
Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad i sut i ysgrifennu adroddiad clir ac effeithiol
- Un animeiddwaith yn crynhoi'r hyn sydd ei angen mewn adroddiad effeithiol
- Tri gweithgaredd i ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer adroddiad ysgrifenedig effeithiol
Lesson content
- One introduction on how to write a clear and effective report
- One animation summarising what makes a good report
- Three activities to practise the skills required for an effective written report

Beth yw adroddiad?
Pwrpas adroddiad yw esbonio rhywbeth sydd wedi digwydd. Yn wahanol i ddyddiadur, nid yw adroddiad fel arfer yn sôn am bethau personol sydd wedi digwydd i ti.
Mae sawl math gwahanol o adroddiad. Mae adroddiad ysgrifenedig yn gallu ymddangos mewn:
- cylchgrawn
- papur newydd
- ar y we
Mae adroddiad da yn cynnwys digon o fanylion, ond eto yn crynhoi’r prif ddigwyddiadau pwysig.
Strwythur adroddiad
Mae cadw at strwythur clir yn ddefnyddiol wrth fynd ati i ysgrifennu adroddiad.
Dyma'r strwythur dylet ti ei ddefnyddio:
- Rhagarweiniad - dyma'r dechrau, felly mae angen cyflwyniad syml sy’n crynhoi'r cynnwys sydd i ddod yn dy adroddiad, ac eglura beth yw dy fwriad.
- Cyflwyno'r prif destun - nesaf, mae angen i ti gyflwyno’r ffeithiau a datblygu dy syniadau yn glir.
- Casgliad cryf - ceisia orffen dy adroddiad gyda chasgliad neu ddiweddglo cryf.
Iaith ac arddull
Arddull
Mae angen arddull arbennig wrth greu adroddiad. Dyma rai pethau i'w hystyried:
Dweud beth sydd wedi digwydd yn syml, yn drefnus ac yn glir.
Mae modd gwneud hyn drwy ateb y cwestiynau canlynol yn dy adroddiad:
- beth?
- pwy?
- ble?
- pryd?
- pam?
Ond hefyd, cofia ystyried 'sut' digwyddodd rhywbeth.
Iaith
Mae angen defnyddio iaith ffurfiol wrth lunio adroddiad.
Dylet ti ysgrifennu’r adroddiad:
- yn y trydydd person, sef defnyddio 'ef'/'hi'/'nhw'
- yn yr amser presennol neu’r amser gorffennol
- gan ddefnyddio berfau amhersonol, ee 'dywedwyd'/'credir'/'honnir'/'sonnir'
- gan atalnodi yn gywir, fel bod yr adroddiad yn glir

Yn olaf, ar ôl cwblhau dy adroddiad, bydd angen i ti feddwl am bennawd trawiadol i ddenu darllenwyr.

Enghraifft
Dyma enghraifft o adroddiad
LLAFUR PLANT A'R DIWYDIANT FFASIWN
Yn 2007 datgelodd The Observer fod plant yn India yn cael eu gorfodi i frodio blowsys merched a oedd yn cael eu gwerthu gan y cwmni dillad GAP. Cyhoeddwyd tystiolaeth fod y plant hyn, a oedd mor ifanc â deg oed, yn cael eu gorfodi i weithio am ddim am hyd at 16 awr y dydd, ac yn cael eu curo â pheipen rwber os oeddent yn cwyno. Mynnodd y cwmni nad oeddent yn ymwybodol o hyn ac aethant ati ar unwaith i wneud yn siŵr nad oedd y blowsys yn cyrraedd y siopau.
H&M a ZARA dan feirniadaeth
Yn 2009 cyhuddwyd H&M a ZARA o werthu dillad a oedd wedi’u gwneud o gotwm a oedd yn cael ei gasglu gan blant. Mae’n debyg fod plant ifanc yn Uzbekistan a Bangladesh yn cael eu gorfodi i weithio am ddim yn casglu cotwm yn y caeau, a bod y cotwm hwn yn cael ei ddefnyddio gan gyflenwyr H&M a ZARA. Gwnaeth H&M ddatganiad fod “llafur plant yn annerbyniol” i’r cwmni, a mynnodd Inditex, y cwmni sy’n berchen ar ZARA, fod eu cod ymddygiad yn gwahardd llafur plant.
[Ffynhonnell: The Guardian]
Dyma'r nodweddion sydd i'w gweld yn yr adroddiad:
- Berfau amhersonol – 'cyhoeddwyd', 'cyhuddwyd'.
- Dyddiadau/amser pendant – 'yn 2007', '16 awr', 'mor ifanc â deg oed', '2009'.
- Dyfynnu gan arbenigwr – “llafur plant yn annerbyniol”.
- Is-deitlau – 'H&M a Zara dan feirniadaeth'.
- Berfau’r gorffennol – 'mynnodd', 'gwnaeth', 'datgelodd'.
- Brawddegau agoriadol defnyddiol.
- Yn ôl llygad-dyst…
- Mae tystiolaeth…
- Dywedodd gohebydd…
- Does dim amheuaeth…

