
Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad i ffurf amhersonol y ferf
- Tri gweithgaredd i ymarfer defnyddio'r ffurf amhersonol
Lesson content
- One introduction to the impersonal form of the verb
- Three activities to practise using the impersonal form of the verb

Beth yw ffurf amhersonol y ferf?
Os nad wyt ti eisiau enwi, neu os nad wyt ti angen enwi rhywun yn benodol mewn brawddeg, mae modd cyfleu hyn drwy ddweud:
- Mae'r llyfr yn cael ei ddarllen.
- Cafodd y dyn ei weld.
Ond er mwyn cyfleu yn union yr un ystyr mewn ffordd fwy ffurfiol, gelli di ddefnyddio ffurf amhersonol y ferf.
Sut i ffurfio berf amhersonol
Galli di ddefnyddio ffurf amhersonol y ferf pan nad wyt ti’n gwybod pwy wnaeth y weithred, neu os nad wyt ti eisiau enwi’r person sy'n gwneud y weithred.
Rwyt ti'n ffurfio berf amhersonol, drwy ychwanegu'r terfyniadau hyn at ddiwedd bôn y berfenw:
- __ -ir__ - os wyt ti'n cyfeirio at rywbeth yn yr amser presennol
- -wyd - os wyt ti'n cyfeirio at rywbeth yn yr amser gorffennol
Edrycha ar yr enghreifftiau hyn:
- Mae'r llyfr yn cael ei ddarllen. > Darllenir y llyfr.
Pwy sy'n darllen y llyfr yn y frawddeg hon? Does dim ateb i’r cwestiwn hwn yn y frawddeg, felly’r amhersonol sydd yma.
- Cafodd y dyn ei weld. > Gwelwyd y dyn
Pwy welodd y dyn yn y frawddeg hon? Eto, does dim ateb i’r cwestiwn yma, ac felly mae’r frawddeg yn amhersonol.
Mae'r ffurf amhersonol yn yr amser gorffennol (-wyd) yn tueddu i gael ei defnyddio'n amlach na'r ffurf amhersonol yn yr amser presennol/dyfodol (-ir).
Weithiau, pan wyt ti'n defnyddio'r terfyniad -ir, bydd y llythyren 'a' ym môn y ferf yn troi’n 'e', er enghraifft:
- caru > cerir
- gallu > gellir
- siarad > siaredir
Dydy'r 'a' ddim yn newid yn ffurf amhersonol yr amser gorffennol:
- caru > carwyd
- gallu > gallwyd
- siarad > siaradwyd
Ond mae hyn i'r gwrthwyneb gyda'r berfenw 'geni':
- geni > genir
- geni > ganwyd
Gyda berf fel 'cynnal', mae'r pwyslais yn yn gair yn newid drwy ychwanegu'r terfyniad -ir neu -wyd, felly mae'n rhaid ychwanegu'r llythyren 'h' hefyd. Serch hynny, mae'n dal angen i ti newid 'a' > 'e' yn ffurf amhersonol amser presennol y ferf:
- cynnal > cynhelir
- cynnal > cynhalwyd
Mae hi felly yn bwysig i ddysgu a chofio'r gwahanol ffurfiau.
Dyma enghreifftiau o ffurfiau amhersonol y ferf:
Presennol/dyfodol
| Berfenw | Amhersonol (presennol) | Ystyr | |
|---|---|---|---|
| agor | agorir | mae'n cael ei agor | |
| anfon | anfonir | mae'n cael ei anfon | |
| cyhoeddi | cyhoeddir | mae'n cael ei gyhoeddi | |
| dal | delir | mae'n cael ei ddal | |
| darllen | darllenir | mae'n cael ei ddarllen | |
| galw | gelwir | mae'n cael ei alw | |
| penderfynu | penderfynir | mae'n cael ei benderfynu | |
| prynu | prynir | mae'n cael ei brynu | |
| rhoi | rhoddir | mae'n cael ei roi | |
| sôn | sonnir | mae'n cael ei sôn |
Gorffennol
| Berfenw | Amhersonol (gorffennol) | Ystyr | |
|---|---|---|---|
| agor | agorwyd | cafodd ei agor | |
| anfon | anfonwyd | cafodd ei anfon | |
| cyhoeddi | cyhoeddwyd | cafodd ei gyhoeddi | |
| dal | dalwyd | cafodd ei ddal | |
| darllen | darllenwyd | cafodd ei ddarllen | |
| galw | galwyd | cafodd ei alw | |
| penderfynu | penderfynwyd | cafodd ei benderfynu | |
| prynu | prynwyd | cafodd ei brynu | |
| rhoi | rhoddwyd | cafodd ei roi | |
| sôn | sonwyd | cafodd ei sôn |
Berfau afreolaidd
Cofia fod y berfau 'cael' a 'mynd' yn afreolaidd, felly mae'r ffurfiau amhersonol ychydig yn annisgwyl.
| Berfenw | Amhersonol (presennol) | Amhersonol (gorffennol) | |
|---|---|---|---|
| cael | ceir | cafwyd | |
| mynd | eir | aethpwyd |
Er enghraifft:
- Ceir pump o bobl yn y teulu.
- Aethpwyd â nhw i'r ysbyty ar frys.
Dylet ti geisio dysgu'r ffurfiau ar dy gof.
Defnyddio'r ffurf amhersonol mewn brawddeg
Pan wyt ti'n defnyddio’r ferf amhersonol, cofia na ddylai goddrych fod yn y frawddeg, oherwydd does dim person penodol yn gwneud y weithred yn uniongyrchol. Cofia mai gwrthrych y ferf sy'n ateb 'beth' i'r ferf.
Yn yr enghraifft isod, sy'n defnyddio ffurf amhersonol y berfenw 'gweld', rydym yn gwybod bod ceffyl du yn cael ei weld, ond nid ydym yn gwybod pwy yn union sy'n gwneud y 'gweld'.
gwelir ceffyl du
Ni ddylet ysgrifennu hyn felly:
gwelir Mair geffyl du = X
Dylet ti ddweud:
gwelodd Mair geffyl du
Felly i grynhoi:
- 'gwelodd' yw'r ferf
- 'Mair' yw'r goddrych (sef yr un sy'n gwneud y weithred)
- 'ceffyl' yw'r gwrthrych (sef yr hyn sy'n ateb 'beth' i'r ferf).
Rhaid cofio’r rheol yma pan wyt ti’n defnyddio ffurf amhersonol y ferf ar gyfer unrhyw amser o'r ferf.
Nid yw gwrthrych berf amhersonol yn treiglo.
- Gwelwyd damwain ar y stryd.
- Ysgrifennwyd llyfr gan y fenyw.
- Plannwyd blodau gan yr ysgol.
- Coginiwyd cinio blasus gan fy nhad.
- Gwelwyd drama yn y theatr.
- Cafwyd parti da neithiwr.

