Mae BBC Bitesize yma i ddarparu addysg heb ei hail i ddisgyblion ysgol uwchradd tra eu bod i ffwrdd o’r ysgol.
Mae’r deunyddiau i gyd wedi eu llunio gan athrawon ac arbenigwyr ym mhob maes, gyda’r bwriad o addysgu ac ysbrydoli myfyrwyr wrth iddynt weithio gartref.
Blwyddyn 7 i 9: 11-14 oed (Cyfnod Allweddol 3)

Cymraeg
Adnoddau cyffrous ar gyfer disgyblion CA3 sy'n astudio Cymraeg. Dyma gyfle iddynt ymarfer eu sgiliau darllen, llafaredd ac ysgrifennu drwy wylio fideos byr am griw o ffrindiau, sy’n siarad mewn acenion a thafodieithoedd o bob cwr o Gymru. Ceir hefyd gweithgareddau hwyliog i atgyfnerthu’r dysgu. Mae trawsysgrif o’r sgript ar gael yn ogystal.
Mathemateg
Dyma gyfle i ddisgyblion CA3 sy'n astudio Mathemateg ganolbwyntio ar themâu megis Algebra; Rhif; Siâp, gofod a mesurau; Trin data. Ceir canllawiau ysgrifenedig ynghyd â phrawf i atgyfnerthu’r dysgu.

