn cael eu dychwelyd i’r môr lle maen nhw'n gallu parhau i fridio a dodwy wyau.
Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu’r boblogaeth cimychiaid i wella.

Mae rhai pysgotwyr hefyd yn defnyddio cewyll (cages) cimychiaid sydd wedi’u haddasu’n arbennig i adael i gimychiaid bach, iau, ddianc. Mae tyllau mwy wedi cael eu creu yn y cewyll fel bod cimychiaid sydd o dan bump oed yn gallu nofio oddi yno.

Fideo: Dyfodol poblogaeth cimwch Cymru
Dysga sut mae’r ‘potiwr’ Brett Garner yn diogelu cimychiaid Cymru ar gyfer y dyfodol.
Sut mae gorbysgota yn effeithio ar y gadwyn fwyd?
Mae cadwyn fwyd yn dangos sut mae planhigion ac anifeiliaid yn cael eu hegni.
- Mae cadwyn fwyd bob amser yn dechrau gyda chynhyrchydd. Organeb yw hon sy’n gwneud ei bwyd ei hun.
- Mae rhywbeth byw sy’n bwyta planhigion ac anifeiliaid eraill yn cael ei alw’n ysydd.
- Mae ysglyfaethwr yn anifail sy’n bwyta anifeiliaid eraill. Yr enw ar yr anifeiliaid y mae ysglyfaethwyr yn eu bwyta yw ysglyfaeth.

Image caption, Ffytoplancton
Y ffytoplancton, organebau bychain microsgopig sy’n darparu’r sylfaen ar gyfer y gadwyn fwyd forol gyfan, yw’r cynhyrchydd. Mae’n cael ei egni o’r Haul.

Image caption, Cramennog (cranc)
Y cranc yw’r ysydd. Mae’n bwyta’r ffytoplancton.

Image caption, Eog
Mae eog yn ysydd. Mae’n bwyta cramenogion, pryfed a physgod bach.

Image caption, Morlo
Ar ben y gadwyn fwyd mae’r ysglyfaethwr. Mae morloi’n ysglyfaethu ar bysgod mawr fel eogiaid.
1 of 4
Os byddwn yn tarfu ar y gadwyn fwyd hon drwy orbysgota, mae pysgod mwy a mamaliaid y môr yn teimlo’r effaith yn ogystal â’r pysgod a’r cramennogAnifail sydd â chragen galed, gymalog. Mae llawer math o gramenogion, gan gynnwys crancod, cimwch yr afon, cimychiaid a berdys. rydyn ni’n eu dal.
Pan fyddwn yn cymryd pysgod o’r môr, mae angen i ni ofalu nad ydyn ni'n cymryd gormod. Drwy leihau faint o bysgod rydyn ni’n eu dal, rydyn ni'n gallu rhoi’r cyfle sydd ei angen ar boblogaethau pysgod a bywyd y môr i wella.
Beth allwn ni ei wneud?
Mae llawer o lywodraethau wedi gosod terfynau i warchod poblogaethau pysgod a bywyd morol. Maen nhw’n rheoli sut, pryd a faint o bysgod sy'n gallu cael eu dal.
Hefyd rydyn ni'n gallu penodi ardaloedd arbennig i’w diogelu a’u hadfer. Mae'r rhain yn cael eu galw'n warchodfeydd morol.
Fel defnyddiwrRhywun sy’n archebu, neu’n defnyddio nwyddau, cynhyrchion neu wasanaethau at ddefnydd personol yn bennaf. neu siopwyr, rydyn ni'n gallu cefnogi dulliau pysgota cynaliadwy drwy chwilio am gynhyrchion sydd wedi eu cymeradwyo gan y Cyngor Stiwardiaeth Forol (Marine Stewardship Council). Mae’r labeli hyn yn dangos bod y cynhyrchion hynny wedi cael eu dal yn gynaliadwy, mewn ffordd nad yw’n niweidio bywyd morol.
Y newyddion da
Y newyddion da yw bod gwneud y newidiadau cadarnhaol hyn yn gweithio. Mae gwyddonwyr wedi profi bod cymryd camau i leihau gorbysgota a gwarchod bywyd y moroedd yn cael effaith gadarnhaol ar boblogaeth ein moroedd. Drwy bysgota’n gynaliadwy, rydyn ni’n sicrhau dyfodol ein moroedd a hefyd yn gwneud yn siŵr bod digon o fywyd morol ar gyfer y dyfodol.
Cwis: Ydy pysgota cimychiaid yn gallu bod yn gynaliadwy?

Ble nesaf?
Sut allwn ni dynnu plastig o'r môr?
Mae tunelli o wastraff plastig yn mynd i’r moroedd bob blwyddyn. Be allwn ni ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem?

All morwellt arafu newid hinsawdd?
Oeddet ti'n gwybod bod morwellt yn cael ei alw'n "ysgyfaint y môr"?

Cynaliadwyedd 8-11 oed
Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed

More on Bwyd
Find out more by working through a topic