Dylunio adroddiad
Mae'n bosibl denu darllenwyr yn hawdd os wyt ti'n cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd glir, ond mae modd denu pobl hefyd drwy wneud i dy waith edrych yn ddeniadol.
Mae hi felly yn bwysig i ystyried sut bydd dy adroddiad gorffenedig di'n edrych.
Er bod geiriau yn hanfodol ym mhob adroddiad, weithiau dydy geiriau yn unig ddim yn ddigon i greu adroddiad sy'n sefyll allan. Petaet ti'n olygydd cylchgrawn neu wefan, sut fyddet ti’n denu sylw dy ddarllenwyr di? Dyma rai enghreifftiau i ti eu hystyried:
Mae lluniau’n ffordd wych o egluro dy themâu, ond mae'n bwysig sicrhau eu bod yn berthnasol i'r testun rwyt ti wedi ei ysgrifennu. Paid â defnyddio gormod o luniau chwaith - cadwa edrychiad dy adroddiad yn syml.
Mae hyd yn oed modd cyflwyno ffigurau ac ystadegau mewn ffordd ddeniadol, er enghraifft mewn tabl, graff neu siart gylch. Drwy wneud hyn, bydd y wybodaeth yn glir ac yn haws i'r darllenydd ei darllen.
Hefyd, meddylia am ddefnyddio cynnwys o'r cyfryngau cymdeithasol - yn aml bydd pobl yn postio fideos a sylwadau diddorol fydd yn berthnasol i dy adroddiad. Ond gwiria fod y cynnwys yn ddibynadwy - hynny yw, yn gywir ac yn addas - cyn ychwanegu unrhyw fanylion at dy adroddiad.

Fideo / Video
Gwylia'r fideo i ddysgu rhagor am sut i gyflwyno gwybodaeth mewn adroddiad.
Nodiadau ar gyfer rhieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- strwythuro cynnwys adroddiad yn drefnus, yn effeithiol ac yn bwrpasol
- deall bod ymddangosiad adroddiad mor bwysig â’i gynnwys
- defnyddio ac ystyried gwahanol ddulliau a ffyrdd diddorol o gyflwyno gwybodaeth ac ystadegau o fewn adroddiad
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- purposefully structure their report, ensuring the content is presented effectively
- understand that a report's presentation is as important as its content
- use and consider a variety of ways to present facts and figures within their report

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Gan amlaf, bydd adroddiad yn defnyddio’r amser gorffennol, ac felly mae’n bwysig dy fod yn ymarfer defnyddio’r amser hwn.
Newida’r berfenwau o fewn y cromfachau i ferf yn yr amser gorffennol.
- (Defnyddio) ________ y cwmni llwyddiannus 'Lleuad' gronfa elusennol y dref i ariannu ei brosiect newydd.
- (Cwyno) ________ y trigolion am derfynau cyflymder eu strydoedd yn ystod y cyfarfod neithiwr.
- (Ennill) ________ Alun Davies, dyn o Lanelli, filiwn o bunnoedd ar y loteri nos Sadwrn.
- (Cyhoeddi) ________ Ysgol y Fro mai’r hanner tymor olaf i’r pennaeth yw’r tymor yma, am ei fod yn ymddeol yn gynnar.
- (Llwyddo) ________ Lisa Jones, disgybl o Fachynlleth, ennill 12 A* yn ei harholiadau TGAU eleni.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Mae strwythuro dy waith yn hollbwysig, ac fe ddylet ysgrifennu’n drefnus ac yn gronolegol. Ystyr cronolegol yw gosod pethau yn nhrefn amser digwyddodd rhywbeth, ee bore > prynhawn > nos.
Dyma bwyntiau o adroddiad am adeiladu parc beicio o fewn ardal o brydferthwch yn Abertawe. Mae’r pwyntiau wedi’u cymysgu. Trefna’r pwyntiau isod yn gronolegol.
- Cynlluniau a threfniadau ar gyfer adeiladu’r parc beicio wedi’r cytundeb gan y cyngor.
- Yr hyn a ddigwyddodd pan gytunwyd i adeiladu’r parc beicio o fewn yr ardal.
- Yr ymateb gan bobl i’r newyddion o gytundeb gan y cyngor i adeiladu parc beicio o fewn ardal o brydferthwch.
- Sut ddechreuwyd trafodaethau i adeiladu parc beicio yn Abertawe.

Gweithgaredd 3 / Activity 3
Cynllunia adroddiad ysgrifenedig gan ddechrau gyda chyflwyniad, prif destun a chasgliad. Cofia ychwanegu lluniau neu ddata addas i gyd-fynd gyda'r testun er mwyn creu adroddiad deniadol.
Dyma yw dy destun:
Mae tîm pêl-droed yr ysgol wedi ennill lle yn rownd derfynol twrnament ysgolion lleol.
Enillon nhw’r rownd gynderfynol yn erbyn gwrthwynebydd mwyaf yr ysgol gyda 3 gôl i 0.
Sgoriwyd dwy gôl gan Ronan, capten y tîm. Dywedodd Ronan ei fod yn falch iawn o’i dîm.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