Blwyddyn 10 i 11: 14-16 oed (Cyfnod Allweddol 4 - TGAU)
Astudiaethau Crefyddol
Ceir adnoddau TGAU ar gyfer Astudiaethau Crefyddol, sy'n cynnwys canllawiau ysgrifenedig, profion a fideos ysgafn ar gyfer Cristnogaeth, Iddewiaeth ac Islam, yn ogystal â safbwyntiau anghrefyddol. Y themâu dan sylw yw Credoau, dysgeidiaethau ac arferion; Bywyd a marwolaeth; Daioni a drygioni; Perthnasoedd; Hawliau dynol.
Bioleg
Mae TGAU Bioleg yn seiliedig ar fanyleb ddiweddaraf CBAC sy’n cael ei dysgu o fis Medi 2016 ymlaen. Bydd y cynnwys yn helpu gyda deall ffenomenau cymhleth ac amrywiol y byd naturiol drwy edrych yn fanylach ar y themâu canlynol: Celloedd, systemau organau ac ecosystemau; Amrywiad, homeostasis a micro-organebau; a Sgiliau ymarferol. Ceir animeiddwaith hwyliog gyda thrawsysgrif o’r sgript i helpu gyda’r cysyniadau mwyaf cymhleth.
Cemeg
Adnoddau TGAU ar gyfer adolygu Cemeg, sy'n cynnwys themâu megis Natur sylweddau ac adweithiau cemegol; Adeiledd atomig a'r tabl cyfnodol; Dŵr; Y Ddaear sy'n newid yn barhaus; Cyfradd newid cemegol; Calchfaen; Bondio, adeiledd a phriodweddau; Asidau, basau a halwynau; Metelau ac echdynnu metelau; Adweithiau cemegol ac egni; Olew crai, tanwyddau a chemeg organig; Adweithiau cildroadwy, prosesau diwydiannol a chemegion pwysig. Mae fideos gan y cymeriadau Mags a Cal yn rhoi naws hwyliog i’r dysgu.
Cymraeg
Mae’r adran hon yn cynnwys canllawiau i ddysgwyr a chlipiau fideo sy’n cyd-fynd â manyleb TGAU Cymraeg CBAC. Ceir yma nodiadau sy’n egluro’r gwahanol ffurfiau ysgrifennu, a chynghorion ar gyfer llafaru’n glir. Ceir hefyd adran ar ramadeg.
Daearyddiaeth
Ar gyfer disgyblion sy’n astudio TGAU Daearyddiaeth, mae llwyth o cynnwys ar gael ar ffurf canllawiau ysgrifenedig, profion ac animeiddwaith lliwgar ar gyfer y themâu Tirweddau ffisegol a dynol newidiol; Materion amgylcheddol a datblygiad; Ymchwiliad gwaith maes; Sgiliau daearyddol.
Drama
Adnoddau TGAU ar gyfer adolygu Drama, sy'n cynnwys canllawiau ysgrifenedig, profion a fideos ar gyfer y themâu Sgiliau perfformio; Gwaith sgript; Arddulliau, genres ac ymarferwyr; Byd y ddrama a dylunio theatr; Ysgrifennu am ddrama a theatr.
Ffiseg
Mae help wrth law ar gyfer disgyblion sy’n astudio TGAU Ffiseg. Ceir canllawiau ysgrifenedig ynghyd â phrofion, yn ogystal â fideos lle mae ap Ada yn egluro themâu megis Trydan, egni a thonnau; Grymoedd, gofod ac ymbelydredd; a Sgiliau ymarferol.
Hanes
I’r rheiny sy’n astudio TGAU Hanes, ceir canllawiau ysgrifenedig, profion a fideos addysgol ar gyfer y themâu canlynol: Oes Elisabeth (1558-1603); Dirwasgiad, rhyfel ac adferiad (1930-1951); UDA: Gwlad gwahaniaethau (1910-1929); Yr Almaen mewn cyfnod o newid (1919-1939); Newidiadau ym maes trosedd a chosb (tua 1500 hyd heddiw); Newidiadau ym maes iechyd a meddygaeth (tua 1340 hyd heddiw); Datblygiad rhyfela (tua 1250 hyd heddiw); Newidiadau ym mhatrymau mudo (tua 1500 hyd heddiw).
Llenyddiaeth Gymraeg
Mae’r adran hon yn cynnwys canllawiau i ddysgwyr a chlipiau fideo sy’n cyd-fynd â manyleb TGAU Llenyddiaeth Gymraeg CBAC. Ceir yma nodiadau ar gyfer adolygu Uned 1 ac Uned 2 yr arholiad, sef Barddoniaeth a Nofelau.
Mathemateg
Mae’r adran hon yn cynnwys canllawiau i ddysgwyr a chlipiau fideo gyda Gareth y newyddiadurwr ar gyfer manyleb ddiweddaraf TGAU Mathemateg. Mae'r adnodd yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau, technegau a chysyniadau mathemategol gyda phwyslais ar ddilyn cyfarwyddiadau uniongyrchol i ddatrys problemau sy'n cynnwys trefnau arferol. Y themâu dan sylw yw Rhif; Algebra; Geometreg a Mesur; Ystadegau.
Mathemateg Rhifedd
Mae’r ditectif mathemateg, Al Gebra, wrth law i helpu yn fideos doniol TGAU Mathemateg Rhifedd. Ceir hefyd y canllawiau a phrofion arferol yn yr adnodd hwn, sy’n cynnwys problemau mathemateg mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn, ac yn dangos y ffordd fwyaf effeithiol i gyfrifo atebion cywir. Y themâu dan sylw yw Rhif; Algebra; Geometreg a Mesur; Ystadegau.
Saesneg Iaith
Mae llwyth o ddeunyddiau ar gael ar gyfer TGAU Saesneg Iaith ar ffurf canllawiau ysgrifenedig a phrofion. Mae’r adnodd yn cynnwys gwybodaeth ar y themâu canlynol: Analysing fiction; Analysing non-fiction; Comparing notes; Writing; Spelling, punctuation and grammar; Spoken language.
Llenyddiaeth Saesneg
Ceir adnodd cynhwysfawr ar gyfer Llenyddiaeth Saesneg ar ffurf canllawiau ysgrifenedig, profion, inffograffeg a fideos diddorol. Y themâu dan sylw yw Shakespeare; Post 1914 Prose/Drama; Poetry.
TGCh
Adnoddau TGAU ar gyfer adolygu TGCh, sy'n cynnwys deunyddiau dysgu ar y themâu canlynol: Data ac ansawdd data; Adloniant cartref; Busnes cartref; Meddalwedd rhaglenni; Materion diogelu data; Materion iechyd.
Blwyddyn 10 i 11: 14-16 oed (Cymhwyster Bagloriaeth Cymru)

Bagloriaeth Cymru
Bydd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru (CBC Cenedlaethol: Sylfaen CA4) yn atgyfnerthu a meithrin sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd ar gyfer addysg uwch, bywyd a gwaith. Ceir adnoddau ar ffurf canllawiau ysgrifenedig, profion ac animeiddwaith i gyd-fynd â gofynion yr Her menter a chyflogadwyedd; Her dinasyddiaeth fyd-eang; Her y gymuned; a'r Project unigol.
