
Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad i sut i ddefnyddio'r treiglad meddal gydag enwau
- Tri gweithgaredd i ymarfer y treiglad meddal gydag enwau
Lesson content
- One introduction on how to use the soft mutation with nouns
- Three activities to practise using the soft mutation with nouns

Y treiglad meddal
Mae treiglo yn elfen bwysig iawn os wyt ti am siarad ac ysgrifennu’n gywir yn Gymraeg.
Y treiglad mwyaf cyffredin yn Gymraeg yw’r treiglad meddal.
Mae nifer fawr o reolau ar gyfer pryd i ddefnyddio’r treiglad meddal, ond bydd y wers hon yn canolbwyntio ar y rheolau sy’n ymwneud ag enwau yn unig.
Dyma dabl o’r llythrennau sy’n treiglo feddal a’r newid sy’n cymryd lle.
| Llythyren | Enghraifft o enw | Enw wedi ei dreiglo | |
|---|---|---|---|
| p > b | pen | ben | |
| t > d | trwyn | drwyn | |
| c > g | ceg | geg | |
| b > f | bawd | fawd | |
| d > dd | dafad | ddafad | |
| g > - | gwên | wên | |
| ll > l | llaw | law | |
| m > f | mam | fam | |
| rh > r | rhaw | raw |
Wrth ddefnyddio enwau yn Gymraeg, rhaid bod yn ymwybodol o ble i dreiglo’n feddal. Dyma’r rheolau dylet ti eu dilyn.
1. Enw benywaidd unigol ar ôl y, yr, ‘r
- merch > y ferch
- pêl > y bêl
Does dim rhaid i ti dreiglo 'll' ac 'rh' yn yr achos hwn:
- llaw > y llaw
- rhaw > y rhaw
2. Enwau benywaidd unigol ar ôl ‘un’
- cath > un gath
- basged > un fasged
3. Enwau benywaidd unigol ar ôl ‘dwy’
- cadair > dwy gadair
- merch > dwy ferch
4. Enwau gwrywaidd unigol ar ôl ‘dau’
- gwely > dau wely
- ci > dau gi
5. Enwau gwrywaidd a benywaidd ar ôl ‘ail’
- tŷ > yr ail dŷ
- bachgen > yr ail fachgen
- merch > yr ail ferch
- desg > yr ail ddesg
6. Pan fydd rhifolion yn cyfeirio at enw benywaidd, bydd y rhif a’r enw yn treiglo’n feddal:
- merch > y bumed ferch
- cân > y ddegfed gân
- blwyddyn > y nawfed flwyddyn
- gwobr > y drydedd wobr
7. Ar gyfer enwau sy’n dilyn yr ‘yn’ traethiadol
Swyddogaeth yr ‘yn’ traethiadol yw dweud beth yw rhywbeth. Yn Gymraeg, rhaid defnyddio’r ‘yn’ traethiadol i gyflwyno enw mewn rhai achosion.
- meddyg > mae’r ferch yn feddyg
- dawns > mae hon yn ddawns anodd iawn
Does dim angen treiglad meddal ar gyfer ‘ll’ ac ‘rh’ yn yr achos hwn:
- llwyd > mae’r siwmper yn llwyd
- lle > mae Penarth yn lle hyfryd
- rhad > mae’r bwyd yn rhad
Cofia fod yr ‘yn’ traethiadol yn wahanol i’r ‘yn’ arall sydd yn golygu ‘o fewn’.
8. Ar gyfer enwau sy’n dilyn yr ansoddeiriau ‘hen’, ‘hoff’, 'cas' a ‘gwahanol’
- tŷ > hen dŷ
- castell > hen gastell
- llaw > hen law
- bwyd > hoff fwyd
- llyfr > hoff lyfr
- peth > cas beth
- rhaglen > cas raglen
- pobl > gwahanol bobl
- llefydd > gwahanol lefydd
9. Ar ôl rhai arddodiaid
Rhaid treiglo unrhyw air, gan gynnwys enwau, ar ôl yr arddodiaid hyn:
am, ar, at
dan, dros, drwy
wrth, gan, hyd
heb, i, o
- bwyd > heb fwyd
- Caernarfon > i Gaernarfon
- Bangor > o Fangor
- llyfr > Mae ganddi lyfr.
- pres > Mae arnyn nhw bres.
I ddysgu rhagor am yr arddodiaid a’r treiglad meddal, cer i’r wers ar Arddodiaid.
10. Enwau gwrywaidd neu fenywaidd (unigol neu'n lluosog) ar ôl ‘dyma’, ‘dyna’, ‘dacw’
blodyn - dyma flodyn!
blodau - dyma flodau hardd!
cadair - dyma gadair!
cadeiriau - dyma gadeiriau cyfforddus!
desg - dyna ddesg Rhian!
dyn - dyna ddyn tal!
pechod - dyna bechod!
trueni - dyna drueni!
mam - dacw fam Ryan yn dod oddi ar y trên!
tad - dacw dad Carys yn croesi'r ffordd!
11. Enw sy’n dilyn ‘na neu ‘yna’
Mae'r ffurf hon yn cael ei defnyddio gan amlaf ar lafar neu ar gyfer iaith fwy anffurfiol.
- ci > Mae ‘na gi wrth y drws.
- pryf > Mae ‘na bry' yn fy nghawl i!
- bwyd > Mae ‘na fwyd yn y frij.
12. Ansoddair yn y radd eithaf pan wyt ti’n cyfeirio at enw benywaidd
- tal > y dalaf (er enghraifft, cyfeirio at y person neu’r peth benywaidd mwyaf tal)
- gorau > yr orau (er enghraifft, cyfeirio at y person neu’r peth benywaidd gorau)

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Cywira’r brawddegau isod yn ôl yr angen. Nid pob brawddeg sydd angen ei chywiro.
Cofia fod enw benywaidd unigol yn treiglo’n feddal ar ôl y, yr, ‘r. Nid yw enw gwrywaidd unigol yn treiglo’n feddal ar ôl y, yr, ‘r.
- Roedd pawb yn siarad am y cerdd brydferth.
- Rydw i eisiau’r cyfrifiadur du, nid yr un pinc!
- Harri yw enw’r pysgodyn glas.
- Mae ‘na band roc newydd yn ffurfio o’r enw ‘Y Tafod Pinc’.
- Nid yw’r rhaff hon yn cael ei defnyddio ar gyfer dringo.
- Mae’r raglen ddiddorol hon yn boblogaidd iawn.
- Hoffwn newid o’r ffrog hyll yma.
- Eisteddais i ar y cadair gyfforddus.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Rho ‘hoff’ o flaen yr enwau canlynol:
- cadair
- bag
- car
- person
- tŷ
Rho ‘hen’ o flaen yr enwau canlynol:
- llun
- ci
- cath
- dyn
- maneg
- testun

Gweithgaredd 3 / Activity 3
Ffurfia frawddeg yr un ar gyfer yr enwau benywaidd canlynol. Defnyddia rifolion yn dy frawddegau.
- 2il + cadair
- 3ydd + bisged
- 4ydd + banana
- 5ed + cath
- 10fed + barf

Cwis
Ceisia wneud y cwis canlynol i brofi dy hun.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