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Mae'r brawddegau isod yn un ffordd o sôn am ddigwyddiad heb enwi person penodol.
- Cafodd y babi ei godi o'i wely.
- Mae'r ffilm yn cael ei ddangos heno.
- Cafodd y ci ei glywed yn cyfarth.
- Mae'r gath yn cael ei gweld ar y to bob bore.
Tro'r brawddegau uchod i'r ffurf amhersonol.
Dyma enghraifft wedi’i wneud i ti:
- Cafodd yr esgidiau eu gwerthu am hanner pris. > Gwerthwyd yr esgidiau am hanner pris.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Newida'r berfenwau hyn yn ferfau amhersonol yn y gorffennol.
- cael
- rhoi
- agor
- penderfynu
- cyhoeddi
- mynd

Gweithgaredd 3 / Activity 3
Cywira’r brawddegau canlynol:
- Taflwyd bysgodyn yn ôl i’r afon am ei fod yn rhy fychan.
- Prynwyd dŷ am chwarter miliwn o bunnau.
- Cafwyd Daniel hyd i olion Rhufeinig wrth iddo adeiladu’r archfarchnad.
- Sgoriwyd Cari y gôl a enillodd y gêm yn yr eiliad olaf un.
- Gwelwyd gynnydd mawr yn y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
