
Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad i'r treiglad meddal pan nad yw'n ymwneud yn benodol ag enw, ansoddair neu ferf
- Dau weithgaredd i ymarfer y treiglad meddal
Lesson content
- One introduction to the soft mutation when it is not exclusively linked to a noun, adjective or verb
- Two activities to practise using the soft mutation

Y treiglad meddal
Mae treiglo yn elfen bwysig iawn os wyt ti am siarad ac ysgrifennu’n gywir yn Gymraeg.
Y treiglad mwyaf cyffredin yw’r treiglad meddal. Mae nifer fawr o reolau ar gyfer pryd i ddefnyddio’r treiglad meddal, er enghraifft, mae rheolau arbennig i’w dilyn ar gyfer y treiglad meddal gydag enwau, gydag ansoddeiriau a’r treiglad meddal gyda berfau.
Ond hefyd, mae rheolau ychwanegol sydd angen eu dysgu ar gyfer defnyddio’r treiglad meddal.
Dyma dabl o’r llythrennau sy’n treiglo feddal a’r newid sy’n cymryd lle.
| Llythyren | Treiglad meddal | ||
|---|---|---|---|
| p | > | b | |
| t | > | d | |
| c | > | g | |
| b | > | f | |
| d | > | dd | |
| g | > | - | |
| ll | > | l | |
| m | > | f | |
| rh | > | r |
Dyma'r rheolau ar gyfer y treiglad meddal pan nad yw'n ymwneud yn benodol ag enwau, ansoddeiriau na berfau.
1. Ar ôl y rhagenwau ‘dy’ ac ‘ei’ (gwrywaidd)
Am ragor o fanylion ac i ymarfer y rhagenwau, cer i’r gwersi canlynol: Rhagenwau – person 1af a’r 2il berson a Rhagenwau – 3ydd person.
tad > dy dad di
tad > ei dad ef/o
mam > dy fam di
mam > ei fam ef/o
ci > dy gi di
ci > ei gi ef/o
gweld > dy weld di
gweld > ei weld ef/o
2. Ar ôl ‘neu’ ar gyfer enwau, ansoddeiriau a berfenwau
Enwau:
- coffi > te neu goffi
- te > coffi neu de
- drwg > da neu ddrwg
- merch > bachgen neu ferch
- bachgen > merch neu fachgen
- llai > mwy neu lai
Ansoddeiriau:
- gwyn > du neu wyn
- du > gwyn neu ddu
- bach > mawr neu fach
- mawr > bach neu fawr
Berfenwau:
- peidio > Wyt ti’n bwriadu mynd neu beidio?
- rhedeg > cerdded neu redeg
Does dim angen treiglo ffurf gryno’r ferf ar ôl ‘neu’:
- cerddwch neu rhedwch
- rhedwch neu cerddwch
3. Dyddiau’r wythnos os wyt ti eisiau cyfleu diwrnod penodol
- dydd Mawrth = y diwrnod yn gyffredinol
- ddydd Mawrth = ar ddydd Mawrth penodol, ee ddydd Mawrth, 25 Mehefin
Mae’r rheol yma yn ddefnyddiol os wyt ti’n creu poster, taflen neu wahoddiad.
4. Wrth ddefnyddio’r amser fel adferf
- tair blynedd > Fe briodon nhw dair blynedd yn ôl.
- pob > Dw i’n mynd am dro bob dydd.
- gwastad > Mae hi wastad yn treiglo’n gywir.

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Darllena’r disgrifiad canlynol am fachgen o’r enw Siôn.
Chwilia am y gwallau treiglo - cofia fod ‘ei’ gwrywaidd yn achosi treiglad meddal.
Edrychai Siôn yn od o’i pen i’w draed. Roedd ei gwallt yn bentwr o gyrls sinsir, ei trwyn yn hir ac yn bigog, ei crys yn smotiau llachar a throwsus gwyrdd. Gwisgai esgidiau a oedd yn rhy fawr iddo, ac roedd ei cerddediad yn gam. Edrychai fel person o blaned arall!

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Cywira’r canlynol:
- dy cefn
- dy cot
- dy bag
- dy llyfrau
- dy llaw
- dy esgidiau
- dy gwefus
- dy trwyn
- dy pen
- dy maneg

Cwis
Ceisia wneud y cwis canlynol i brofi dy hun.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
