Cofnodion

Part ofLearn & revise

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Un fideo yn esbonio beth yw pwrpas cofnodion
  • Un cyflwyniad yn egluro sut i ysgrifennu cofnodion
  • Dau weithgaredd yn canolbwyntio ar ferfau amhersonol
  • Un gweithgaredd i ymarfer ysgrifennu cofnodion cyfarfod dychmygol

Lesson content

  • One video explaining the purpose of writing minutes
  • One introduction setting out how to write minutes
  • Two activities focusing on impersonal verbs
  • One activity to practise writing minutes for an imaginary meeting
Llinell / Line

Fideo / Video

Gwylia'r fideo i ddeall beth yw pwrpas cofnodion.

Llinell / Line

Iaith ac arddull cofnodion

Wrth ysgrifennu cofnodion, cofia wneud y canlynol:

  • defnyddio iaith ffurfiol, uniongyrchol
  • nodi prif benderfyniadau’r cyfarfod
  • ysgrifennu yn y gorffennol
  • defnyddio berfau amhersonol
  • nodi’r ffeithiau yn unig - does dim angen mynegi barn
  • ateb y cwestiynau canlynol:
    • pwy?
    • pryd?
    • ble?
    • sawl?
    • pam?
  • rhifo pob ffaith

Berfau amhersonol

Mae berfau amhersonol yn cael eu defnyddio mewn sefyllfa ffurfiol pan nad ydym yn siŵr pwy sy’n gweithredu’r ferf.

Dyma’r terfyniadau amhersonol:

  • -ir​ (presennol) - darllenir, cofnodir, cytunir
  • -wyd​ (gorffennol​​​) - darllenwyd, cofnodwyd, cytunwyd
  • -er​ (gorchmynnol) - sylwer, gweler, pryner
  • -id​ (amherffaith a’r amhenodol)​ - edrychid, prynid, clywid

Gan amlaf, defnyddiwn ferfau amhersonol y gorffennol a’r presennol mewn cofnodion.

Dyma ferf amhersonol y presennol:

  • Darllenir y ddogfen - hynny yw, mae rhywun yn darllen y ddogfen ond nid ydym yn gwybod pwy.

Dyma ferf amhersonol y gorffennol.

  • Darllenwyd y ddogfen - hynny yw, roedd rhywun wedi darllen y ddogfen.

Mae’r enw’r gweithredwr yn cael ei nodi gan ddefnyddio gan, ee:

  • Darllenir y ddogfen gan y cadeirydd.
  • Cynigwyd cais cynllunio newydd gan Mr Jones.
Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Rho dro ar newid y berfenwau canlynol yn ferfau gorffennol amhersonol.

  • rhannu
  • cytuno
  • darllen
  • adrodd
  • pleidleisio

Clicia neu bwysa yma i weld beth yw ffurfiau gorffennol amhersonol y berfenwau uchod

Llinell / Line

Gweithgaredd / Activity 2

Dyma enghraifft o gofnodion cyfarfod.

Chwilia am enghreifftiau o ffurfiau amhersonol y ferf.

1.1 Ethol swyddogion newydd

Etholwyd Guto Jones yn Gadeirydd. Cynigwyd ei enw gan Kevin Hughes. Diolchodd Guto am yr anrhydedd a nododd ei fod yn addo rhoi o’i orau yn ystod y flwyddyn.

Yn yr un modd, ailetholwyd Iona Parry yn ysgrifenyddes. Derbyniodd y swydd gan ddiolch i bawb am eu cymorth yn ystod y flwyddyn.

1.2 Capten

Diolchwyd i Martin Smith am ei holl waith, ac etholwyd Dorian Pugh yn gapten am y flwyddyn nesaf. Derbyniodd y swydd.

Ni dderbyniwyd enwau eraill ar gyfer y swyddi uchod.

Clicia neu bwysa yma i weld ble mae'r ffurfiau amhersonol

Llinell / Line

Gweithgaredd 3 / Activity 3

Dychmyga dy fod yn gweithio i gadeirydd clwb pêl-droed. Dy waith di yw ysgrifennu cofnodion y cyfarfod sy'n trafod pwy fydd yn cael eu prynu a’u gwerthu yn y ‘ffenest drosglwyddo’ (transfer window) nesaf.

NEU

Dychmyga dy fod ar y pwyllgor sy’n trefnu parti diwedd tymor yr ysgol. Dy waith di yw ysgrifennu cofnodion y cyfarfod olaf cyn y parti.

Geirfa ddefnyddiol:

  • cyfarfod/cyfarfodydd
  • cynhadledd/cynadleddau
  • aelod/aelodau
  • cyfrinachol
  • cynnig (berf)
  • gwrthwynebu
  • cynnig/cynigion
  • penderfyniad/penderfyniadau
  • consensws
  • mater/materion
  • dyddiad cau
  • cytuno
  • anghytuno
Llinell / Line

Nodiadau i rieni

Ar ôl gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:

  • adnabod a deall yn hyderus beth yw cofnodion cyfarfod a beth yw pwrpas cofnodion
  • gwybod sut i fynd ati i ysgrifennu cofnodion, gan ddefnyddio iaith ffurfiol - yn bennaf berfau amhersonol

Notes for parents

After completing the lesson, students will be able to:

  • confidently recognise and understand what minutes taken in meetings are and what purpose they serve
  • write minutes using formal language - in particular impersonal verbs

Hafan BBC Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan BBC Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU